Neidio i'r prif gynnwys
Dan Edwards

Wales will kick-off their U20 Six Nations campaign with a home fixture in Colwyn Bay

Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!

Mae tocynnau dwy gêm gartref Cymru Dan 20 yn Stadiwm CSM ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023 ar werth nawr i’r cyhoedd, ar-lein yn www.venuecymru.co.uk

Rhannu:

Bydd y genhedlaeth nesaf o sêr rygbi Cymru yn dychwelyd i Fae Colwyn wrth groesawu Iwerddon yn y gêm gyntaf ddydd Gwener 3 Chwefror, 2023 (gêm yn cychwyn am 7pm). Yna byddan nhw’n dychwelyd ar gyfer yr unig gêm gartref arall yn y Bencampwriaeth yn rownd tri yn erbyn Lloegr ddydd Gwener, 24 Chwefror (gêm yn cychwyn am 7.15pm).

Mae prif hyfforddwr Cymru, Byron Hayward, yn hyderus y gall ei dîm adeiladu ar lwyddiant yr haf diwethaf pan wnaethant gyrraedd rownd derfynol Cyfres Haf Dan 20 y Chwe Gwlad.

DFP – Leaderboard

O’r garfan hwnnw, enillodd y capten Joe Hawkins, Dafydd Jenkins a Christ Tshiunza ddyrchafiad i garfan Cyfres yr Hydref Wayne Pivac yn 2022.

“Bob blwyddyn rydyn ni’n cyfarfod y bechgyn ddechrau mis Ionawr, a byddwn yn adrodd hanes y bechgyn sydd wedi mynd drwodd i lefel uwch. Mae’r ffaith ei fod wedi digwydd mor ddiweddar i’r tri yma, yn ffactor sydd wedi eu hysgogi nhw’n fawr – a hynny yn y bôn dim ond dri mis ar ôl inni chwarae yn yr Eidal.

“Mae bod yn rhan o garfan Dan 20 Cymru yn dangos eu bod nhw’n agos at y nod, felly mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddwn ni’n sôn amdano wrth i ni ddechrau ar yr ymgyrch.

“Mae gennym ni raglen dda ar waith erbyn hyn ac rwy’n hyderus y byddwn ni’n cael dechrau cystadleuol iawn yn erbyn Iwerddon.”

Mae Hayward hefyd yn edrych ymlaen at herio Lloegr. Yn y gêm hon y llynedd, cafodd capten Cymru Alex Mann gerdyn coch a’r tîm mewn gwyn a gariodd y dydd.

“Roeddwn i’n meddwl bod y gêm yn Doncaster yn gêm dda iawn nes i Alex Mann gael cerdyn coch. Roeddem wedi sefydlu ein hunain yn y gêm bryd hynny ac roedd y bechgyn yn chwarae’n dda. Yn amlwg, fe gafodd hynny effaith ar yr ail hanner, ond bydd yn frwydr dda eto.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Ogledd Cymru. Rydyn ni wedi bod yn mynd yno ers dros 10 mlynedd felly mae’n gae cyfarwydd iawn i ni mewn gwirionedd.

“Mae llawer o fechgyn wedi chwarae yno yn Uwch Gynghrair Cymru felly yn sicr nid yw’n lle anghyfarwydd i ni. Rydyn ni wastad wedi cael croeso mawr yno. Mae gwesty’r Quay yn fendigedig, a’r staff yn wych ac yn ein trin ni’n anhygoel o dda,” dywedodd Hayward.

Ychwanegodd y Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Mae’r awyrgylch yn Eirias ar gyfer gemau yn wych, felly rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at groesawu carfan dan 20 Cymru yn ôl i Stadiwm CSM yn 2023.

“Mae’r gemau bob amser yn boblogaidd iawn ac yn cael effaith gadarnhaol ar broffil rygbi yn y rhanbarth. Mae’n bleser mawr i gefnogwyr rygbi yng Ngogledd Cymru gael y gemau hyn ar garreg eu drws eto – dewch draw i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o sêr rygbi Cymru.”

Gemau cartref Cymru Dan 20 y Chwe Gwlad 2023 yn Stadiwm CSM
Dydd Gwener 3 Chwefror – Cymru Dan 20 v Iwerddon Dan 20 – 7pm
Dydd Gwener 24 Chwefror – Cymru Dan 20 v Lloegr Dan 20 – 7.15pm Mae tocynnau yn yr eisteddle yn £15 i oedolion a £10 i bobl ifanc dan 17 oed. Mae tocynnau i sefyll o amgylch y cae yn £10 i oedolion a £5 i bobl ifanc dan 17.

Tocynnau ar gael yn: www.venuecymru.co.uk
(*Codir ffi archebu wrth dalu)

Gellir prynu tocynnau arbennig drwy swyddfa docynnau Venue Cymru – 01492 872000

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Rhino Rugby
Sportseen
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!
Amber Energy
Opro
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr!