Neidio i'r prif gynnwys
Cadw’r ddysgl yn wastad

Jones yn siarad â James Botham yn ystod sesiwn hyfforddi.

Cadw’r ddysgl yn wastad

Chwaraewyr cysylltiedig

Mewn Blwyddyn ‘Llewod’ yn hanesyddol mae na gyfle i fentro ac arbrofi ond cynnal a gwella safonau yw’r nod i Stephen Jones.

Rhannu:

Gyda’r Llewod yn Ne Affrica mi fydd y gwledydd unigol yn gobeithio datblygu eu carfannau dros yr ha , oes mae mwy o gyfle i fentro ac i gael cip olwg ar y chwaraewyr hynny efallai sydd wedi bod ar y cyrion neu hyd yn oed y rheiny sydd wedi creu penawde yn y tymor domestig. Yn hynny o beth dyw’r sefyllfa ddim yn wahanol i Gymru ond faint o arbrofi mewn gwrionedd y dylid eu wneud yn erbyn tîm o ansawdd yr Ariannin sy’n ymweld ar gyfer dwy gêm brawf yn y brifddinas .

Ar ôl swatio gwir Canada o’r neilltu mi fydd y Piwmas yn fwy o linyn mesur ac yn arwydd o ddyfnder y garfan – ac yn y bôn creu y dyfnder hwnnw oedd y nôd yng Nghwpan y Cenhedloedd 2020. Mae taro cydbwysedd yn y gemau yma felly ddim yn rhwydd ond oleua mae cymaint yn fwy bellach wedi bwrw’i swildod ar y lefel rhyngwladol a’r capiau newydd Hydref y llynedd yn y ffigurau dwbwl. Tra bod cael cip olwg ar dalent newydd wastad yn fanteisiol yn ôl hyfforddwr ymosod Cymru Stephen Jones ni ddylai’r ysfa i wneud hynny dynnu oddi ar momentwm sydd wedi ei hadeiladu dros Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Na’r sialens ond oherwydd ma chwaraewyr ifanc, talentog da ni yn dod mewn i’r garfan ma, cyfle gyda ni fel hyfforddwr i drio datblygu nhw , gwella nhw, wrth gwrs ma rhaid i ni ennill gemau a ni am i’r chwaraewyr ifanc yma gael y profiad o chwarae yn y stadiwm gorau yn y byd ond hefyd i chwarae yn y patrymau a’r ffordd i ni’n dymuno datblygu ein gem ni”.

Mi oedd yna bump cap newydd yn y 23 ar gyfer y gêm yn erbyn Canada ac er gwaethau ffaeleddau’r gwrthwynebwyr roedd y tîm hyfforddi ar y cyfan yn bles a’u cyfraniad.

“O ni’n hynod o bles oherwydd dim ond pythefnos ma nhw wedi bod da ni i gael y chwaraewyr mewn o’r pedwar rhanbarth sy’n chwarae ffordd gwahanol i ni a’r bechgyn sy draw yn Lloegr – sy’n chwarae dulliau ymosod gwahanol , felly i gael nhw at ei gilydd yn gyflym i chwarae rhai o’n patrymau ni o ni’n hapus – wrth gwrs agweddau ni’n gallu gwella a ni’n gwybod ni ond i feddwl dyna’r gêm gynta gethon ni gyda’n gilydd ni’n ddigon bodlon”

Yn wir mae’r garfan bresennol yn gymysgedd o’r hen a’r newydd ,y profiadol a’r amhrofiadol – ar yr asgell y Sadwrn diwethaf roedd y dawnus Tom Rogers ond wrth ei ymyl roedd yr hen ben Leigh Halfpenny ag ynte’n ennill ei ganfed cap rhyngwladol dyna pam roedd gweld chwaraewr o’i safon yn gwingo mewn poen yn y funud gynta mor , mor greulon .

“Mae e mor anffodus i berson mor dda , mor special , sy mor broffesiynnol – y ffaith bod e’n ennill ei ganfed cap ac i ddioddef anaf yn y funud gynta ma fe or anffodus i Leigh , ond dwi bendant yn ffyddiog y bydd e nôl oherwydd cymeriad cryf sy da fe , ma fe’n broffesiynnol iawn , ma fe moin bod yn llwyddianus felly dwi’n ffyddiog o weld Leigh nol ar y cae”.

Tair mlynedd yn ôl fe aeth tim Cymru heb nifer o’i sêr amlyca i herio’r Ariannin ar domen ei hunain , dyna oedd y bwriad eleni wrth gwrs cyn i’r Pandemig adael ei farc ar draws y byd . Efallai nad troed yr Andes fydd y lleoliad eleni ond dyw’r sefyllfa ddim yn anhebyg wrth i Wayne Pivac geisio adeiladu at Gwpan y Byd ymhen dwy flynedd a cheisio canfod sawl seren newydd a allai ddisgleirio yn Ffrainc yn 2023. Mae’r maen prawf yn dechrau o ddifri felly yn erbyn yr Archentwyr ac er bod na bwys mawr ar ddatblygiad – y canlyniadau yw’r unig beth sydd ar ffeddyliau’r hyfforddwyr .

“Ma rhaid i ni ddysgu llawer o’r gêm yn erbyn Canada , dy’n ni ddim am weld yr un camgymeriadau’n cael ei wneud wythnos hyn . Ma rhaid i ni wella’n safonnau ni, os i ni gallu trosglwyddo’r bêl yn gyflym a chwarae gem gyflym , dwi’n ffyddiog o achosi problemau i’r Ariannin , ma talent da ni , felly dyna’r ffordd ni am chwarae , nôd ni fel hyfforddwyr yw dysgu y mwya ni’n gallu yn y cyfnod , ond ma rhaid i ni fod yn llwyddianus hefyd ac ennill y gêm”

Gan Cennydd Davies, sylwebydd ‘Y Clwb Rygbi’ S4C/BBC Cymru.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cadw’r ddysgl yn wastad
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cadw’r ddysgl yn wastad
Cadw’r ddysgl yn wastad
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cadw’r ddysgl yn wastad
Rhino Rugby
Sportseen
Cadw’r ddysgl yn wastad
Cadw’r ddysgl yn wastad
Cadw’r ddysgl yn wastad
Cadw’r ddysgl yn wastad
Cadw’r ddysgl yn wastad
Cadw’r ddysgl yn wastad
Amber Energy
Opro
Cadw’r ddysgl yn wastad