News

Trefnu ymlaen llaw ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Ffrainc

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Mae cefnogwyr rygbi a fydd yn dod i Stadiwm Principality i wylio gêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn cael eu hannog i drefnu ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad nos Wener 26 Chwefror, sy'n rhan o Bencampwriaeth y 6 Gwlad RBS. Bydd y gic gyntaf am 8.05pm.

Mae cefnogwyr rygbi a fydd yn dod i Stadiwm Principality i wylio gêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn cael eu hannog i drefnu ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad nos Wener 26 Chwefror, sy’n rhan o Bencampwriaeth y 6 Gwlad RBS. Bydd y gic gyntaf am 8.05pm.

Wrth baratoi ar gyfer pencampwriaeth 2016, mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn cynghori’r cefnogwyr i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer y mesurau diogelwch llymach sydd ar waith yng nghartref y gamp yng Nghymru.

Mae’r sawl a fydd yn ymweld â’r Stadiwm yn cael eu hannog i gyrraedd o leiaf 30 munud cyn y gic gyntaf ac i beidio â dod â bagiau mawr gyda nhw, os oes modd, er mwyn sicrhau na fyddant yn colli dechrau’r gemau.

Cyn y tair gêm ryngwladol a gaiff eu chwarae gartref, ymunodd Undeb Rygbi Cymru â Chyngor Caerdydd a gweithredwyr trafnidiaeth y ddinas i sicrhau bod cefnogwyr yn cael y wybodaeth berthnasol cyn digwyddiadau mawr.

Roedd ffigurau ynghylch y dorf, a gasglwyd adeg gêm Cymru yn erbyn yr Alban, yn dangos bod dwywaith nifer y cefnogwyr wedi cyrraedd Stadiwm Principality hyd at awr cyn y gic gyntaf, o gymharu â digwyddiadau blaenorol.

Ar ôl y gêm, defnyddiodd Undeb Rygbi Cymru gyfryngau cymdeithasol i ddiolch i’r cefnogwyr am ddilyn y cyngor i gyrraedd yn gynnar, a sicrhaodd fod y 74,160 o wylwyr wedi gallu cael eu gadael i mewn i’r Stadiwm yn ddiogel.

Related Topics

Newyddion
News