News

Deud eich deud

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymuno gyda Lloegr, Iwerddon â'r Alban ar gyfer arolwg cyfranogi cyntaf y Gwledydd Cartref.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymuno gyda Lloegr, Iwerddon â’r Alban ar gyfer arolwg cyfranogi cyntaf y Gwledydd Cartref.

Gwahoddir chwaraewyr presennol, cyn chwaraewyr, swyddogion, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr i gymryd rhan. Mae’r arolwg yn ceisio darganfod be sy’n ysgogi chwaraewyr a gwirfoddolwyr i gymryd  rhan yn y gêm, yr agweddau fwyaf pleserus a hefyd unrhyw ardaloedd o rygbi yng Nghymru allai gael eu gwella o fewn clybiau, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Dywedodd Ryan Jones, Pennaeth Cyfranogiad Rygbi URC “Dyma gyfle arall i bawb sydd yn rhan o rygbi yng Nghymru i ddeud eu deud, fel bod y genhedlaeth nesaf yn gallu parhau i gael buddion o’r hyn mae rygbi yn gallu dod i deuluoedd a chymunedau ar draws Cymru. Bydd cael gwell dealltwriaeth o sut mae pobl yn teimlo am ein gêm yn ein helpu i neud rygbi lleol yn fwy perthnasol i deuluoedd modern a dod dros unrhyw rwystrau i gyrraedd ein amcan o Mwy o Fobl, yn Fwy Aml gyda Mwy o Fwynhad a Mwy o Lwyddiant. 

“Mae ymuno gyda’r gwledydd eraill yn rhoi persbectif fwy eang o’r materion sy’n effeithio rygbi yng ngwledydd hemisffer y gogledd a chymdeithas yn gyffredinol. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r arolwg ‘Shape our Game’ yn 2015 er mwyn gwella rygbi ar gyfer ail dimau a’r trawsnewid rhwng rygbi iau a ieuenctid ynghyd a ieuenctid a rygbi hyn. Rydym nawr eisiau cael gwybodaeth bellach er mwyn helpu prif ardaloedd y gêm fel sut rydym yn rhyngweithio gyda ein hyfforddwyr â’n dyfarnwyr cymunedol, sut rydym cefnogi gwirfoddolwyr a swyddogion clwb, a sut i gysylltu’n well gyda chwaraewyr rygbi mewn Prifysgolion.

Bydd pawb sydd yn cwblhau’r arolwg yn cael y cyfle i roi eu henwau i mewn i ‘draw’ er mwyn ennill un o dri phâr o docynnau i un o gemau Cymru yn y gystadleuaeth 6 Gwlad NatWest yn 2018.
 
Cliciwch yma er mwyn cael deud eich deud am ddyfodol rygbi yn eich cymuned. Mae’r arolwg (Saesneg yn unig) yn cau ar Rhagfyr 6ed.

 

Related Topics

Newyddion Diweddaraf
News