Cymry Cymraeg: Ioan Davies

Cymry Cymraeg: Ioan Davies

I gefnwr Ioan Davies, roedd troi fyny yn Rodney Parade am y tro cyntaf fel chwaraewr y Dreigiau yn ôl ym mis Chwefror yn foment trodd y cylch yn llawn.

Rhannu:

Roedd y chwaraewr 21 oed ar fenthyg o Gaerdydd – daeth y cytundeb yn un barhaol dros yr haf – yn dilyn yr un llwybr â’i dad, Guto, a sgoriodd bedwar cais mewn 16 gêm i Gasnewydd fel canolwr/cefnwr yn yr 80au hwyr.

Efallai roedd rhagori mewn chwaraeon yn anochel i Davies – roedd ei wncl, Sion Wyn Davies, yn chwarae pêl-fasged safon uchel – tra bod yr allweddi i lwyddiant ar gael iddo yn Ysgol Glantaf a St Peter’s, yr un clwb rygbi a feithrinodd Callum Sheedy ac Ioan Lloyd. Nid oedd yn hir cyn i’r bachgen o Benylan gael ei gydnabod gan system academi Gleision Caerdydd a graddau oedran Cymru.

Cymry Cymraeg: Ioan Davies

Davies yn cynrychioli ei chlwb cyntaf, St Peter's, mewn gêm yn erbyn Rhiwbina.

Enillodd sylw gyda Chymru D18 wrth sgorio cais a oedd, i bob pwrpas, yn amhosib yn erbyn Lloegr yn Heol Sardis. Serch hynny, mae e’n difaru colli allan ar un o uchafbwyntiau lefel D18. “Roedd e’n dipyn o beth rhyfedd i mi oherwydd newidiodd y grwpiau oedran hanner ffordd drwodd, felly roeddwn i’n rhy ifanc i roi fy llaw i fyny ar gyfer y daith De Affrica,” meddai, gan sôn am y Gyfres Ryngwladol D18 a gynhelir yn flynyddol yn Stellenbosch. “Yna yn fy ail flwyddyn fe newidiodd o flwyddyn ysgol i flwyddyn galendr, felly roeddwn i’n rhy hen. Roeddwn i’n gutted!”

Parhaodd Davies i greu argraff yng ngrwpiau oedran Cymru, ac roedd yn rhan o’r fuddugoliaeth enwog yn Rosario, yr Ariannin, wrth iddynt guro Seland Newydd yng Nghwpan y Byd D20 yn 2019. Ychwanegodd y canlyniad hwn i’r thema De Americanaidd mewn gyrfa Davies: yr hydref cynt, cafodd ei ymddangosiad cyntaf i’r Gleision yn erbyn Wrwgwai, a nododd yr achlysur gyda chais. “Daeth y cais oddi ar gefn cic traws-gae gan Dan Fish,” cofia. “Roedd chwarae i’r tîm cyntaf Caerdydd ym Mharc yr Arfau, yn erbyn tîm rhyngwladol, yn brofiad gwych – y tro cyntaf iddyn nhw chwarae ochr ryngwladol ers 2009, rwy’n credu – ond roedd sgorio yn anhygoel.”

Heddiw mae’n paratoi ar gyfer ei dymor llawn cyntaf fel chwaraewr y Dreigiau, tra hefyd yn gwneud amser ar gyfer ochr addysgol ei fywyd. “Rydw i yn fy nhrydedd flwyddyn o astudiaethau meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, felly rydw i’n aml yn eithaf prysur,” meddai Davies, sy’n mynnu bod yr heriau o fyw yn Cathays yn ymwneud llai â themtasiynau bywyd fel myfyriwr nag o gadw at ei amserlen. “Mae’n ymwneud llawer â rheoli amser yn fwy na dim. Mae’n braf oherwydd bod e mor wahanol i fy swydd fel chwaraewr rygbi: mae’n tynnu fy meddwl oddi ar y gêm pan dwi’n astudio meddygaeth, ac i’r gwrthwyneb.”

Cymry Cymraeg: Ioan Davies

Cael sylw Hallam Amos a Josh Adams yn erbyn Caerdydd nôl ym mis Ebrill.

Gwerslyfrau o’r neilltu, bydd Davies yr wythnos hon wedi canolbwyntio ar daith i Coventry dydd Sadwrn, yn y gêm paratoi olaf cyn i’r tymor newydd gychwyn. “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd fy siawns yn erbyn Wasps,” meddai Davies. “Fe ges i tua 15 munud yn Welford Road y penwythnos diwethaf, ond mae wedi bod yn sbel fach ers i fi gael fy nhro o funud un. Mae’n anodd cael effaith ar y gêm pan chi’n dod ymlaen tuag at y diwedd – yn enwedig pan rydych chi yn erbyn rhywun fel Nemani Nadolo! Ond eto, i fi mae’n bwysig fy mod i’n chael y profiad hynny.”

Mae tymor 2021/22 yn addo llawer, yn enwedig gyda’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig newydd. I’r Dreigiau mae hyn yn cychwyn gyda gêm gartref yn erbyn y Gweilch. “Byddwn i wrth fy modd i chwarae yn y gêm ‘na, achos gallai ddim aros i fynd i lawr i Rodney Parade eto,” meddai Davies. “Bydd cael torfeydd nôl yn beth mawr y tymor hwn. Dwi ddim wedi chwarae yna gyda chefnogwyr eto, felly bydd e’n wych cael nhw nôl gyda’r gwahaniaeth enfawr maen nhw allu gwneud.”