News

Gemau Hydref Cymru yn fyw ar S4C

Ticket information has now been confirmed

Bydd S4C yn dangos pob un o gemau tîm rygbi Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref 2020 yn fyw.

Fe fydd modd gwylio tair gêm grŵp Cymru, yn erbyn Iwerddon, Georgia a Lloegr, yn ogystal â’r bedwaredd gêm ar benwythnos y Rowndiau Terfynol, yn fyw yn yr iaith Gymraeg, wedi i’r darlledwr gyrraedd cytundeb gyda Six Nations Rugby Ltd.

Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar nos Wener 13 Tachwedd, pan fydd Iwerddon yn croesawu Cymru i’r Stadiwm Aviva, yn Nulyn.

Bydd S4C hefyd yn dangos y gêm gyfeillgar rhwng Ffrainc a Chymru ar ddydd Sadwrn 24 Hydref, yn ogystal â gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2020 yn erbyn yr Alban, ar ddydd Sadwrn 31 Hydref.

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Rydym yn falch iawn i roi’r cyfle i wylwyr ddilyn Cymru yn y gystadleuaeth newydd, hynod gyffrous yma, yn fyw ar S4C.

“Fel partner ddarlledu ffyddlon i URC, mae’r cytundeb yma yn atgyfnerthu ymrwymiad S4C i ddarlledu rygbi ar safon uchel drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, a hynny ar gyfer holl gefnogwyr rygbi Cymru.”

Meddai Craig Maxwell, Cyfarwyddwr Masnachol URC: “Mae S4C yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o rygbi Cymru. Mae’r cytundeb yma yn galluogi’r cefnogwyr i fwynhau gemau cyffrous Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn yr iaith Gymraeg, sydd yn newyddion gwych.”

Gemau Cymru ar S4C dros yr Hydref

Nos Sadwrn 24 Hydref – Gêm Gyfeillgar Ryngwladol: Ffrainc v Cymru – 8pm
Dydd Sadwrn 31 Hydref – Chwe Gwlad Guinness: Cymru v Yr Alban – 2.15pm
Nos Wener 13 Tachwedd – Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Iwerddon v Cymru – 7pm
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd – Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Cymru v Georgia – 5.15pm
Dydd Sadwrn 28 Tachwedd – Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: Cymru v Lloegr – 4pm
Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr – Cwpan Cenhedloedd yr Hydref: – Rowndiau Terfynol: Cymru v I’w Gadarnhau

Sut i wylio S4C

Mae S4C ar gael ar: Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru
Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae S4C HD ar gael i wylwyr Sky a Freesat yng Nghymru ac ar draws y DU.

Yn fyw ar-lein ac ar alw ar s4c.cymru a thrwy ddefnyddio ap S4C Clic ar iOS a Google Play.

Mae S4C hefyd ar gael ar draws y DU ar BBC iPlayer, tvcatchup.com, tvplayer.com a YouView.

Related Topics

Chwe Gwlad
International Tournaments CYM
Newyddion
Rhyngwladol yr Hydref
News