Neidio i'r prif gynnwys
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau

Gweilch yn tawelu’r Dreigiau

Y Gweilch hawliodd y fuddugoliaeth yn yr ail o’r ddwy gêm ddarbi yn Stadiwm y Mileniwm ar Sul y Pasg , ond digon cyffredin oedd safon y chwarae ar brydiau.

Rhannu:

Rhaid canmol gwaith amddiffynnol y Dreigiau fodd bynnag. Roedd tîm Lyn Jones dan bwysau trwy gydol y gêm a dim ond cyfuniad o ddygnwch amddiffynnol y Dreigiau a thueddiad  y Gweilch i wastraffu cyfleoedd oedd yn gyfrifol am y ffaith nad oedd unhryw sgôr ar yr egwyl.

Y gw?r o Went aeth ar y blaen n yr ail hanner pan dorrodd Richie Rees yn glir i dirio yn erbyn llif y chwarae.

DFP – Leaderboard

Ychwanegodd Kris Burton y pwyntiau ychwanegol cyn i Dan Biggar gofnodi pwyntiau cyntaf y Gweilch gyda chic gosb.

Gydag ugain munud yn weddill aeth y Gweilch ar y blaen pan groesodd Tom Habberfield o fôn y sgrym ac er i Biggar lwyddo gyda’r trosiad fe ddaeth y Dreigiau yn gyfartal gyda chic gosb gan Tom Prydie.

Ond fe gosbwyd rheng flaen y Dreigiau gan Biggar wrth iddyn nhw ddod o dan bwysau cynyddol yn y sgrym. Ac yn yr eiliadau olaf fe ddaeth goruchafiaeth y Gweilch yn yr elfen honno i’r amlwg unwaith eto pan ildiodd y Dreigiau cais cosb gan ganiatau Biggar i roi ei dîm 10 pwynt ar y blaen ar chwiban olaf Nigel Owens.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Rhino Rugby
Sportseen
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Gweilch yn tawelu’r Dreigiau
Amber Energy
Opro