News

Sherratt yn ffyddiog wrth gadw'r ffydd

Mike Forshaw

Mae Cymru wedi enwi’r un pymtheg cychwynol ar gyfer dwy gêm yn olynol am y tro cyntaf ers gemau grŵp Cwpan y Byd yn 2019.

Yn dilyn perfformiad addawol y Crysau Cochion yn erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl, mae Prif Hyfforddwr Dros Dro Cymru, Matt Sherratt wedi cadw’r ffydd yn yr un tîm, gollodd o 27-18 yn erbyn y Gwyddelod yn nhrydedd rownd gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.

Dywedodd Matt Sherratt: “Fe berfformion ni’n reit dda yn erbyn Iwerddon. Fe gydweithiodd y bois yn effeithiol ac fe weithion nhw’n galed dros ei gilydd. O ystyried faint o amser gawson ni i baratoi ar gyfer y gêm honno – ‘ro’n i’n falch gyda’r perfformiad ac felly ‘rwy’n rhoi cyfle arall i’r bechgyn yn erbyn Yr Alban.

“Yn anffodus dim ond rhyw 13 neu 14 o chwaraewyr oedd yn ymarfer gyda ni’r wythnos ddiwethaf. Byddai wedi bod yn braf gallu gweithio gyda’r garfan gyfan ond mae’n rhaid i mi dderbyn nad oedd hynny’n bosib.

“Wedi dweud hynny, mae’r garfan yma’n arbennig ac yn  hawdd i’w hyfforddi.Maen nhw’n barod iawn i wrando a dysgu ac mae safon yr ymarfer yr wythnos hon wedi codi eto.

“Tra ‘mod i a’r chwaraewyr yn hapus gyda safon ein perfformiad bythefnos yn ôl – fe fethon ni â sicrhau’r canlyniad yr oedden ni’n ei obeithio amdano yn erbyn Iwerddon.

“Mae’r bois yn arbennig o gystadleuol  ac angerddol ac mae pawb yn canolbwyntio ar godi lefel ein perfformiad ymhellach yn erbyn Yr Alban.”

Mae’r Albanwyr wedi dewis asgellwr Caeredin D’Arcy Graham wedi iddo wella o’r anaf i’w ben ddioddefodd ef yn erbyn y Gwyddelod. O’r herwydd, ar y fainc y bydd Kyle Stern yn dechrau yfory.

Dyna’r unig newid y mae Gregor Thownsend wedi ei wneud yn dilyn y golled hwyr yn erbyn Lloegr.

Bydd Graham a’i gyd-asgellwr Duhan van der Merwe’n cynnig her ymosodol sylweddol i’r Cymry gan eu bod wedi sgorio 61 o geisiau rhyngwladol rhyngddyn nhw.

Fe hawliodd Van der Merwe gais rhif 32 yn Twickenham bythefnos yn ôl tra bo cyfanswm Graham dri’n llai na’i gyd-asgellwr ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Matt Sherratt: “Mae tri ôl Yr Alban yn cynnig gwir fygythiad ymosodol i ni. Mae tri chwarter eu bylchiadau’n cael eu creu gan eu tri ôl ac mae’n rhaid i ni fod yn barod i’w cadw’n dawel hyd gorau’n gallu.

“Ond ‘ry’n ni eisiau cynnig gwir fygythiad iddyn nhw gyda’r bêl hefyd a dyna yw’n gobaith ni ar gyfer y gêm.”

Related Topics

Newyddion
News