Neidio i'r prif gynnwys
Gleision yn ennill y dydd

Gleision yn ennill y dydd

Gleision Caerdydd oedd yn dathlu ar ddiwedd frwydr digon tanllyd ar brydiau yn y cyntaf o’r gemau rhwng y pedwar rhanbarth yn Stadiwm y Mileniwm ar Sul y Pasg.

Rhannu:

Fe orffennodd y ddau dîm gyda 14 chwaraewr ar y cae ar ôl i wythwr y Gleision Robin Copeland a chefnwr y Scarlets Liam Williams weld y cerdyn coch yn yr ail hanner.

Y Gleision ddechreuodd orau ond er iddyn nhw dreulio’r chwarter awr gyntaf yn nwfn yn hanner y Scarlets, cais cynnar Aled Cuthbert oedd eu hunig wobr.

Ychwanegodd Gareth Davies dwy gic gosb yn ystod y cyfnod pan oedd y Scarlets lawr i 14 dyn ar ôl i Liam Williams dderbyn cerdyn melyn am dacl beryglus yn yr awyr ar Alex Cuthbert.

Ond fe darodd y Scarlets yn ôl  gyda chais gan Rhys Priestland, ac er iddo dirio o dan y pyst fe fethodd gyda’r trosiad er mawr syndod i bawb.

Fe lwyddodd y ddau faswr gyda chynnig yr un at y pyst i roi mantais o 7 pwynt i’r Gleision ar yr hanner.

Newidiodd llif y chwarae ar ddechrau’r ail hanner gyda’r Scarlets yn bwgwth llinell gais y Gleision ac er i Kristian Phillips groesi yn y gornel fe ddyfarnwyd bod y bas dderbyniodd yr asgellwr ymlaen o drwch blewyn.

Mi fethodd Priestland cic gosb arall cyn i Williams a Copeland orfod gadael y cae yn gynt na’r disgwyl yn dilyn digwyddiad yn y ryc. Roedd Williams yn euog o ladd y bel yn y dacl ac roedd yr wythwr yn euog o gicio’r cefnwr yn ei ben gan olygu nad oedd dewis gan y dyfarnwr Ian Davies ond i ddangos cerdyn coch i’r ddau.

Gyda saith munud yn weddill fe diriodd Ken Owens o bum llath yn dilyn rhediad nerthol gan fachwr y Scarlets ei hun ac y tro hyn yr eilydd Steve Shingler oedd yn euog o fethu’r trosiad gan adael y Gleision gyda mantais o bwynt.

Ychwanegwyd at y fantais ar ôl i Davies lwyddo gyda chic gosb arall ac er i’r Sacrlets bwyso fe fydd yn rhaid iddyn nhw aros tan 2 Mai a’u gem yn erbyn Dreigiau Casnewydd  i hawlio eu lle yng Nghwpan  Ewrop y tymor nesaf.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gleision yn ennill y dydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gleision yn ennill y dydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gleision yn ennill y dydd
Rhino Rugby
Sportseen
Gleision yn ennill y dydd
Gleision yn ennill y dydd
Gleision yn ennill y dydd
Gleision yn ennill y dydd
Gleision yn ennill y dydd
Gleision yn ennill y dydd
Amber Energy
Opro
Gleision yn ennill y dydd