News

Dwy gêm ddi-sgôr ar ddiwrnod anarferol yng Ngŵyl y Chwe Gwlad

27.07.24 - Wales Women U18 v USA Women U18 - Isla McMullen of Wales

Cafwyd ail ddiwrnod anarferol o gystadlu yng Ngŵyl o dan 18 Chwe Gwlad y Merched wrth i Gymru chwarae mewn dwy gêm ddi-sgôr yn erbyn Lloegr a’r Eidal yng Ngholeg Wellington.

‘Roedd carfan Siwan Lillicrap yn hyderus ar ddechrau’r ail ddiwrnod wedi iddyn nhw lwyddo i guro’r Alban ar y diwrnod agoriadol o gystadlu.

Ond mewn tywydd garw, gafodd ddylanwad mawr ar ansawdd y chwarae, methiant fu ymdrechion y timau i gofnodi unrhyw bwyntiau yn y ddwy ornest 35 munud o hyd.

Yn erbyn Lloegr daeth gwaith creu Taufa Tuipulotu a Jorja Aiono â Chymru o fewn cyrraedd llinell gais y Saeson cyn i’r meddiant gael ei ildio yng nghysgod y pyst.

Er na lwyddwyd i gofnodi unrhyw bwyntiau’n erbyn Lloegr, cafwyd perfformiadau amlwg gan Tuipulotu ac Aiano. Felly hefyd gan Charlie Williams a Chiara Pearce yn y rheng ôl – yn enwedig yn agweddau amddifynnol eu chwarae.

O safbwynt ymosodol, ‘roedd y capten Isla McMullen yn fygythiad cyson yng nghanol cae – ond y prop pen tynn Isabel van der Straaten ddaeth agosaf at sgorio dros Gymru wedi iddi groesi llinell gais Lloegr – dim ond i amddiffyn y Saeson ei hatal rhag tirio.

Dangosodd y Cymry wir gymeriad hefyd gan iddynt orfod chwarae gydag 14 o chwaraewyr wedi i Saran Jones weld cerdyn melyn am dacl uchel.

Yn ystod y munudau olaf – fe gafodd y Crysau Cochion un cyfle olaf i gipio’r fuddugoliaeth – ond fe gafodd Crystal James ei chosbi am ail-symudiad gyda’r gwyngalch o fewn ei chyrraedd.

Gwnaed newidiadau lu ar gyfer yr ail ornest o’r dydd yn erbyn Yr Eidal – ac er na lwyddwyd i sgorio’n yr ail gêm hon chwaith – Y Cymry reolodd y mwyafrif o agweddau’r chwarae.

‘Roedd y mewnwr Lilly Hawkins yn llond llaw i amddiffyn yr Eidalwyr ond methiant fu holl ymdrechion y Cymry i gofnodi unrhyw sgôr fyddai wedi sicrhau’r fuddugoliaeth.

Wedi’r ddwy gêm, dywedodd Prif Hyfforddwr Tîm o Dan 18 Merched Cymru, Siwan Lillicrap: “Er na allaf weld bai o gwbl yn ein hamddiffyn – rydw i – a’r holl garfan – yn siomedig an chawson ni ddwy fuddugoliaeth heddiw.

“Roedd ein hawydd i ennill, a’n chwarae corfforol yn arbennig yn ystod yn y ddwy gêm – ac fe achoson ni lawer o broblemau i Loegr yn enwedig yn 10 munud cyntaf ac olaf yr ornest.

“Roedd Chiara Pearce a Seren Lockwood yn amlwg iawn yn y gêm gyntaf ac fe gafodd y Saeson ychydig o sioc gan rym ein pac.

“Mae’n rhaid i ni ddysgu sut i fanteisio ar ein cyfleoedd – ac ‘roedd hynny’n arbennig o wir yn erbyn Yr Eidal – gan i ni reoli’r tir a’r meddiant – ond fe fethon ni â sgorio.

“Wedi dweud hynny – fe chwaraeon ni’n llawer gwell heddiw na’r hyn wnaethon ni ar y diwrnod cyntaf – ac mae’n rhaid i ni gymryd hyder o hynny ac adeiladu ar gyfer ein gêm olaf o’r Ŵyl yn erbyn Iwerddon – fydd yn gêm lawn 70 munud o hyd wrth gwrs.”

Yn dilyn eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Cymru, fe gollodd y Saeson o 21-12 yn erbyn Yr Alban – cyn i’r Gwyddelod ildio o 14-0 i dîm di-guro Ffrainc. Fe darodd Iwerddon yn ôl o’r golled honno wrth guro’r Alban o 22-7.

Bydd yr Ŵyl yn dod i ben ddydd Sadwrn – pan fydd carfan Siwan Lillicrap yn herio Iwerddon am hanner dydd.

Cymru D18 v Lloegr: Beatrice Morgan; Saran Jones, Isla McMullen (capten), Sienna McCormack, Lily Foscolo; Ffion Williams, Seren Lockwood; Crystal James, Taufa Tuipulotu, Evie Hill, Jorja Aiono, Tegan Bendall, Charlie Williams, Chloe Roblin, Chiara Pearce

Eilyddion: Shanelle Williams, Georgia Morgan, Rhoswen James, Erin Jones, Amelia Bailey, Lily Hawkins, Kate Johnson, Megan Jones

 

Cymru D18 v Yr Eidal: Megan Jones; Saran Jones, Katie Johnson, Sienna McCormack, Meg Thomas; Kacey Morkot, Lily Hawkins; Georgia Morgan, Shanelle Williams, Rhoswen James, Erin Jones, Cara Mercier, Abigail Richards, Amelia Bailey (capten), Izzy Jones

Eilyddion: Taufa Tuipulotu, Crystal James, Evie Hill, Tegan Bendall, Chiara Pearce, Seren Lockwood Isla McMullen, Lily Foscolo

Related Topics

Wales U18s
Newyddion
News