Neidio i'r prif gynnwys
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”

Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”

Cyn y gêm yn erbyn Awstralia yn yr Hydref o 2018 – y seithfed buddugoliaeth yn olynol i Gymru, gyda saith mwy i ddod gan orffen gyda’r Gamp Lawn – siaradon ni gyda mewnwr Gareth Davies…

Rhannu:

Mae’r gŵr sydd wedi gwenud celfyddyd o sgori ceisiau ar ôl rhyngipio yn gobeithio cipio’r cyfle i gael Cwpan y Byd mor llwyddiannus â’r un dwetha. 

Os mai cyfres yr Hydref yw dechrau’r daith tuag at Gwpan y Byd, yn naturiol mae na edrych mlaen mawr at yr hyn fydd yn digwydd blwyddyn i nawr. Ond mae’r un mor naturiol i ambell un edrych nôl yn ogystal ag edrych mlaen. Un o’r rhain yw mewnwr y Scarlets a Chymru, Gareth Davies, a sgoriodd bum cais mewn pum gêm yng Nghwpan y Byd dwetha.

DFP – Leaderboard

“Roedd Cwpan y Byd 2015 yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. Nethon ni’n reit dda a ro ni’n anffodus ein bod ni wedi colli’n erbyn De Affrica, ond rodd e’n grêt i fod yn rhan o’r holl beth. Yn anffodus i Rhys Webb gaeth e ddolur jyst cyn y gystadleuaeth, felly ges i lawer o rygbi ac on i’n ffodus iawn i sgori pum cais mewn pum gêm. Roedd y cais yn erbyn Lloegr yn un sbesial iawn a dethon ni bant a buddugoliaeth bwysig. Anghofia i byth y cais yna – un o fy hoff eiliadau fy ngyrfa mor belled. Dwlen i gael siawns i wneud yr un peth yn Siapan blwyddyn nesa ond mae lot o rygbi ‘da ni i chwarae cyn hynny. Ond os bydden i yn y sefyllfa yna eto ac yn gallu sgori cais mor sbesial a hynny bydden i’n hapus iawn.

“Mae’n neis i fod nol yn y garfan. Mae cwpwl o wynebau newydd ‘da ni a cwpwl o fois gath amser bant yn yr hâf wedi dod nôl mewn – pobl fel Dan Biggar, Liam Williams ac Alun Wyn Jones – felly mae carfan gryf da ni ar y funud. Dros yr haf nath lot o’r bois ifanc chwarae rygbi da a ma nhw’n gwthio i gael amser ar y cae yn ystod cyfres yr hydref. Fel chwaraewyr ar daith yr haf ro’ ni’n dawel hyderus oherwydd ro’ ni’n ymwybodol o’r safon oedd ‘da ni yn y garfan er bod lot o’r bois mwya profiadol ddim wedi teithio. Ond fel nath pawb weld nath lot o’r bois ifanc gamu lan i’r marc a ro’ ni’n edrych yn dda. Mae cyfres yr Hydref yn enfawr wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd. Dyw’n record ni yn erbyn Awstralia ddim yn grêt dros y blynyddoedd dwetha a gan eu bod nhw yn ein grwp ni mae’n gêm anferth. Ni’n edrych mlan yn fawr a gobeithio gallwn ni gael y canlyniad iawn i fagu bach o hyder i fynd mewn i Gwpan y Byd. Mae’n blwyddyn fawr i ni fel carfan a mae pethau’n dechrau nawr.”

Mae safle’r mewnwr yn un o’r mwyaf cystadleuol yn y garfan gydag Aled Davies a Tomos Williams yn rhoi pwysau cynyddol ar Gareth am y crys rhif naw.

“Do geson ni bob un gêm yn yr haf ac i fod yn deg i Aled a Tomos geson nhw gemau da a mae nhw wedi bod yn chwarae rygbi da – Tomos gyda’r Gleision ac Aled gyda’r Gweilch. Ond mae wedi bod fel ‘na ers blynyddoedd gyda Rhys Webb ar hyd y lle – mae’r gystadleuaeth am y crys rhif naw wastad wedi bod yn ofnadwy o gryf. Yn anffodus mae’r Scarlets wedi colli Aled i’r Gweilch ond mae Sam [Hidalgo-Clyne] wedi dod lawr o Gaeredin a mae e’n chwaraewr gwych arall a mae’n dda i gael e gyda’r rhanbarth.

“Yn anffodus mae’r Scarlets wedi colli un neu ddau wyneb cyfarwydd a ni ddim yn teimlo ein bod ni wedi chwarae’n rygbi gorau eto ond ma dal carfan gryf ‘da ni ac ar ôl y mis yma gyda Chymru fi’n edrych mlan i fynd nôl gyda’r Scarlets a gobeithio allwn ni godi’n gêm. Mae’r ddau dymor dwetha wedi bod yn wych ond ni moyn gwella a gwella bob tymor. Mae e’n lle grêt i fod ar y foment: mae criw da o chwaraewyr, staff hyfforddi a phawb tu ôl y llenni. Mae’r awyrgylch yn wych a phawb yn mwynhau cwmni’u gilydd a mae hynny i’w weld ar y cae ac oddiarno.”

Mae mwynhad Gareth yn cael ei adlewyrchu yn nifer y ceisiau mae’n sgori: 43 yn y gynghrair ac Ewrop i’w rhanbarth a 10 mewn 34 cap i’w wlad. A’n ddiweddar mae wedi datblygu tipyn o arbennigedd sef sgori ceisiau o bellter ar ôl rhyngipio.

“Fi wedi cael cwpwl o geisiau fel ‘na dros y blwyddyn dwetha – roedd un yn erbyn yr Alban i Gymru ac un i’r Scarlets yn erbyn Glasgow. Ni’n gwneud lot o waith dadansoddi ar y timau ‘ma a ro’ ni wedi sylwi wrth fynd mewn i’r gemau efallai byddai cyfle am rhyngipiad oherwydd y ffordd roedden nhw’n chwarae, ond mae rhaid bod yn y lle iawn ar yr amser iawn.”

Ac os oes rhywun wedi profi fod ganddo’r gallu i wneud hynny, Gareth Davies yw’r boi.

Fu Cymru’n curo Awstralia 9-6. Darllenwch adroddiad o’r gêm.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Rhino Rugby
Sportseen
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”
Amber Energy
Opro
Gareth Davies: “Yn y lle iawn ar yr amser iawn”