Neidio i'r prif gynnwys
Diweddariad statws URC 09/06/2020

Diweddariad statws URC 09/06/2020

Mae’r Cadeirydd Gareth Davies yn siarad am yr angen cydnabyddedig i addysgu ymhellach a gweithredu’n rhagweithiol yn erbyn hiliaeth ynghyd â mynd i’r afael ag effaith gyffredinol Coronavirus ar y gêm yng Nghymru, ynghyd â llawer mwy yn y Diweddariad Statws diweddaraf Undeb Rygbi’r Gymru:

Rhannu:

Nid oes lle o gwbl i hiliaeth mewn rygbi’r undeb. Bywydau Du o Bwys. Nid ydym yn sefydliad gwleidyddol, ond rydym yn ymwybodol o’n rôl yng nghalon diwylliant Cymreig a’r cyfrifoldeb sy’n deillio o hynny. Mae amseroedd pryd y gellir dehongli tawelwch fel cyfiawnhad.
Mae gan rygbi Cymreig berthynas hir dymor gyda’r ymgyrch ‘Dangos Cerdyn Coch i Hiliaaeth’ ac mae symudiadau proactif diweddar i gydweithio gyda phartneriaid eraill a modereiddio’n strwythur llywodraethiant er gwella amrywedd o’r gynrychiolaeth wedi cael ei dderbyn yn dda, ond nid ydym wedi mynd yr holl ffordd eto. Rhaid inni gynrychioli’r holl gymdeithas Gymreig, rydym yn gwybod y gallwn a rhaid inni barhau i ymdrechu i wella, a gwnawn hynny. Nid yw’n ddigonol i fod yn ddi-hiliaeth,rhaid inni fod yn wrth-hiliol ym mhob agwedd er creu cymdeithas sydd fwy cyfartal.
Nid oes lle i ragfarn o unrhyw fath mewn rygbi’r undeb. Rhaid iddo, yn wir, fod yn chwaraeon i bawb. Yn gywir felly,mae trafodaeth yn digwydd yn y gymdeithas ehangach am ‘wrando’ ar brofiad pobl a brofodd hiliaeth. Rhaid inni wneud hynny ond, yn gyfartal, rhaid inni weithredu. Rhaid inni addysgu a rhaid inni ei gwneud yn glir yr hyn sy’n annerbyniol.
Gofynwyd imi’r wythnos hon i asesu effaith Covid 19 ar rygbi Cymreig. Rydym yn parhau’n nhanol llygad y storm hon ac ni fydd yn bosibl i ateb y cwestiwn hwn yn llawn tan fydd y storm honno wedi mynd heibio.
Ond, yr ydym yn gwybod ein bod yn derbyn llawer o’n hincwm o wariant ar hamdden ag adloniant, trwy ddigwyddiadau megis teithiau stadiwm, cynadleddau a digwyddidau’n busnes craidd o rygbi proffesiynol Cymreig. Dioddefodd y sector hwn i gyd gyda diweddu’r busnes oedd yn gyfartal ȃ’r sectorau hynny a gafodd eu taro waethaf mewn diwydiant.
O’i agoriad, cynhyrchodd Stadiwm y Principality filiynau o bunnoedd i’r gwestai, lleoedd bwyta, bariau a’r diwydiant hamdden yng Nghymru yn ogystal ȃ chynhyrchu miloedd o swyddi – teimlir yr effaith taro ‘mlaen yn llydan a bydd ein poen, yn anffodus, yn cael ei rannu.
Parhȃ’r achos nad ydym yn gwybod pa bryd y bydd busnes ‘normal’ yn ail-ddechrau. Pan fydd stadia rygbi Cymreig yn llawn eto a phan ellir derbyn cyllid noddwyr a darlledu newydd.

Y mater mawr sy’n ein hwynebu yw pe byddau gemau’n ail-ddechrau “tu ôl i ddrysau cauedig”, bydd gan hyn oblygiadau gan fod mwyafrif o’r costau’n parhau i fod yna, ond eto, ffynonellau cyllid lleol megis gwerthiant tocynnau ag arian a dderbynir ar ddiwrnod gȇm ddim ar gael.
Nid yw URC yn cadw unrhyw elw gan ei fod yn cael ei ail ddosbarthu’n ôl i glybiau a’r gȇm broffesiynol, ac felly, mae pob agwedd o rygbi Cymreig wedi’i herio gan y creisis cyfredol.
Pan ddychwelwn, rydym yn gwybod y bydd heriau di-rif o gwmpas ail ddechrau chwaraeon cyswllt ac nid ydym yn gwybod beth fydd agwedd ein chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr a gwirfoddolwyr eraill yn y gȇm gymunedol.
Mae’n bosibl y gall rygbi ddychwelyd yn gynt nag y gallwn agor ein clybiau a bydd y gallu i gydweddu’r ddwy agwedd yn allweddol i’r gȇm gymunedol.

Yr ydym, wrth gwrs, yn optimistaidd iawn fod pobl yn gweld gwerth ymwneud cymdeithasol hyd yn oed yn fwy nag yr oeddent cyn y clo hwyrach ag y deuent yn ôl i rygbi’n dorfeydd mawr pan y gallent wneud hynny. Y cyfan y gallwn ei wneud yn y cyfamser yw cynllunio’n iawn ar gyfer hyn gan edrych ymlaen ato.
Nodwedd ddiffiniol o’n clybiau yw’r agwedd gymdeithasol ac rydym yn fusnes sydd wedi’i adeiladu ar brofiadau byw, o’r clwb cymunedol hyd at Stadiwm Principality lawn.
Edrychwn am gefnogaeth gan lywodraeth am ein hymdrechion i warchod dyfodol rygbi yng Nghymru, boed hynny’n rygbi mewn ysgolion neu gymunedau anoddach cael atynt.
Byddwn hefyd angen cefnogaeth ar gynllunio digwyddiadau gyda symudiad unol am ddenu digwyddiadau i Gymru – rhywbeth a amlygwyd gan y dull traws-asiantaidd i ddenu Gemau Byd Nitro  – allai ein cynorthwyo.
Mae rôl gadarnhaol y gȇm glwb ar draws cymunedau’n rhan angenrheidiol o rygbi Cymreig ac ni ddylid caniatau iddo edwino.
Byddwn yn parhau i geisio cael cefnogaeth y Llywodraeth fel cynghorwyr critigol yn ein cynlluniau i ddychwelyd i rygbi.
O iechyd a llesiant drwodd i gynhwysedd cymdeithasol, mae rôl ein clybiau’n hollbwysig i gymdeithas Gymreig ag am y rhesymau hynny byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i’w gwneud yn fwy cynaliadwy a hyd yn oed yn rannau allweddol i’r cymunedau’n maent yn eu gwasanaethu fel y bydd y creisis presennol yn lleihau.

Yr eiddoch mewn rygbi,
Gareth Davies,
Cadeirydd

Rheolwyr Gweithrediau Clwb

Rydym yn parhau i archwilio i effaith Covid19 ar ein gȇm a sut y gallwn edrych i ddychwelyd yn ddiogel i rygbi.
Yn cael ein harwain gan ganllawiau Llywodraeth Cymru, rydym yn ymchwilio camau cyntaf cynllunio i ddychweliad potensial i ymarfer, ag yn y pen draw, chwarae rygbi.
Rhan o’r broses yw datblygu protocolau a chanllawiau wedi’u hanelu at gynorthwyo ein clybiau sy’n aelodau i reoli drwy’r cyfnod hwn, o berspectif gweithredol, a bu inni gysylltu gyda phob un o’n clybiau i enwebu Rheolwr Gweithrediadau Clwb i gael trosolwg ar ddychwelyd i rygbi.
Rôl y rheolwr hwn yw sicrhau fod cynlluniau mewnol yn eu lle yn y clybiau er mwyn galluogi dychweliad diogel a bydd yn perfformio rôl debyg i Swyddog Integredd Clwb (SIC) sydd mewn swydd yn barod, neu Swyddog Gwarchodaeth Clwb (SGC) sydd gyda’i rôl glwb yn troi o gwmpas cadw’n gȇm yn ddiogel.
Bydd URC yn sefydlu rhwydwaith o gysylltiadau a mecanwaith gefnogi ar gyfer pob Rheolwr Gweithrediadau Clwb, fel ag i sicrhau y gweithredir y protocolau perthnasol ag y bydd dychweliad i rygbi mewn amgylchedd diogel a rheoledig.
Rhagwelwn y bydd ein dychweliad i rygbi’n un cymalog a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru fel yr ydym yn datblygu’r cynllun hwn.
Rôl y Rheolwr Gweithrediadau Clwb yw i:
– Datblygu rhwydwaith o Arweinwyr Gweithredol yn y clwb a fydd yn rheoli Canllawiau Cymunedol a Dulliau Gweithredu Argymhellol ar gyfer carfannau unigol
– Darllen a deall, a rhannu’r holl wybodaethau diweddaraf a pherthnasol ar COVID-19 a dychwelyd i chwarae, i’r unigolion perthnasol yn y Clwb.
– Gweithredu’r arweiniad yn y protocol dychwelyd i chwarae – Canllawiau Cymunedol a Dulliau Gweithredu Argyhellol (a phob arweiniad perthnasol arall, cyngor ac addysg parthed COVID-19) ar ran y Clwb.
– Gadael i Glybiau eraill wybod ag URC mai ef/hi yw’r Rheolwr Gweithrediadau’r Clwb (ag adnabyddiaeth o’r Arweinwyr Gweithredol perthnasol) i’r Clwb perthnasol.
Yn barod, mae gennym 232 o Reolwyr Gweithredol Clwb yn eu lle ac rydym yn cynllunio cynnal webinarau i ddarparu gwybodaethau a chefnogaeth i’r bobl sydd wedi gwirfoddoli i ymgymryd ȃ’r rôl bwysig hon yn ein clybiau.
Gofynir i glybiau sydd heb gadarnhau eu Rheolwr Gweithrediadau Clwb eto i wneud hynny drwy e-bost i Jeremy Rogers, Rheolwr Polisi a Integrededd URC, ar
jrogers@wru.wales mor fuan ȃ phosibl.

Cysylltiadau pwysig

Er sicrhau cyfathrebu effeithiol yn ystod y cyfnod hwn, hoffai Adran Rygbi URC rannu tri chyfeiriad e-bost fel pwyntiau cyswllt ar gyfer Cymryd Rhan, Rygbi Menywod a Datblygiad Clwb. Trwy ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost hyn, gall tîm Adran Rygbi URC reoli pob gohebiaeth yn effeithiol, gan ganiatau ymatebion cyflym a chaniatau inni gysylltu unrhyw gwestiwn i’r adran berthnasol neu aelod o dîm.
Os gwelwch yn dda, parhewch i rannu’ch safbwyntiau, gwybodaeth a chwestiynau gyda ni:
Rygbi Menywod: Femalerugby@wru.wales
Cymryd Rhan: participation@wru.wales
Bydd y Tîm Datblygiad Clwb yn parhau i ddarparu diweddariadau wythnosol i ysgrifenyddion clybiau ar ddydd Gwener a dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau parthed y wybodaeth at Ddesg Gymorth URC clubdevelopment@wru.wales

Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm y Principality

Cyhoeddodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Len Richards, nad yw Ysbyty Calon y Ddraig, sydd gyda lle i 1,500 gwely, ag sydd ar safle Stadiwm y Principality, yn derbyn cleifion bellach ond bydd yn parhau’n Ysbyty wrth gefn.
“O’r 8fed Mehefin, bydd BIP Caerdydd a’r Fro’n defnyddio’r capasiti’n eu prif safleoedd Ysbyty ar gyfer cleifion Covid 19,” meddai Richards.
“Bydd safleoedd Ysbyty Calon y Ddraig yn parhau i gael eu cadw a bydd ar gael i dderbyn cleifion pebae angen cynnydd mewn capasati. Mae hyn yn cydfynd ȃ chynlluniau arferol GIG parthed defnydd o welyau, i sicrhau effeithioldeb y gwasanaeth a’r gweithlu, yn enwedig gyda’r cynllunio ar gyfer y Gaeaf eisoes wedi dechrau.
“Rydym yn dilyn y modelu a llwybr y feirws er sicrhau pe byddem yn gweld cynnydd pellach, byddem yn gallu ymateb yn gyflym a didrafferth i gefnogi cleifion a’u teuluoedd, gan ddarparu iddynt y gofal a’r triniaethau angenrheidiol wrth daclo, a gwella’n ogystal, o’r feirws.
“Stori llwyddiant Ysbyty Calon y Ddraig yw na fu iddi gael ei defnyddio i’w chapasiti llawn ond ei bod yna i fod yn llwyr weithredol pe byddai angen.
“Mae hyn yn ddiolch i gymunedau De Cymru sydd oll wedi chwarae’u rhan yn lleihau’r lledaeniad o’r feirws.
“Nid yw wedi diflannu ond yr ydym yn dysgu sut i’w reoli gydag ystod o fesurau, yn cael ei arwain gan wyddoniaeth a’r hyn a ddywed y modelu o ganlyniad i’r gwyddoniaeth wrthym. Y llinell waelodol yw ein bod yn barod ar hyn o bryd, fel yr oeddem ynghynt, a dylai hynny ddarparu sicrwydd i’n cymunedau”.

Gwrandewch ar ychwaneg gan BW, BIP Caerdydd a’r Fro yma:


Syniadau codi arian clybiau’n parhau…

CALDICOT I GANADA – AG YN ÔL!
Ar ddechrau Mai 2020, roedd clwb rygbi Caldicot i fod i hedfan gan dreulio ychydig wythnosau’n teithio o gwmpas Canada tra’n chwarae rygbi a gweld y golygfeydd lleol.
Oherwydd Covid-19, canslwyd y trip gan beri siomedigaeth fawr iawn ond, yn amlwg, nid oedd teithio’n ddewis yn hstod yr amser ansicr hwn.
Wedi’r siomiant dechreuol, dechreuodd y clwb edrych gyda’i gilydd at droi’r sefyllfa negyddol i un gadarnhaol gan hwyrach gynorthwyo eraill wrth wneud hynny.

Derbyniwyd her godi arian anodd, i deithio, fel clwb, y pellter o Caldicot (De Cymru, DG) i Edmonton (Canada) ag yn ôl!
Ychydig dan 8,300 milltir (13,342 km) yw’r pellter y bydd chwaraewyr Caldicot, y staff a’u teuloedd yn ceisio’i deithio drwy fid Mehefin.
Reordir pob gweithgaredd ar Strava ac felly, bydd record lawn o’r holl filltiroedd/km a deithiwyd wrth gerdded, rhedeg, reidio a nofio yn y cyfnod 30 niwrnod.
Fel clwb cymunedol sy’n garedig at deuluoedd, roedd Caldicot eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol drwy godi arian at achos pwysig iawn.
Grŵp lleol yw Cymuned Caldicot yn gweithio gyda’i gilydda sefydlwyd i gefnogi pobl leol ar yr amser called yma yn ystod Covid-19.
Gweithia’r grŵp o wirfoddolwyr gyda busnesau lleol bychain i ddarparu angenrheidiau megis prydau i unrhywrai sydd mewn angen e.e. yr henoed a’r bregus.
Hannerir yr arian a godir 50/50 rhwng grŵp Cymuned Caldicot yn gweithio gyda’i gilydd a chlwb rygbi Caldicot, a fydd yn defnyddio’r arian er sicrhau fod y clwb yn aros yn gynaliadwy yn ystod yr amser caled hwn sydd gyda Covid-19 yn cael effaith negyddol mawr yn gyllidol.
“Rydym yn awyddus i sicrhau fod gan genedlaethau’r dyfodol yn Caldicot glwb rygbi lleol y gallent ei fwynhau fydd yn annog llesiant cymdeithasol, iechyd, ffitrwydd a synnwyr o fod gyda’n gilydd,” meddai ysgrifennydd y clwb, Keith Mellens.
“Gobeithiwn godi 50c y filltir a deithir sy’n golygu cyfanswm o £4,150.00.”
Ar ddiwedd wythnos gyntaf yr her, roedd y clwb yn barod wedi cyrraedd 51% o’i darged gyda thros with deg o ymarferwyr actif. Ystyrir heriau newydd ar gyfer y dyfodol.

DIM DAL STODDART YN ÔL
Cyn gefnwr y Sgarlets a’r chwaraewr rhyngwladol Cymru a enillodd lawer, Morgan Stoddart, oedd y reidiwr blaen mewn her seiclo 1,000 miles in May y mis diwethaf.
Ymunwyd gyda Stoddart gan lwyth o chwaraewyr rygbi cymunedol ac mae’r grŵp wedi codi swm anferth o arian ar gyfer Canolfan Cancr Felindre, gydag ychwaneg i ddod am y stori hon yr wythnos nesaf. Gellir cyfrannu yma:
https://www.justgiving.com/fundraising/morgan-stoddart15

Newyddion rygbi

RISCA TROS Y STORM

Bu inni ddal i fyny gyda rhai o’r clybiau a darwyd yn ddrwg iawn gan Storm Dennis.
Mae Risca a Cyn Fechgyn Ysgol Uwchradd Casnewydd yn werthfawrogol am gefnogaeth eu cymunedau am y cymorth a ddarparwyd gan y stormydd.
Dywedodd cadeirydd ac aelod o Fwrdd Cymunedol URC, Colin Wilks, Yn sylfaenol, daeth y clwb i lonyddwch llwyr mewn mater o oriau. Onibai bod y gymuned leol wedi’n helpu ar y dydd Sul hwnnw ag ar y dyddiau wdi hynny, buasem mewn picil a hanner. Roedd yn reit emosiynol a dweud y gwir. Mae gennych eich gwirfoddolwyr rheolaidd a daethant i gyd i gynorthwyo ond daeth llawer iawn arall, nad oeddem yn gwybod amdanynt, droi i fyny i gynnig help yn ogystal oedd yn rhywbeth pur deimladwy. Cawsom gymaint o ymateb gan y cyhoedd fel ein bod yn gallu rhannu’r baich rhyngom.
“Gwnaethom ddigon o waith atgyweirio dechreuol fel ein bod yn gallu agor un bar erbyn y nos Lun ar gyfer grŵp (dawns) lleol a chynnal cymaint o weithgareddau ȃphosibl er mwyn cadw prth incwm i ddod i mewn on dyna, bu inni gau pob dim er mwyn ail osod carped, dodrefn ag ati. Yna, cyrhaeddodd Covid.
“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ariannol URC, gyda phob clwb yn derbyn £1k a chael budd o ostyngiad trethiannol. Rwyf yn gwybod fod rhai clybiau wedi llwyddo i gael cyllid o leoliadau eraill yn ogystal.
“Rydym bron yn ôl i 100% yn awr, diolch i gymorth a chefnogaeth y gymuned sydd wedi’n cynorthwyo’n ymarferol yn ogystal. Rydym bron yn barod i agor ond mae hynny’n ddibynnol ar lywodraeth a chyngor URC.
“Mae rheolaeth ariannol dda wedi’n cynorthwyo a serch ein bod i gyd ar dȃn eisiau gweld pȇl rygbi’n cael ei phasio o gwmpas, rydym yn ddiolchgar y gallwn gadw i fynd yn ystod y cyfnod yma.”

‘GOLLWNG ENWAU’ TRWM YN YSTRADGYNLAIS
Effeithiodd y pandemig Covid a’r cload ar filoedd o unigolion a theuloedd ledled y wlad mewn sawl ffordd wahanol, ond, yn ogystal, mae wedi dod a chlybiau a chymunedau at ei gilydd.
Neb yn fwy felly nag yn Ystradgynlais yn Nyffryn Abertawe.
O gwisiau, adloniant cerddorol a nosweithiau Sadwrn gyda rhai o’r enwau mwyaf yn y gȇm, gweithiodd y clwb, sydd yn Adran Dau Canol y Gorllewin, yn galed, ddim yn unig i gadw ei chwaraewyr, hyfforddwyr, aelodau a chefnogwyr ei hun yn gysylltiedig ond cyrhaeddodd ei feddylfryd ‘awyr las’ gefnogwyr mwynhau rygbi ledled y byd.
Gareth Thomas, Cyn brop i’r clwb a hyfforddwr presennol dan 10,sydd wedi cymryd yr awennau fel rheolwr anffurfiol adloniant yn ystod y clo.
Dywedodd, “Roeddem oll eisiau cefnogi’r clwb ar yr adeg yma ag mae’n angrhedadwy sut mae’r gymuned wedi dod at ei gilydd. Bu inni ddechrau drwy drefnu codwyr arian ar gyfer yr Ysbyty a’r gymuned leol drwy Grysau-T GIG a chyfraniadau Wyau Pasg. Yn gystal, bu inni ddechrau cynnal nosweithiau cwis wythnosol a oedd yn cael eu cefnogi gan fusnesau lleol. Symudodd hynny ymlaen i nosweithiau cerdd byw arlein ag yna, bu inni feddwl am gyfweld rhai o sȇr y gȇm – ein ferswin ni o Noson Gyda….
“Cyn belled, bu inni gael Shane Williams, Adam Jones, Sean Holley a Tom Shanklin. Daeth yn uchafbwynt da i’r wythnos i lawer – bu inni gael mwy na 100 000 o bobl yn ymuno gyda ni yn ystod ein slot nos Sadwrn ar ein tudalen Gweplyfe, sydd, i glwb bychan, yn bur anhygoel. Gall pobl anfon cwestiynau atom ymlaen llaw neu’n ystod y cyfweliadau byw a bu inni gael pobl yn tiwnio i mewn o gwmpas yr holl fyd. Mae gennym Lee Byrne a Ben Evans wedi’u llogi ar gyfer Sadwrn yma ac, yn barod, rydym wedi cael cwestiwn wedi’i anfon o Awstralia! Nigel Owens yw’r nesaf ar y rhestr.
“Mae’n ardderchog y modd y mae’r enwau mawr a’r chwaraewyr rhyngwladol yma’n rhoi eu hamser yn rhad ac am ddimer mwyn cadw’r gymuned rygbi ynghlwm ȃ’i gilydd a derbyniasom adborth ardderchog. Nid yw am godi arian, ond cael ychydig o hwyl a chadw pawb gyda’i gilydd.”
Cred Gareth fod cenhedlaeth newydd o wirfoddolwyr wedi dod i’r amlwg yn ystod yr amser yma.
“Mae gennym wirfoddolwyr ardderchog yn y clwb sydd wedi ymroi’n llwyr drwy eu bywydau i rygbi Cymreig. Fodd bynnag, yn ystod yr amser yma, mae eraill oedd yn perthyn i’r clwb hefyd eisiau helpu mewn unrhyw ffordd y gallent. Yn amlwg, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn allweddol yn ystod y cload ac felly, bu inni geisio cael y gorau ar hynny drwy ac mae gennym ychwaneg o syniadau i gynorthwyo’r clwb tros y misoedd nesaf a, hyd yn oed, pan fydd rygbi’n ôl yn rhedeg unwaith eto.
“Yn arferol, byddwn yn cynnal Diwrnod i’r Teulu a ras hwyaid i godi arian ar gyfer ein adrannau mini ac iau yn ystod yr haf. Ni all hynny ddigwydd eleni, ac felly, ar ddiwedd Gorffennaf, rydym am gynnal yr hyn a gredwn ni yw’r ras hwyaid gyntaf erioed wedi’i chynhyrchu dros gyfrifiadur! Byddwn yn ffilmio’r afon a gall pobl brynu’u hwyaid a fydd yn cael eu gosod ar ben y rhai ar y peiriant yn yr un modd ag y gwneir gyda rasus ceffylau dros gyfrifiadur. Gwyliwch y gwagle!”

HOLMES YW LLE MAE’R GALON
Tiwniwch i mewn i bodcast clywedol diweddaraf URC fel yr ydym yn cymryd golwg ar iechyd a iechyd meddwl drwy’r creisis coronafeirws – a’r rôl y mae rygbi’n parhau ei chwarae wrth helpu.
Eglura Hyfforddwr Dragons Gateway Community, Gareth Sullivan, ei rôl ac rydym yn clywed hefyd gan gefnwr rhyngwladol Cymru, Jonah Holmes am y rheswm iddo benderfynu symud at y Dreigiau.
Gwrandewch yma:
www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-23-2020/

YR OCHR HEULOG O’R FFDD
Beth a gewch wrth gasglu at ei gilydd dîm sy’n cynnwys pump Llew Prydain ag Iwerddon, pum enillydd y Gamp Lawn a 12 chwaraewr rhyngwladol? Dyma beth – ‘Tîm Breuddwyd’ Ffordd Sardis!
YN debyg i gynifer o glybiau tros y cload, gofynodd clwb rygbi Pontypridd i’w cefnogwyr i bleidleisio am eu ‘XV Cyn & Phresennol’ gorau.
Pariwyd Parker gyda Dafydd Lockyer yng nghanol y maesgan ganfod cyn gyd-chwaraewyr, Kevin Morgan, Gareth Wyatt, Dafydd James, Neil Jenkins a Paul John yn ymuno ag ef mewn criw o gefnwyr hynod bwerus.
Roedd yna gymaint o enwau mawr i feddwl amdanynt a method nifer o sȇr a chyrraedd y toriad.
Un enwogyn a adawyd allan oedd y Llew yn 1955, Russell Robbins, fel hefyd y Llew arall a chyn gapten Cymru, Michael Owen.
Methodd hannerwr Cymru, Ceri Sweeney allan yn ogystal, fel ag y digwyddodd i’r blaen asgellwr a enillodd y Goron Driphlyg yn 1988, Richie Collins.
Felly, pwy arall a gyrhaeddodd yr XV? Canfyddwch hynny yma:

CRICED FFANTASI RYBGI CYMREIG
Yn arferol, buasai’r tymor criced yn ei anterth erbyn hyn ac felly, meddyliom y buasem yn edrych yn ôl ar y chwaraewyr rhyngwladol Cymru hynny a ddisgleiriodd gyda’r bat a phȇl yn ystod misoedd yr haf.
Yn agor yr ymosod y mae dau chwaraewr rhyngwladol Cymru presennol, Jake Ball a Aaron Shingler.
Roedd Jake Ball yn gricedwr cyn bod yn chwaraewr rygbi ac arferai godi ofn ar fatwyr yn Perth wrth fowlio ar gyflynder o 82 mya. Roedd yn academic riced Gorllewin Awstralia a chwaraeodd ochr yn ochr ȃ chwaraewr aml ochrog i Awstralia’n y dyfodol, Mitch Marsh, yn y gystadleuaeth genedlaethol Dan 19.
Hyfforddwyd ef gan Geoff Marsh, y cyn chwaraewr prawf a thad Mitch, cyflwynwyd ei gap Dan 19 cap iddo gan Dennis Lillee ac edrychai’n siwr y buasai’n mynd ymhell yn y gȇm onibai iddo gyfnewid i rygbi. Cymerodd 10 wiced ar gyfartaledd o 20.3 tros saith gȇm yn y gystadleuaeth Dan 19 Genedlaethol.
Roedd ei gyd-chwaraewr gyda’r Sgarlets, Aaron Shingler, hefyd yn gricedwr hynod addawol cyn iddo ddewis rygbi. Treuliodd ddwy flynedd ar staff Morgannwg wedi iddo ddod trwy eu hacademi a chwarae tros dîm Perfformiad Uchel Prifysgol Caerdydd.
Chwaraeodd gyda Mooen Ali tros Loegr Dan 19 yn erbyn Bangladesh ac, fel bowler cyflym agoriadol, chwaraeoedd, yn ogystal, dros dîm Siroedd Iau Cymru.
Clicwch yma i ganfod pwy arall sy’n ei gwneud i weddill X1 criced ffantasi, rygbi Cymreig:
www.wru.wales/2020/06/remembering-welsh-rugbys-cricketing-heroes/

Ac yn olaf… Bennett yn ennill!

Mae ef wedi mynd a’i gwneuthurr eto! Yn ôl yn 2007, enillodd cais ardderchog Phil Bennett yn erbyn yr Alban yn Murrayfield bleidlais BBC Wales am y cais Cymreig gorau yn y Pum neu’r Chwe Gwlad ac, yn awr, cyrhaeddodd ben y rhestr unwaith  eto yng nghystadleuaeth Undeb Rygbi Cymru ‘Cais Cymreig Gorau Erioed’.
Ymddangosai hannerwr Llanelli ddwywaith mewn cais a ddechreuodd wrth doriad i fyny ar 22 Cymru gan orffen gyda’r hyn a ddisgrifiodd Bill McLaren wrth sylwebu fel “the try of the Championship”. Yn fwy na hynny, enillwyd Coron Driphlyg arall.
Ym mhedair rownd ein cystadleuaeth i ganfod y gorau o’r 16 cais ardderchog tros Gymru, bu i gam-ochri hyfryd Benny ddod ar ben y rhestr ym mhob gornest. Yn y rownd derfynol, bu raid i sgôr eiconig Scott Gibbs yn Wembley yn erbyn Lloegr yn 1999 aros fel yr ail orau.
www.wru.wales/2020/06/benny-comes-out-on-top-in-greatest-ever-try-competition/

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Rhino Rugby
Sportseen
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Diweddariad statws URC 09/06/2020
Amber Energy
Opro
Diweddariad statws URC 09/06/2020