Neidio i'r prif gynnwys
Aaron Wainwright

Aaron Wainwright gets a first start of the SIx Nations campaign

Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi’r XV fydd yn cynrychioli Cymru yn erbyn Ffrainc yn y Stade de France ddydd Sadwrn (18 Mawrth am 2.45pm GMT yn fyw ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Bydd yr wythwr Talupe Faletau yn ennill ei 100fed cap ddeuddeg mlynedd wedi iddo gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn y Barbariaid. Enillodd Faletau ei 50fed cap yn erbyn Fiji yn ystod Cwpan y Byd 2015.

Bydd Dillon Lewis yn ennill ei 50fed cap os y bydd yn cael ei alw o’r fainc ddydd Sadwrn.

DFP – Leaderboard

Bydd George North oedd hefyd yn wynebu’r Barbariad gyda Faletau yn 2011 yn partneru Nick Tomkins yn y canol yn erbyn Ffrainc y penwythnos hwn.

Am y trydydd tro yn ei yrfa ryngwladol – bydd Louis Rees-Zammit yn dechrau’n safle’r cefnwr gyda Rio Dyer a Josh Adams ar yr esgyll.

Mae Dan Biggar yn dychwelyd o’i anaf i safle’r maswr tra bo Rhys Webb yn parhau’n fewnwr wedi ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth eleni yn erbyn Yr Eidal y penwythnos diwethaf.

Mae dau newid ymysg y blaenwyr gydag Alun Wyn Jones yn dechrau’n yr ail reng tra bod Aaron Wainwright yn ymddangos yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf eleni’n flaen-asgellwr ar yr ochr dywyll.

Nid oedd modd ystyried Jac Morgan gan iddo anafu ei bigwrn wrth ymarfer.

Ymysg y blaenwyr ar y fainc bydd Gareth Thomas a Bradley Roberts i gynnig opsiynau yn y rheng flaen.

Dafydd Jenkins a Tommy Reffell yw’r ddau flaenwr arall ar y fainc tra bydd Leigh Halfpenny, Tomos Williams ac Owen Williams yn cynnig yr opsiynau tactegol eraill.

Dywedodd Gatland: “Roedd sicrhau buddugoliaeth yn y Chwe Gwlad y Sadwrn diwethaf yn bwysig iawn i ni o safbwynt ein hyder. Roedd yn gam pendant i’r cyfeiriad cywir ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd.

“Ry’n ni wedi gweithio’n galed er mwyn gwella ambell fân wendid yn ein amddiffyn ac rydym yn parhau i wella’n ymosodol hefyd.

“Roedd perfformiad Ffrainc y penwythnos diwethaf gyda’r gorau i mi ei weld a nhw yw ail dîm gorau’r byd ar hyn o bryd wrth gwrs. Maen nhw’n gorfforol iawn ac wedi dechrau pob gêm yn gyflym hyd yma.

“Mae’n rhaid i ni ddechrau’n dda ddydd Sadwrn fel ein bod yn gallu cystadlu ym mhob agwedd o’r gêm fel bod gennym gyfle i gymryd ein cyfleoedd.

“Mae Ffrainc yn cicio cryn dipyn hefyd felly mae’n rhaid i’r agwedd honno o’n gêm ni fod yn effeithiol

Wrth gyfeirio at 100fed cap Faletau dywedodd Gatland: “Mae wedi bod yn was ffyddlon iawn i rygbi Cymru ac mae’r parch sydd gan bawb ato’n adrodd cyfrolau.

“Mae’n gwneud pethau pwysig nad ydi pawb yn sylwi arnyn nhw ac mae’n chwaraewr mawr ar y llwyfan byd-eang. Roedd yn allweddol yr wythnos ddiwethaf a sgoriodd gais hefyd wrth gwrs.

“Mae cyrraedd 100 cap yn glod mawr iddo a’i deulu. Gobeithio y bydd yn perfformio’n dda yn erbyn Ffrainc er mwyn cofnodi’r achlysur mewn steil”.

Wales senior men’s XV to play France in the 2023 Guinness Six Nations, Saturday 18 March KO 2.45pm GMT. Live on ITV and S4C.

Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Glwad 2023, Sadwrn 18 Mawrth 2.45 GMT.
Yn fyw ar S4C ac ITV

15. Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby / Caerloyw– 24 caps)
14. Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 48 caps)
13. George North (Ospreys / Gweilch– 112 caps)
12. Nick Tompkins (Saracens – 26 caps)
11. Rio Dyer (Dragons /Dreigiau – 6 caps)
10. Dan Biggar (Toulon – 106 caps)
9. Rhys Webb (Ospreys / Gweilch– 39 caps)
1. Wyn Jones (Scarlets – 47 caps)
2. Ken Owens (Scarlets – 90 caps) captain / capten
3. Tomas Francis (Ospreys / Gweilch– 70 caps)
4. Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 45 caps)
5. Alun Wyn Jones (Ospreys / Gweilch – 157 caps)
6. Aaron Wainwright (Dragons / Dregiau– 36 caps)
7. Justin Tipuric (Ospreys / Gweilch – 92 caps)
8. Taulupe Faletau (Cardiff Rugby / Caerdydd – 99 caps)

Eilyddion
16. Bradley Roberts (Dragons / Dreigiau – 4 caps)
17. Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch– 20 caps)
18. Dillon Lewis (Cardiff Rugby / Caerdydd– 49 caps)
19. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 5 caps)
20. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 8 caps)
21. Tomos Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd– 44 caps)
22. Owen Williams (Ospreys / Gweilch– 6 caps)
23. Leigh Halfpenny (Scarlets – 98 caps)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023