Neidio i'r prif gynnwys
Grav: Ffilm arbennig sy’n adrodd stori un o wir arwyr Cymru

Grav: Ffilm arbennig sy’n adrodd stori un o wir arwyr Cymru

Chwaraewyr cysylltiedig

Y peth pwysicaf i mi yw ein bod ni’n talu teyrnged i Ray a’i gofio fe yn y ffordd iawn.”

Yr actor Gareth John Bale sydd yn chwarae’r brif ran wrth i S4C dalu teyrnged i un o gewri hanes rygbi Cymru, Ray Gravell, mewn ffilm arbennig.

Rhannu:

I nodi’r diwrnod pe byddai Ray wedi troi’n 70 oed, ar nos Sul 12 Medi am 9.00yh, bydd S4C yn dangos Grav – ffilm sydd yn adrodd hanes ei fywyd ac yn olrhain rhai o’r digwyddiadau sy’n siapio ei gymeriad unigryw.

Cafodd y ddrama, sydd wedi ei haddasu o’r sioe lwyfan boblogaidd a grëwyd gan Owen Thomas, Peter Doran a Gareth John Bale, ei chyfarwyddo gan Marc Evans, sydd wedi gweithio ar raglenni megis The Pembrokeshire Murders, Manhunt ac Y Bomiwr a’r Tywysog.

DFP – Leaderboard

Ac yntau wedi perfformio’r sioe lwyfan un-dyn dros gant o weithiau ar draws Cymru, Phrydain ac America, bydd cast o actorion yn ymuno â Gareth John Bale ar gyfer yr addasiad yma.

Dywedodd Gareth: “Mae ‘na elfennau o hapusrwydd a thristwch yn y ddrama, dyna sy’n ei gwneud hi’n arbennig. Dwi’n ame’ bydde Grav ei hun yn dweud bod sawl chwaraewr yn ystod hanes y crys coch yn well chwaraewyr na Grav – dim llawer, ond rhai.

“Ond o ran stori eu bywydau, does dim cymaint i’w ddweud, ac roedd Grav yn ddyn oedd yn gwisgo’i galon ar ei lawes. Mae’r ddrama yn mynd dros rhai o’r adegau trist, rhai a gafodd effaith fawr arno fe ond y’n ni hefyd yn dathlu ei fywyd e. Mae yna chwerthin yn ogystal a dagrau yn y ffilm, fel oedd yn gwbwl nodweddiadol o Ray o’r Mynydd.

“Yn hytrach na trio gwneud rhyw fath o caricature, fi’n trio cael ysbryd y dyn. Dyna beth sy’n bwysig i fi, yw bod ysbryd Grav yn dod drwyddo. Sa i’n credu fod unrhyw un yn mynd i wylio fi’n chwarae Grav a meddwl, ‘mae e’n edrych yn union fel Grav’. Ond beth mae pobl wedi dweud yw, ‘ti wedi dala fe, ti wedi dala ei enaid e.’

“Y peth pwysicaf i mi yw ein bod ni’n talu teyrnged i Ray a’i gofio fe yn y ffordd iawn, ond hefyd bod ei deulu e’n hapus ‘da fe. Mae hynny’n hynod o bwysig i fi ac i bawb. Fi’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth nhw dros y blynyddoedd.”

Er ei gyfraniad aruthrol i Glwb Rygbi Llanelli, Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, roedd Grav yn adnabyddus am ei waith oddi ar y cae yn ogystal, wedi gyrfa lwyddiannus fel sylwebydd, darlledwr ac actor. Fel actor ifanc, roedd Gareth yn ddigon ffodus i weithio gyda Ray ar y gyfres S4C, A470.

Ychwanega Gareth: “Erbyn hynny roedd Grav wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr enwog Louis Malle, ac actorion fel Juliette Binoche, Jeremy Irons a Peter O’Toole. Roedd ei CV actio fe lot yn fwy na’n un i. Ond roedd o wastad yn dweud, ‘Ti yw’r expert, dweda di wrtha i nawr.

“Dw i’n cofio mewn ryw frêc, roeddwn ni’n eistedd rownd y bwrdd. Roedd rhai o’r actorion ifanc yn gwybod pwy oedd e, ond yn trial cael e mas ohono fe. Fi’n cofio fo’n dweud wrtha nhw, ‘Well, I used to play a bit of rugby.’

“Fe saethodd Alun ap Brinley mas o’i gader! ‘A little bit of rugby? Boys, this is a British Lion!’ medde fe. Ond doedd Grav ddim yn fodlon dweud hynny ei hunan. Doedd e byth yn siarad ei hunan lan. Am dridiau’ nes i weithio ‘da fe, ond fel mae pawb sy’n cwrdd â Grav yn dweud, o’dd e just yn bleser.”

‘Grav’
Nos Sul 12 Medi, 9.00yh
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Regan Developments gyda Tarian Cyf

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Grav: Ffilm arbennig sy’n adrodd stori un o wir arwyr Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Grav: Ffilm arbennig sy’n adrodd stori un o wir arwyr Cymru
Grav: Ffilm arbennig sy’n adrodd stori un o wir arwyr Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Grav: Ffilm arbennig sy’n adrodd stori un o wir arwyr Cymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro