Neidio i'r prif gynnwys
Diweddariad statws URC 08/04/2020

Diweddariad statws URC 08/04/2020

Fel y mae Rygbi Cymreig yn tynnu at ei gilydd, bu i gȇm y byd yn ogystal, gael ei phrocio gan y creisis iechyd cyfredol. Yr ydym oll yn hollol ymwybodol fod, o’r trafferthion presennol y gallai, ac y dylai’n wir, weld cyfle newydd gael ei eni.  Bu i lifliniad ein calendr chwarae a chydbwyso’r angen am greu refeniw tra’n ffocysu ar lȇs chwaraewyr, fod yn fater fu’n wynebu’n chwaraeon ni ers amser maith.

Rhannu:

Mae’n gonondrwm y mae’n rhaid inni ei ddatrys ac rydym angen ein gilydd yn awr yn fwy nag erioed fel y gallwn wneud hynny.  Dylai’r holl wledydd sy’n chwarae rygbi, yn awr sylweddoli cymaint yr ydym yn gyd-ddibynnol.  Byddwn yn ceisio’n gorau i weithio gyda’n gilydd drwy’r creisis yma a dylai’r canlyniad ar y diwedd fod yn galendr rhyngwladol ledled y byd, a fydd yn treiddio i lawr trwy ein cynghreiriau cenedlaethol unigol.

Nid bod yn unedig yw’r unig allwedd i barhau, ond bydd hefyd yn gyfrinach i gyfoeth a llwyddiant tymor hir. Bu llawer o ddyfalu am lle’r aiff y gȇm nesaf, pa bryd y bydd yn dechrau eto ac ym mha gyflwr y bydd pan ail ddechreua. Rydym yn cynllunio am bob sefyllfa bosibl a byddwn yn barod. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau, pan gyrhaeddwn ochr arall y rhwyg hwn, bydd gȇm drwy’r byd i gyd yn fwy ffit, yn gryfach ac yn fwy unedig nag y bu erioed. Craidd ein cryfder fydd ein clybiau a’n gȇm gymunedol a gorfychgwn y peth yma gyda’n gilydd.

Yr eiddoch mewn rygbi,
Gareth Davies
Cadeirydd URC


Cefnogaeth Clwb: COVID – 19 

Yr ydym yn annog pob clwb i gwblhau’r Arolwg Effaith ar Glybiau a anfonwyd at ysgrifenyddion yn y Diweddariad Gwybodaeth ddydd Gwener. Bydd hyn yn caniatau inni ddeall yn well lle’n union y mae clybiau angen cefnogaeth a chyngor ag i ddosrannu’r adnoddau cywir allan o hynny.

Hyd yn hyn, bu inni dderbyn mwy na 70 arolwg ac mae ychwaneg yn dod i fewn bob awr, ond mae’n hollbwysig fod cymaint o glybiau ag sy’n bosibl yn trosglwyddo’r wybodaeth gywir inni.

Wedi nodi hynny, gwerthfawrogwn yn llwyr nad yw clybiau mewn sefyllfa, hwyrach, i ateb yr holl gwestiynau a nodwyd, ar hyn o bryd. Felly, gofynnir fod clybiau’n anfon eu harolygon atom pan fydd hynny’n gyfleus. Fodd bynnag, fel ag i ganiatau inni ddehongli’r data’n effeithiol, bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Gwener, 24ain Ebrill 2020.

Dylid anelu unrhyw gwestiynau ac ymholiadau at Linell Gymorth URC ar clubdevelopment@wru.wales

Gweithredoedd Adran Rygbi’r Gymuned

CYMDEITHASOL

Peidiwch a cholli’ch cyfle i wrando’n faith ar gyfarwyddwr cymunedol URC yn trafod sut y mae clybiau’n cydweithio ȃ’i gilydd, beth y mae URC yn ei wneud i gynorthwyo a sut fydd y dyfodol yn edrych pan ddaw rygbi’n ei ôl ymhen y rhawg. Dilynwch linc i podcast gyda Geraint John: – https://www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-14-2020/

Am ychwaneg ac i gadw’n gyfredol gyda phopeth sy’n mynd ymlaen yn y gȇm gymunedol fel mae’n digwydd, pam lai dilyn @wru_community ar Twitter – mae hon yn sianel swyddogol URC a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer clybiau.  Os na fu ichwi ddilyn yn barod, mae’r cyfrif yn hynod o boblogaidd ac yn fwy felly’n yr awyrgylch bresennol gydag awgrymiadau, tipiau a diweddariadau yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd yn ogystal ȃ newyddion yn ymwneud ȃ’r gȇm yn cael ei rannu. Ar hyn o bryd, mae’r sianel yn anfon cynnwys ffitrwydd dyddiol #StayHomeStaySafe sy’n cynnwys risetiau ar gyfer byrbrydau iach, fideos Gemau’n yr Ardd fel bod yr holl gymuned rygbi’n mwynhau a phecynnau gweithredu ar gyfer plant sy’n cyfeirio at destunau fel pobi, crefftau, addysgiadol a thu allan.

Hefyd yn dod yr wythnos hon, bu inni recordio cyfres o webinarau hyfforddwr cymunedol Ieuenctid a |Hŷn gyda hyfforddwyr o gwmpas Cymru; bydd rhain yn cael eu rhyddhau ar safle ‘Game Locker’  (https://www.wrugamelocker.wales/) fel rhan o gefnogaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus i rwydwaith eang o hyfforddwyr a dyfarnwyr sy’n gwasanaethu’n gȇm ar bob lefel ar lawr gwlad.  Os na fu ichwi ddefnyddio hyn o’r blaen, mae proses cofrestru a logio i mewn syml i’w ddilyn a fydd yn agor ichwi fyd enfawr o adnoddau i’ch cynorthwyo’n eich bywydau hyfforddi wythnosol gan geisio uwchsgilio pawb, heb wahaniaethu dim beth yw eu lefel bresennol.

Er enghraifft, gwelir y penwythnos hwn y cyntaf o ‘Sgiliau’r Sul’ ar y ‘Game Locker’ a fydd yn gyfres o fideos yn cyflwyno technegau o’r gȇm yn cynnwys Pas o’r Bôn, Dal y Bȇl Uchel, Pas Dal, Proffil Corff ag ati. Rhyddheir un fideo pob bore Sul trwy @Wru_community

Rygbi Perfformiad

Mae’r Adran berfformiad wedi dechrau webinarau arlein DPP rheolaidd sy’n agored i hyfforddwyr sy’n gweithio’n ein llwybrau talent a pherfformiad. Menter wythnosol fydd hon gyda thestun penodol neu siaradwr gwadd yn barod pob wythnos.  Yr amcan yw adeiladu ar y rhwydwaith gydweithredol mewn perthynas ȃ datblygiad hyfforddi elît yng Nghymru gan barhau’n cefnogaeth i hyfforddwyr yn eu hymchwil am ddatblygiad personol yn ystod y cyfnod yma.

Mae siaradwr gwadd yr wythnos hon, Mark O’Sullivan, sy’n hyfforddwr byd enwog gyda phel droed ieuenctid ac yn gweithio ar hyn o bryd yn AIK Stockholm, annerch 40 ‘Hyfforddwyr Talent’ ar draws y rhanbarthau oedd gennym yn bresennol, ar ei brofiadau o ddatblygu talent a datblygiad chwaraewr. Cynhwysai’r testunau egwyddorion o amgylchedd talent a ffordd o hyfforddi yn ogystal ȃ sut y gallem gymhwyso’r rhai hyn i rygbi.

Bu i 50 o Hyfforddwyr Elît eraill ar draws y rhanbarthau, gan gynnwys staff tîm cyntaf a staff academi, ymuno gyda hyfforddwyr llwybrau Cymru (Dynion, Merched, Dan 20, Dan 18 & 7 pob ochr) am gyflwyniad arlein gan Kirk Vallis, Pennaeth Datblygiad Creadigrwydd gyda Google.  Testun amserol Kirk oedd ‘sut i harnesu creadigrwydd mewn amser o ansefydlogrywdd’. Mae Kirk yn arweinydd mewn datblygiad creadigrwydd gan ein cefnogi’n rheolaidd yn ein rhaglen datblygiad hyfforddi elît. Bu i hyfforddwyr proffesiynol sy’n gweithio tu allan i Gymru’n Uwch Gynghrair Seisnig ymuno ag ef, fel rhan o’n hymgais i gefnogi hyfforddwyr alltud.

Rydym hefyd yn parhau gyda’n rhaglen chwaraewr i hyfforddwr yr wythnos hon gan baratoi sesiynau i’r ymgeiswyr a gallwn gymeradwyo’n uchel drefniadaeth ‘Zoom’ i bawb fel trefn ardderchog o gadw cyswllt yn yr amseroedd anodd hyn.

O gwmpas Cymru

Mae effaith Coronafeirws yn llithro’n dawel i pob cilfach a man o’r gymdeithas Gymreig, ond mae llawer o glybiau’n cydlynu’u hymdrechion i rannu bwyd, anghenion meddygol ac angenrheidiau eraill i’r rhai mwyaf bregus yn eu cymunedau, neu’n trefnu gweithredoedd codi arian megis Rhydyfelin, oedd, erbyn dydd Llun wedi codi tros £1600 wrth i chwaraewyr a hyfforddwyr siafio’u pennau.
Clwb Rygbi Dinbych yw un arall sy’n dangos ei fod yng nghalon ei gymuned yng Nghogledd Cymru wedi agor ei ddrysau i Feddygon Teulu lleol er mwyn cynorthwyo’n y frwydr global yn erbyn Covid-19, roedd yn hapus iawn i drosglwyddo’r allweddi trosodd pan dderbyniwyd cais gan feddygfeydd De Sir Ddinbych er mwyn dod yn Ganolfan Asesu Twymyn.

Yn nhref fechan Treharris, ger Merthyr Tudful, mae’r clwb rygbi lleol, CR Treharris Phoenix hefyd yn profi ei fod yn linell bywyd.  Serch prinder adnoddau, mae tîm coginio o fam a merch yn troi allan rai cannoedd o brydau ar gyfer preswylwyr a gweithwyr allweddol pob wythnos. Cyrhaedda byddin o wirfoddolwyr clwb rygbi fwrdd rhannu ger drws allanol y gegin i gasglu a rhannu prydau at stepiau drws.
Casgla gweithwyr allweddol rheng flaen, megis staff GIG a’r rhai sy’n cadw olwynion bywyd beunyddiol yn troi, brydau ar glyd. Y penwythnos diwethaf, rhanwyd 100 o giniawau Sul i gartrefi rhai sydd mewn angen.

Cynorthwyodd gwirfoddolwyr o glybiau llawr gwlad a hybiau genethod URC ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i rannu pecynnau bwyd i aelodau bregus o gymdeithas sy’n hunan-ynysu yn ystod pandemig Covid-19. Rhanwyd tros 300 pecyn ddydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos hon, gyda’r ymdrech – fel sawl clwb arall ar draws Cymru – yn tynnu sylw, hyd yn oed heb unrhyw weithredu ar y cae, fod clybiau rygbi’n parhau yng nghalon ein cymunedau.

Rygbi

NAW DIGURO

Hwyrach fod chwarae wedi peidio a bod ond ni olyga hynny nad oes yna hawliau bragio ar ô li charae amdanynt.
Roedd Saraseniaid Caerdydd mewn cwmni da pan dorwyd y tymor yn fyr oherwydd y pandemig coronafeirws. Ar yr adeg hynny, roeddent wedi ennill eu holl 11 gȇm a hwy oedd yr unig dîm i guro tîm pen y tabl, Brackla – buddugoliaeth epig 16-15 i ffwrdd o gartref – yn Adran 3 Dwyrain Canol C Specsavers.
Ond, roedd hyn hefyd yn eu gwneud hwy’n un o wyth tîm yn unig oedd yn ddi-guro’n y 22 Gynghrair Cenedlaethol.
Ddim hynny’n unig, roeddent yn un o chwe tîm yn unig gyda record 100 y 100. Yr unig staen are u tymor oedd colli’n chwarteri Tarian Genedlaethol Specsavers i Gaergybi, ond roeddent yn parhau ar y llwybr am ddyrchafiad a thipyn o dlysau arian.
Y timau diguro eraill yn y cynghreiriau ar draws Cymru pan ddaeth tymor 2019/20 i ben oedd: Aberdar o Adran 2 Dwyrain (a fu’n gyfartal ddwywaith yn eu 14 gȇm), Burry Port Adran 2 Gorllewin, Glyncorwg Adran 3 Canol, Llandudno Adran 1 y Gogledd, 2ail Dîm Rhuthun Adran 3 y Gogledd, De Gŵyr  Adran 3 Gorllewin Canol a Wrecsam – Adran 2 y Gogledd (a fu’n gyfartal mewn 1 o’u 14 gȇm).

PEN DACLWR
Hwyrach fod Abertawe wedi bod yn fwy agos at waelodion y tabl pwyntiau fel clwb, ond, yn Callum Bowden, roedd ganddynt chwaraewr oedd ymhell ar y blaen i unrhyw daclwr arall yn Uwch Gynghrair y Grŵp Indigo’r tymor hwn.

Dim ond mewn un gȇm allan o’r 24 y bu i Abertawe’u chwarae’n yr Uwch Gynghrair na fu i’r blaen asgellwr 24 oed gynrychioli’i glwb ac, yn sicr, bu iddo wneud ei bresenoldeb gael ei deimlo ar y maes.

Llwyddodd i wneud cyfanswm o 196 tacl i fod ymhell ar y blaen i’w wrthwynebydd agosaf, sef, Jack Perkins o Ferthyr a wnaeth 147 gan guro’n agos iawn Lewys Millin o Gwiniaid Caerfyrddin i’r ail safle a orffenodd yr ymgyrch gyda 146 tacl.

Y CYMRY AR I FYNY

Roedd Cymry Llundain yn ôl ar drac wrth iddynt ddringo i fyny system y Cynghreiriau Saesnig wedi i’r RFU gadarnhau y byddent yn ennill dyrchafiad serch y gwaharddiad o chwarae rygbi oherwydd yr epidemig coronafeirws.

Golyga hyn y bydd tîm Cai Griffiths yn symud i fyny i Gynghrair Gogledd Llundain 1 y tymor nesaf wedi iddynt gwblhau tri dyrchafiad olynol.

Treuliodd yr RFU sawl wythnos yn ceisio datrys y mater dyrchafu a gostwng cyn, yn y diwedd, gadarnhau fod yr Encilwyr a Hammersmith & Fulham yn symud i fyny.

Pan ddaethpwyd a’r tymor i ben, roedd tîm Griffiths newydd sicrhau eu 32fed buddugoliaeth gynghrair gartref yn olynol tros dri thymor wrth guro Hackney gyda chrasfa o 50-7. Symudodd hyn hwynt 11 pwynt yn glir ar ben y tabl gan roi record o 17 buddugoliaeth allan o 18 iddynt.

Cyllid clwb:

CRONFA LLIFOGYDD

Blaenoriaethwyd cyllid i 20 clwb a effeithiwyd yn ddrwg gan Storm Dennis, wedi’i seilio ar ddifrod i feysydd a thai Clwb ac, ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda chlybiau i brosesu’r ceisiadau – erbyn hyn, dyranwyd £51,000 allan o fwy na £100,000.
Dywedwn fwy na £100,000 oherwydd, derbyniwyd cyfraniadau’n ddiolchgar iawn gan nifer sylweddol o gyfranwyr yn cynnwys adran Iau CRICC Caerdydd, a gododd gyllid sylweddol, cefnogwyr a fynychodd y gȇm Cymru, Ffrainc yn Stadiwm y Principality’n Chwefror a staff yn Media Wales, a drefnodd noson gyda Nigel Owens a James Hook ym Mawrth i godi tros £1,000 at yr achos.
Rydym yn parhau i gysylltu gyda’n partneriaid masnachol er cael graddfeydd ffafriol ar offer a ddifrodwyd gan y llifogydd.

CYMORTHDALIADAU
Anfonwyd gwybodaeth at glybiau am nifer o ffyrdd i gael mynediad at gymorth cynhaliaeth yn cynnwys: Cymorthdaliadau Covid-19 ar gyfer Busnesau yng Nghymru sydd mewn linc i Drethi Di-Ddomestig (TDD), Cronfa Di- Wydnedd Economaidd Llywodraeth Cymru – £500m. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru y Cynllun Cymorthdal Benthyciad Busnes Cymru Covid- 19 gwerth £100m er cefnogi busnesau a effeithiwyd gan yr epidemig a chyfleon cyllido a gynigir gan Chwaraeon Cymru – manylion ar y Gronfa Argyfwng sydd newydd gael ei lawnsio gan Chwaraeon Cymru.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at Linell Gymorth URC ar  clubdevelopment@wru.wales
Cynnwys mentrau eraill a amlinellir mewn cyfathrebiadau diweddar: Y Drwydded Cerdd yng ngholau’r sefyllfa bresennol gyda Covid 19; bu i PPL gan PRS Ltd gymryd mesurau i gefnogi busnesau effeithiwyd gan y Pandemig; Diweddariad Busnes Clybiau Cynwysedig – cyngor ar ffeilio Cyfrifon Cwmni; Furlough gweithwyr, gwybodaeth a ryddhawyd gan y Llywodraeth yn diweddaru’r Cynllun Cadw Gwaith; Arweiniad yr ‘Institute of Groundsmanship’ ar gyfer Staff Cynnal Meysydd Gwirfoddol

Yn ogystal, dylai clybiau fod yn ymwybodol fod loteri URC wedi’i gohirio am y tro. Bellach, ni fydd clybiau’n cael taliadau wedi’u casglu ar gyfer cyfraniadau loteri ac ni thelir gwobrau na chomisiynau.

DIWEDDARIAD CYFFREDINOL GAN BRIF WEITHREDWR URC, MARTYN PHILLIPS:

Yr oeddem yn hynod siomedig neithiwr, i gyhoeddi fod y digwyddiad oedd gyda disgwyl mawr amdano, Gemau Byd Cymru Nitro 2020 oedd i fod i gymryd lle ar Stadiwm y Principality ar y 23ain a’r 24ain Mai wedi, yn anffodus, cael ei ganslo.
Cysylltir gyda phob daliwr tocyn gan y cyfleuster lle y prynwyd y tocyn gyda’r bwriad yn y man i brosesu ad-daliad.
Mae gwaith yn datblygu’n gyflym ar yr ysbyty gyda chapasiti o 2,000 gwely fydd gydag enw newydd ei hun cyn bo hir, i’w lleoli’n Stadiwm y Principality yn ogystal ȃ chanolfan i’w lleoli’n adeilad Canolfan Ardderchogrwydd Genedlaethol URC yn y Vale Resort Hensol.
Rwy’n gwybod imi ddweud hyn o’r blaen, ond mae agwedd gadarnhaol y staff yn y lleoliadau hyn wedi cynhesu’r galon yn wir, ac maent yn gredyd i rygbi Cymreig fel y mae aelodau clybiau rygbi ar draws y wlad sy’n profi imi y gall, ac y bydd, ein gȇm yn goroesi popeth a deflir ati.
I’n staff ni, rhai ohonynt wedi cael ‘furlough’ a’r rhai sydd wedi’u gadael i gario’r baich, diolch ichwi am eich gwaith arbennig iawn a hoffwn grybwyll yn neilltuol, Chris Munro a’r tîm sy’n gweithio i edrych ar ôl ein clybiau sy’n aelodau.

Os gwelwch yn dda, parhewch i aros yn ddiogel gan wybod ein bod yn gweithio’n galed er sicrhau fod rygbi Cymreig yn codi unwaith eto yn gryfach nag erioed pan fydd hyn i gyd drosodd.
Arhoswch yn ddiogel a Phasg hapus ichwi gyd.
Martyn Phillips
Prif Weithredwr URC

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Rhino Rugby
Sportseen
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Diweddariad statws URC 08/04/2020
Amber Energy
Opro
Diweddariad statws URC 08/04/2020