Neidio i'r prif gynnwys
Darren Edwards

Mae prif hyffordwr Menywod Cymru dros dro, Darren Edwards yn balch i gael her newydd

Balch i gael her newydd

Mae Darren Edwards wedi’i gadarnhau fel Hyfforddwr Arweiniol dros dro i Menywod Cymru ar gyfer y gêm y Chwe Gwlad a aildrefnwyd yn erbyn yr Alban (penwythnos 31ain Hydref).

Rhannu:

Bydd y prif hyfforddwr Tîm 7 pob ochr Cymru Dynion, sydd wedi hyfforddi Caerfaddon, y Dreigiau a Chymru Dan 20 yn cael ei gynorthwyo gan Chris Horsman, Geraint Lewis a Gareth Wyatt i baratoi’r garfan ar gyfer y gêm hon flwyddyn cyn Cwpan Rygbi’r Byd nesaf yn Seland Newydd.

Mae carfan o 35 wedi’i henwi sy’n cynnwys un chwaraewr heb ei chapio, sef, y blaenwr, Laura Bleehen, a rhai profiadol sy’n dychwelyd, Shona Powell-Hughes a Caryl Thomas ac Alecs Donovan. Mae Siwan Lillicrap yn cadw’r capteniaeth a ddaliodd drwy gydol y bencampwriaeth ac ers mis Tachwedd y llynedd.

DFP – Leaderboard

Mae Edwards yn edrych ymlaen at yr her hyfforddi newydd.

“Rwy’n mwynhau heriau ac rwy’n credu ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at fynd ar y cae rygbi eto ar ôl methu chwarae gyhyd.

“Mae tîm cefnogi da iawn y tu ôl i mi – a bydd gweddill y tîm hyfforddi dros dro yn amhrisiadwy ar ôl arwain y garfan drwy gydol y tymor diwethaf. Cyfarfuom am y tro cyntaf neithiwr dan gynllun dychwelyd i chwarae cynyddol i Fenywod Cymru. Mae’n amlwg bod y chwaraewyr wedi gweithio’n galed iawn ar lefel bersonol dros y chwe mis diwethaf ac rydym i gyd yn falch y gallwn ddechrau hyfforddi gyda’n gilydd fel carfan o chwaraewyr a hyfforddwyr – wedi’u rhannu’n grwpiau yn gyntaf ac yna fel carfan gyfan ymhen ychydig wythnosau, os bydd pethau’n mynd yn dda.

“Sylwais ar Fenywod Cymru y llynedd ac rwy’n gwybod eu bod wedi creu amgylchedd gwych ar y cae ac oddi arno. Mae’r amgylchedd yn allweddol i mi. Rwy’n credu’n gryf mewn ymddygiadau, sut rydych chi’n cymryd perchnogaeth dros eich hyfforddiant unigol a grŵp a byddwn yn adeiladu cynlluniau personol y gall y chwaraewyr fynd â nhw’n ôl i’w clybiau.

“Mae gêm yr Alban yn rhoi ffocws perffaith i’n cael ni i gyd yn ôl yn y gêm 12 mis cyn Cwpan Rygbi’r Byd. Byddwn yn rhoi blociau adeiladu ar waith i ddechrau ac yn anelu at fod mor gystadleuol â phosibl pan gyrhaedda’r 1af o fis Tachwedd.”

Mae Menywod Cymru yn hyfforddi allan o bentref chwaraeon rhyngwladol Prifysgol Abertawe i baratoi ar gyfer y gêm hon.

Carfan Menywod Cymru ar gyfer y gem yn erbyn yr Alban:

Blaenwyr:

Laura Bleehen (di-gap), Alisha Butchers, Alex Callender, Gwen Crabb, Georgia Evans, Abbie Fleming, Cerys Hale, Cara Hope, Natalia John, Manon Johnes, Kelsey Jones, Molly Kelly, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap, Robyn Lock, Shona Powell-Hughes, Gwenllian Pyrs, Caryl Thomas

Olwyr:

Keira Bevan, Hannah Bluck, Alecs Donovan, Lleucu George, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Courtney Keight, Kerin Lake, Caitlin Lewis, Ffion Lewis, Lisa Neumann, Kayleigh Powell, Paige Randall, Lauren Smyth, Elinor Snowsill, Megan Webb, Robyn Wilkins

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Balch i gael her newydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Balch i gael her newydd
Balch i gael her newydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Balch i gael her newydd
Rhino Rugby
Sportseen
Balch i gael her newydd
Balch i gael her newydd
Balch i gael her newydd
Balch i gael her newydd
Balch i gael her newydd
Balch i gael her newydd
Amber Energy
Opro
Balch i gael her newydd