Alfie Prygodzicz oedd yr enw ar wefusau pob Cymro yn Vichy yn dilyn buddugoliaeth Cymru o 17-10 yn erbyn Georgia yng Ngŵyl y Chwe Gwlad.
Gyda’i dîm ar y blaen o 7 pwynt yn unig yn yr eiliadau olaf, fe rwygodd capten tîm o dan 18 Caerdydd y bêl o sgarmes symudol Georgia – oedd fetr yn unig o linell gais Cymru – ac fe anelodd Prygodzicz gic berffaith dros yr ystlys wrth yml y llinell hanner – olygodd bod bechgyn Richie Pugh wedi sicrhau eu hail fuddugoliaeth o’r gystadleuaeth yn dilyn eu llwyddiant yn erbyn Iwerddon.
Yr Eidal fydd gwrthwynebwyr olaf Cymru’n yr Ŵyl ddydd Gwener a bydd capten y tîm, Cerrig Smith yn ceisio talu’r pwyth i’r Eidalwyr am guro ei dîm mewn gêm baratoadol mewn tywydd garw iawn yn L’Aquila.
Dylai’r gêm ddydd Gwener fod yn eithaf agos gan i’r Eidal guro Georgia o 37-24 yn eu gornest agoriadol yn yr Ŵyl yn Vichy.
Grym pac a sgarmes symudol Georgia agorodd y sgorio yn erbyn y Cymry cyn i Brogan Leary hawlio’i ail gais o’r Ŵyl wrth iddo dirio’n y gornel. Fe olygodd trosiad Lloyd Lucas mai 7-7 oedd hi ar yr egwyl.
‘Roedd Noah Morgan yn credu ei fod wedi sgorio ail gais ei dîm yn eiliadau olaf y cyfnod cyntaf – ond penderfynwyd bod pas yn gynharach yn y symudiad, ymlaen o drwch blewyn.
Collwyd ambell gyfle am geisiau pellach gan y Cymry wedi troi – wrth i Leary dderbyn pas oedd ymlaen rhywfaint cyn iddo dirio ac yna fe fethodd y pac â gosod y bêl ar y gwyngalch yng nghysgod y pyst.
Mewn safle ymosodol arall, cosbwyd y bachwr Tiaan Hall am ffugio tafliad i mewn i’r lein a chrewyd rhwystredigaeth pellach i’r Cymry gan amddiffyn dygn a dewr Georgia.
Yn dilyn trosedd arall yn y lein gan Gymru, aeth Georgia ar y blaen o’r gic gosb honno a dim ond 19 munud o’r gêm oedd ar ôl.
Yr eilydd rheng ôl, Noah Williams gymrodd gyfrifoldeb am newid llif y chwarae a gosod ei dîm ar y droed flaen. Yn dilyn ei rediad nerthol, cosbwyd amddiffyn Georgia yn ardal y dacl, a llwyddodd Lucas i’w gwneud hi’n 10-10 gyda’i gic gosb.
‘Roedd gwell i ddod gan y Crysau Cochion wedi awr o chwarae wrth iddyn nhw sicrhau meddiant glân o sgrym ymosodol ar y llinell ddwy ar hugain. Wedi i hyrddiadau Jack Harrison a Williams sugno amddiffyn Georgia, fe fanteisiodd y mewnwr Luca Woodyatt ar fwlch bychan i sgorio cais allweddol yr ornest.
Llwyddodd Lucas o Ysgol Glantaf, i agor y bwlch rhwng y timau i 7 pwynt, a mater o amddiffyn y flaenoriaeth honno oedd tasg y Cymry ifanc wedi hynny. Dyna’n union wnaeth cyd-ddisgybl Lucas yn fwy na neb arall wrth i weithred arwrol Alfie Prygodzicz sicrhau bod ei dîm yn gwarchod eu mantais eiliadau’n unig cyn y chwiban olaf.
Canlyniad: Cymru 17 Georgia 10
Sgorwyr Cymru: Ceisiau: Brogan Leary, Luca Woodyatt
Trosiadau: Lloyd Lucas 2
Ciciau Cosb: Lloyd Lucas
Tîm o Dan 18 Cymru v Georgia
Ben Coomer (Caerdydd), Brogan Leary (Dreigiau), Jack Harrison (Caerfaddon), Jack Hoskins (Gweilch), Rhys Cummings (Caerdydd), Lloyd Lucas (Caerdydd), Luca Woodyatt (Caerloyw), George Leyland (Bryste), Tiaan Hall (Dreigiau), Jayden Maybank (Gweilch), Kai Jones (Scarlets). Gabe Williams (Caerdydd), Morgan Crew (Academi Sir Efrog), Tiehi Chatham (Dreigiau), Cerrig Smith (Dreigiau, Capten).
Eilyddion: Dylan Barrett (Caerdydd), Tom Howe (Caerdydd), Nathan Davies (Scarlets), Osian Williams (Bryste) Alfie Prygodzicz (Caerdydd), Carter Pritchard (Dreigiau), Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets), Rhys Cole (Dreigiau), Noah Morgan (Dreigiau), Bailey Cutts (Caerdydd), Noah Williams (Bryste).