Neidio i'r prif gynnwys
Cardiff v Dragons

Jack Woods of Dragons exploits an open space against Cardiff

Y Gweilch yn bencampwyr rhanbarthol tîmau dan 18 oed

Mae’r Gweilch wedi cael eu coroni’n bencampwyr ym mhencampwriaeth Gradd Oedran Rhanbarthol dan 18 ar ôl curo’r Sgarlets 22-17 yn Llanymddyfri.

Rhannu:

Gydag un gêm i’w chwarae o hyd ym mhencampwriaeth Tîm dan 18 oed, mae’r Gweilch ar frig y bwrdd pwyntiau ac nid oes modd eu trechu. Caerdydd yw’r herwyr agosaf ond mae nhw 10 pwynt ar ôl y Gweilch, felly roedd  buddugoliaeth neithiwr yn goron ar dymor gwych i’r dynion ifanc mewn du.

Sgoriodd y blaenasgellwr Seb Rodriguez-Davies gais cyntaf y noson ar ôl rhuthro o sgarmes yn agos at linell cais y Sgarlets yn y 12fed munud.

DFP – Leaderboard

Cafwyd ail gais pum munud yn ddiweddarach pan ruthrodd Kian Hire am y llinell o agos, gan roi’r Gweilch 10-0 ar y blaen.

Sgoriodd Luke Tucker i’r Sgarlets ar ôl i gic clirio gan y gweilch gael ei tharo i lawr, ac roedd y prop pen rhydd wrth law i groesi’r gwyngalch.

Cafodd yr asgellwr Ben Evans gais yn fuan yn yr ail hanner gan roi’r Gweilch 15-5 ar y blaen, ond ymatebodd y Sgarlets yn gyflym gyda Matthew Williams o fewn trwch blewyn i gyrraedd y llinell gais.

Enillodd Alex George gais pwynt bonws i’r Gweilch cyn i Macs Page ymateb ar ran y Sgarlets. Ond nid oedd yr ymdrech yn ddigon gyda’r Gweilch yn fuddugoliaethus, ac yn ennill teitl pencampwyr Gradd Oedran Rhanbarthol dan 18 oed.

Yn y gêm arall a chwaraewyd, cwblhaodd y Dreigiau’r tymor gyda buddugoliaeth haeddiannol o 19-15 dros Rygbi Caerdydd.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Gweilch yn bencampwyr rhanbarthol tîmau dan 18 oed
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Gweilch yn bencampwyr rhanbarthol tîmau dan 18 oed
Y Gweilch yn bencampwyr rhanbarthol tîmau dan 18 oed
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Gweilch yn bencampwyr rhanbarthol tîmau dan 18 oed
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Y Gweilch yn bencampwyr rhanbarthol tîmau dan 18 oed