Neidio i'r prif gynnwys
Elen Evans

Mae cyn-chwaraewr Cymru Elen Evans yn mwynhau her newydd gyda'i teulu ac yn hyfforddi

Blaenoriaethau newydd i Elen Evans

Chwaraewyr cysylltiedig

Bu dod yn fam newydd i Tiaan, sy’n chwe mis oed, orfodi cyn-asgellwr Menywod Cymru a hyfforddwraig dynion Dolgellau, Elen Evans, ail ystyried ei blaenoriaethau, ond bydd rygbi bob amser yn rhan fawr o’i bywyd.

Rhannu:

Gwaith pob dydd y seren ryngwladol a chwaraeodd 73 o weithiau tros Gymru yw Rheolwr Ôl-Werthu ym musnes teuluol ‘Gwyndaf Evans Motors’ a chyfaddefa fod bod yn fam wedi tynnu allan ei hochr feddal.

“Bu’n anoddach cadw’r holl blatiau i droi nag y tybiais ac ni fu imi ddychwelyd i hyfforddi’n llawn amser eto ond, teimlaf fy mod yn barod i ymgymryd ag ychwaneg o gyfrifoldebau unwaith eto’n awr.

DFP – Leaderboard

“Bum yn hyfforddi drwy fy holl gyfnod beichiogrwydd gan gynnwys y rhaglen cyn-tymor lawn yr haf diwethaf. Rhoddais y gorau iddi dair wythnos cyn i Tiaan gael ei eni ac, i ddechrau, meddyliais y buaswn yn dychwelyd yn syth.

Meddyliaf imi dangyfrifo yr effaith y buasai cael babi’n ei gael ar fy mywyd – yn enwedig ar yr ochr emosiynol. Ni fum erioed yn berson meddal ond dyna wyf erbyn hyn! Rygbi arferai ddod yn gyntaf ond, yn awr, y teulu sydd gyntaf heb amheuaeth o gwbl. Mae genedigaeth Tiaan yn bendant wedi newid fy agwedd.

“Rydym yn ffodus iawn i gael mwy o ferched ar ben y gȇm yn awr megis Liza Burgess. Bu iddi fy nghwahodd i fod yn rhan o dîm hyfforddi’r Crawshay’r – rhywbeth yr wyf yn ei werthfawrogi – roedd y dyddiau hynny’n ardderchog wir. Roedd yn brofiad gwych i bawb a oedd yn ynghlwm o ystyried cymaint a roddwyd i rygbi Clwb Merched Cymreig – triniwyd hwy fel chwaraewyr rhan-broffesiynol tros holl gyfnod y cyfarfodydd. Yn ogystal, bu iddi fy nghwahodd i fod yn rhan o raglen yr Alltudion ac felly, edrychaf ymlaen at hynny pan fydd rygbi’n ail-ddechrau.

“Nid wyf wedi teimlo’n barod i ddychwelyd yn llawn amser i sesiynau ymarfer wythnosol a gemau sydd ynghlwm ȃ hyfforddi Dolgellau tan yn awr ond, rwyf yn eithaf parod i gyfrannu mwy erbyn hyn. Mae’n glwb teuluol iawn a, mae llawer iawn o dynnu coes yn digwydd gyda’r chwaraewyr yn gofyn pa bryd y byddaf yn ôl ond credaf fy mod angen amser i ffwrdd o’r gȇm, yn enwedig pan yn trawsnewid yn syth o chwarae i hyfforddi.

“Bum hefyd yn ymarfer gyda’r bwriad o chwarae mewn rhai twrnamentau 7 pob ochr yr haf – dim ond pan mae’r tywydd yn braf! Felly, cawn weld beth ddigwydd pan ail ddechreua rygbi ond, yn sicr, rwyf eisiau datblygu fel hyfforddwr. Bu imi gwblhau fy Lefel 2 ac rwyf mewn cyswllt i ddechrau fy Lefel 3.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Rhino Rugby
Sportseen
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Blaenoriaethau newydd i Elen Evans
Amber Energy
Opro