Neidio i'r prif gynnwys
Manon Johnes

Mae blaenasgellwr Gleision Caerdydd a Chymru Manon Johnes yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Barc yr Arfau

Manon – ni’n barod i brofi pwynt

Chwaraewyr cysylltiedig

Dywed blaenasgellwr Menywod Cymru, Manon Johnes, fod hi a’i thîm yn barod i brofi pwynt yn eu gornest Chwe Gwlad y Merched gyda Ffrainc wythnos i ddydd Sul.

Rhannu:

Mae’r ochr wedi wynebu’r Eidal a’r Iwerddon hyd yn hyn yng nghystadleuaeth 2020 a’r ‘Les Bleus’ fydd yn eu hwynebu nesaf yn rownd tri.

Gan edrych ymlaen i’r gȇm honno – a fydd yn dynodi dychweliad Cymru i Barc yr Arfau yng Nghaerdydd, mae chwaraewraig rheng- ôl Gleision Caerdydd, Johnes yn edrych ymlaen at gryn gefnogaeth o’i dinas gartref.

DFP – Leaderboard

“Bu inni chwarae’n Ffrainc y llynedd ac mae ganddynt hwy gefnogaeth dda iawn bob amser,” dywedodd. “Gobeithio y cawn gefnogaeth debyg a bydd eu chwarae gartref yn rhoi mantais fechan inni o’i gymharu ȃ’u chwarae hwy i ffwrdd. Mae Ffrainc yn dîm safonol ac mae ganddynt chwaraewyr da drwy’r garfan gyfan.

“Bydd yn rhaid inni fod yn gorfforol, parhau i adeiladu, gan gadw perchnogaeth am fwy o amser. Bu inni brofi pwynt yn yr Iwerddon, hwyrach ddim yn nhermau’r canlyniad ond yn nhermau’r hyn y gallwn ei wneud ar brydiau a’r hyn sydd raid inni ei wneud yn awr yw cadw hynny am gyfnod hwy a dangos y gallwn fod yn safonol yn erbyn tîm arall o safon byd.

“Mae gennym dair gȇm anodd o’n blaenau. Yr hyn a wnaeth gȇm Iwerddon oedd dod a ni’n fwy clos fel grŵp a dangosodd inni mor bell yr ydym wedi dod yn seicolgegol ac yn feddyliol. Bu inni ymdrin ȃ phroblemau’n ystod y gȇm a serch na ddaethom i ffwrdd gyda’r canlyniad yr oeddem eisiau, bu inni gadw’n pennau ac ymdrin gyda hynny oedd yn ein hwynebu.”

Ychwangeodd yr hyfforddwr, Gareth Wyatt, “Yr ydym yn gwybod mor galed y mae pawb yn gweithio. Creodd y merched nifer o gyfleon ddydd Sul ond, yn anffodus, ni allem eu cymryd ac roedd yr Iwerddon yn haeddu ennill. Rydym yn gweithio’n galed i roi pethau’n eu lle’n iawn cyn Ffrainc.

“Roedd tyrfa ffantastig ar Barc yr Arfau’n erbyn yr Eidal, mae’r merched yn caru chwarae yno ac yn wir werthfawrogi’r gefnogaeth y maent yn ei dderbyn. Byddent yr un mor awyddus ag yr ydym ni fel hyfforddwyr i roi perfformaid ar gyfer y cefnogwyr ac rwyf yn siwr y gwelwn hynny ar y diwrnod.”

Yn erbyn yr Iwerddon, chwaraeodd Cymru mewn amodau erchyll o law trwm a gwyntoedd ystormus achoswyd gan Storm Ciara arweiniodd at hafoc llwyr ar gyfer gornest Donnybrook. 
Fodd bynnag, sgoriodd Cymru geisiau drwy’r cefnwraig Lauren Smyth a’r capten Siwan Lillicrap tra bu i’r maswr Robyn Wilkins ychwanegu trosiad.

“Mae pawb yn siomedig. Gallwn ddangos yr hyn yr ydym yn gallu’i wneud ar brydiau drwy’r gȇm, ond mae angen inni wneud hynny am 80 munud a dim am y 15 cyntaf yn unig,” dywedodd Johnes, wrth adlewyrchu ar y golled o 31-12 i’r Iwerddon.

“Bu inni sylweddoli fod angen inni fod yn fwy bygythiol wrth ymosod ac yn fwy clinigol pan mae’r bȇl gennym yn 22 y gwrthwynebwyr. Yn erbyn yr Iwerddon, treuliasom gymaint o amser yno ond ni fu inni sgorio ceisiau.

“Rhaid inni gymryd y cyfleon hynny ac mae’n rhwystredig oherwydd mae yna ambell i gipolwg da iawn yna a chyrhaeddodd cwpl o geisiau’r Iwerddon oherwydd methiannau taclo sy’n hawdd iawn i’w gywiro. Yn y Chwe Gwlad, ni ellwch ddibynnu ar gywiriadau hawdd oherwydd, unwaith yr ydych wedi gwneud camgymeriadau, rydych wedi colli’r gȇm.”

Enillodd Merched Ffrainc un, a cholli un o’u dwy gȇm y bu iddynt eu chwarae cyn cyfarfod Cymru.

Gellir cael tocynnau ar gyfer gweddill gemau cartref Menywod Cymru – yn erbyn Ffrainc ddydd Sul 23ain ag yn erbyn yr Alban ar Sul 15fed Mawrth o wru.wales/waleswomen

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Rhino Rugby
Sportseen
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Manon – ni’n barod i brofi pwynt
Amber Energy
Opro
Manon – ni’n barod i brofi pwynt