Mae Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru, Sean Lynn wedi enwi ei dîm i wynebu Iwerddon ym Mhedwaredd Rownd Gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn Rodney Parade, Casnewydd, ddydd Sul yr 20fed o Ebrill (15:00pm).
Mae dau newid i’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Ffrainc yn wythnos ddiwethaf – ac mae un newid safle yn ogystal – ar gyfer y gêm gartref olaf hon cyn i Gymru gystadlu yng Nghwpan y Byd 2025 ddiwedd yr haf.
Y canolwr Hannah Jones sy’n arwain y tîm yn ôl ei harfer ac mae’r îs-gapten Alex Callender wedi gwella o’i hanaf ac yn dechrau’n safle’r wythwr ar gyfer ei hymddangosiad cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni.
Dyma fydd y tro cyntaf i drindod arweinyddol Sean Lynn sef Jones (capten), Callender (îs-gapten) a Keira Bevan (îs-gapten) chwarae gyda’i gilydd y tymor yma.
Enwyd Georgia Evans yn Nhîm yr Wythnos ar gyfer y Bencampwriaeth y penwythnos diwethaf ac o ganlyniad i’r ffaith y bydd Callender yn dechrau fel wythwr yn Rodney Parade – bydd Evans yn symud i’r ail reng i ymuno ag Abbie Fleming.
Mae Kelsey Jones wedi ei dewis i ddechrau fel bachwr am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth eleni a Gwenllian Pyrs a Jenni Scoble fydd ar y naill ysgwydd a’r llall iddi’n y rheng flaen.
Bydd y mewnwr Keira Bevan a’r maswr Kayleigh Powell yn parhau â’u partneriaeth fel haneri – felly hefyd y capten Jones a Courtney Keight yn y canol.
Am y bedwaredd gêm o’r bron, mae Sean Lynn wedi dewis y cefnwr Jasmine Joyce a’r asgellwyr Lisa Neumann a Carys Cox fel tri ôl.
Mae Cymru wedi curo’r Gwyddelod mewn tair o’r chwe gêm brawf ddiwethaf rhwng y ddwy wlad – gan gynnwys buddugoliaeth gofadwy o 31-5 yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd yn 2023.
Y tro diwethaf i Fenywod Cymru chwarae yn Rodney Parade – daeth 1,862 yno i’w gwylio’n curo Awstralia am y tro cyntaf yn eu hanes – ac ‘roedd hynny’n record o dorf ar gyfer gêm rygbi menywod yng Nghasnewydd.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn: “Dyma’n gêm gartref olaf ni o Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni ac mae’n rhaid i ni barhau i wella’n perfformiadau a datblygu ein arddull o chwarae hefyd.
“Ry’n ni’n ceisio creu mwy gyda’r bêl ac mae’r chwaraewyr yn deall a derbyn y meddylfryd newydd yma. Er mwyn i hyn fod yn effeithiol yn y pendraw, mae’n rhaid i ni weithio’n galetach fyth dros ein gilydd – ac yn yr eiliadau allweddol yng nghanol cyffro gêm brawf – mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniadau cywir o dan bwysau.
“Mae Iwerddon yn dîm o wir safon – fel y maen nhw wedi dangos hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth eleni. Ond rwyf wedi dweud wrth ein carfan ni i fod yn ddewr a mynegi eu hunain ar y maes er mwyn creu cynnwrf yn y dorf ac ysbrydoli eu cyd-chwaraewyr.
“Fydd hi ddim yn rhwydd o gwbl yn erbyn y Gwyddelod – ond ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr her sydd o’n blaenau brynhawn Sul.”
Tîm Cymru (v Iwerddon)
Jasmine Joyce (Bryste), Lisa Neumann (Harlequins), Hannah Jones (Capten, Hartpury/Caerloyw), Courtney Keight (Bryste), Carys Cox (Ealing), Kayleigh Powell (Harlequins), Keira Bevan (Îs-gapten, Bryste); Gwenllian Pyrs (Sale), Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Abbie Fleming (Harlequins), Georgia Evans (Saraseniaid), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Alex Callender ( îs-gapten, Harlequins).
Eilyddion: Carys Phillips (Harlequins), Maisie Davies (Gwalia Lightning), Donna Rose (Saraseniaid), Natalia John (Brython Thunder), Alaw Pyrs (Gwalia Lightning), Sian Jones (Gwalia Lightning), Lleucu George (Hartpury/Caerloyw), Catherine Richards (Gwalia Lightning).