
Tom Reffell
Roedd Reffell yn gapten ar dîm dan 18 Cymru yn 2017, cyn iddo symud i grŵp oedran uwch ac arwain tîm dan 20 Cymru flwyddyn yn ddiweddarach.
Yn frodor o Bencoed, sylwyd yn gynnar ar allu Reffell i arwain pan oedd yn gapten tîm dan 16 Dwyrain y Gweilch ac wrth iddo symud trwy rengoedd Academi Caerlŷr.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros dîm hŷn Caerlŷr mewn gornest a gollwyd yn erbyn Caerfaddon yng nghystadleuaeth y Cwpan Eingl-Gymreig ym mis Tachwedd 2017. Yna, bu’n arwain tîm Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i’r timau dan 20, a thrwy gydol Pencampwriaeth Iau’r Byd yn 2018 er mai honno oedd ei flwyddyn gyntaf yn y grŵp oedran hwnnw.
Cafodd anaf i linyn y gar yn rownd agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019, a olygodd fod yn rhaid iddo golli gweddill y gystadleuaeth.