Neidio i'r prif gynnwys
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths

Aled Griffiths gydag Andy Ellis, cyn-mewnwr Seland Newydd, yn ystod eu amser gyda Kobelco Steelers.

Cymry Cymraeg: Aled Griffiths

O’r diwedd, mae gyrfa dadansoddi Aled Griffiths, a ddechreuodd yng Nghaerfaddon, wedi’i arwain yn ôl adre’ i Gaerfyrddin, ar ôl iddo dreulio amser yn Siapan a Chaerwrangon. 

Rhannu:

“Digwyddodd yn eithaf naturiol mewn ffordd. Cefais anaf i fy ysgwydd yn chwarae rygbi yn y brifysgol,” mae’n cofio o’i amser yn UWIC (Prifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn.) “Gan nad oeddwn i’n gallu chwarae, ffeindiais ddiddordeb mewn agweddau eraill o’r gêm. Fel rhan o fy ngradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon, ysgrifennais draethawd hir ar ddadansoddi perfformiad, ac yn ystod fy amser yn y brifysgol mi fuais i’n dysgu fy nghrefft wrth dadansoddi gemau rygbi Uwch Gynghrair Cymru yn wythnosol.”

Parhaodd record gwych y brifysgol o ran cael dadansoddwyr ifanc mewn i gael profiad gyda’r clybiau gorau, pan gafodd Griffiths  interniaeth gyda Chaerfaddon. O Orllewin Cymru i Orllewin Lloegr, mwynhaodd  Aled bedair blynedd ffrwythlon gyda chewri traddodiadol rygbi Lloegr, gan raddio’n gyflym o’r system academi i’r tîm cyntaf.

DFP – Leaderboard

“Ar ôl gadael Caerfaddon, roeddwn i’n ddigon ffodus i ehangu fy ngorwelion trwy fynd i Siapan i weithio gyda Kobelco Steelers am dair blynedd,” meddai am y clwb sydd bellach yn brolio chwaraewyr fel Dan Carter ymhlith ei rengoedd. Yno, cafodd weld dros ei hunan yr hyn a brofodd weddill y byd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd llynedd – gan gynnwys angerdd adnabyddus y wlad dros y gêm.

“Wrth feddwl am rygbi, roedd yn eithaf hawdd i drosglwyddo fy sgiliau i amgylchedd dysgu newydd,  gan fy mod yn gweithio gyda hyfforddwyr tramor eraill, felly roedden ni gyd yn rhannu’r un meddylfryd o ran athroniaethau ac egwyddorion chwarae.” Yn ogystal, dysgodd Griffiths i gyfleu negeseuon byr a chryno i’r chwaraewyr, yn hytrach na’u cyfleu nhw mewn “negeseuon hirwyntog.”

Cafodd Griffiths a’i wraig Casey eu plentyn cyntaf yn ystod yr ‘off-season’ yn Siapan, sy’n golygu y cafodd Macsen bach ei eni yn Gymro yng Nghaerfyrddin. “Roedd blwyddyn gyntaf ei fywyd allan yn Kobe, aeth e’ i feithrinfa yno; roedd Casey yn mwynhau mynd ag ef a phopeth oedd yn dod gyda hynny. Mae e wedi cael blas ar ddiwylliannau gwahanol cyn iddo fod yn bedair oed!”

Wrth ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr gyda Chaerwrangon, cymerodd un cam yn agosach at adref – ac yn Sixways, roedd Griffiths yng nghwmni siaradwyr Cymraeg eraill gyda’r hyfforddwr Mefin Davies a’r blaenasgellwr Sam Lewis.

Rhyfedd i feddwl mai ei rôl ddilynol fel prif ddadansoddwr y Gweilch oedd ei swydd gyntaf yng Nghymru. Golygodd genedigaeth Celt, eu ail fab, sydd bellach yn saith mis oed, bod y penderfyniad i ymuno â rhanbarth Stadiwm y Liberty yn fwy addas byth. Yn y cyfamser, bydd Macsen yn dechrau ysgol llawn amser ym mis Medi.

“Roeddwn i’n gyffrous i fod yn rhan o’r sefydliad rhanbarthol achos doeddwn i erioed wedi gweithio ynddo o’r blaen,” eglura Griffiths. “Roeddwn i eisiau blas o’r system ddadansoddi hon gan ei bod wedi bod yn llwybr llwyddiannus iawn i lawer o bobl sydd wedi bod drwyddi. Hefyd, roedd gweithio gyda chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn rheolaidd yn apelio’n fawr ataf.

“Rydw i mewn clwb lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n ddyddiol ac yn naturiol,” meddai Griffiths, cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. “Rwy’n cael sgyrsiau gyda phobl fel Scott Williams, Rhodri Jones, Aled Davies a Dan Evans, sy’n siaradwyr Cymraeg rhugl, a rydyn ni’n mwynhau cael sgwrs yn y Gymraeg dros goffi. Fe ddaw yn naturiol iawn i ni a does dim rheolau llym pan ry’n ni’n siarad yr iaith.

“Y famiaith yw hi ar ddiwedd y dydd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Rhino Rugby
Sportseen
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths
Amber Energy
Opro
Cymry Cymraeg: Aled Griffiths