Neidio i'r prif gynnwys
Cil y Cwm i Kumamoto

Owen Watkin a Wyn Jones yn Stadiwm y Principality.

Cil y Cwm i Kumamoto

Chwaraewyr cysylltiedig

Er bod Wyn Jones wedi ennill 22 cap i Gymru, cyn Cwpan y Byd dim ond dau brawf roedd e wedi dechrau. Ond fe newidiodd pethau yn Siapan gyda’r prop saith ar hugain oed yn dechrau pump o’r saith gêm.

Rhannu:

“Roedd e’n amser bythgofiadwy i fod gyda’r garfan mor hir a dod i nabod y chwaraewyr a’u teuluoedd mor dda. Roedd pobl Siapan mor neis ac roedd y croeso geson ni yn rhywbeth anghofia’i byth. R’on ni mas yn Siapan am ddau fis a cyn hynny o ni gyda’n gilydd drwy’r haf yn y Swisdir a Twrci ac er bod hwnna’n amser caled iawn roedd e wedi tynnu ni’n glos. Roedd e’n grwp grêt o bobl a roedd hynny wedi gwneud y profiad hyd yn oed yn well. Fe aeth pethau’n dda ar y cae ac yn y pen draw roedden ni mor agos i fynd yr holl ffordd i’r ffeinal ac fe allai’r gem gynderfynol yn erbyn De affrica fod wedi mynd y nail ffordd neu’r llall. Ro’n i’n hapus fel aeth Cwpan y Byd i fi’n bersonol. Falle bo fi wedi bod yn y garfan am sbel ond wedi treulio lot o amser ar y fainc a roedd hi’n neis cael mwy o amser ar y cae i ddangos beth rwy’n gallu gwneud.

Bydden i byth yn meddwl byddai fe’n bosib pan oeddwn i’n rhedeg mas i Lanymddyfri mewn llefydd fel Pont-y-pŵl a Cross Keys ond fi wedi enjoio rygbi bobman rwy wedi chwarae o Llanymddyfri i’r Scarlets a Chymru. Efallai mai’r cam mwyaf oedd yr un o Lanymddyfri i’r Scarlets. Roedd y gêm yn wahanol – llai o ‘niglo’ a’r sgryms yn cael eu dyfarnu’n well. Yn yr uwch gyngrhair mae na lot o hen brops sy moyn neud dim byd ond sgrymio, ond fe ddysgais i lot a rwy’n dal i ddefnyddio nifer o’r technegau hynny hyd heddiw.

DFP – Leaderboard

Doedd e ddim yn rhwydd – ro’n i yn y brifysgol yn Aberystwyth ac yn dod nôl i Lanelli dair gwaith yr wythnos i ymarfer a nôl ar y penwythnos i chwarae – ond o leia roedd mam a dad yn talu’r petrol bryd hynny! A chwarae teg mae nhw wedi bod tu ôl i fi yr holl ffordd. Pan ges i gynnig y cytundeb cynta roedd blwyddyn ar ôl ‘da fi yn Aber a gofynnais i allwn i orffen y cwrs amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid ond wedyn roedd e’n ‘no brainer’ i fynd yn chwaraewr rygbi proffesiynol a fi’n lwcus ‘mod i wedi gwneud y penderfyniad.”

Lwcus yn wir oherwydd o fewn tair blynedd iddo chware’i gem gynta i’r Scarlets roedd Wyn yn ennill ei gap cynta i Gymru.

”Pan aeth Cymru i Tonga a Samoa yn 2017 roedd taith y Llewod i Seland Newydd felly ro’n i’n gwybod bod ambell i chwaraewr ddim ar gael a roedd pawb y gwybod mai carfan ifanc byddai’n mynd ar y daith. Fi’n credu ‘mod i wedi chwarae bob gêm i’r Scarlets y flwyddyn honno ac o’n i’n gobeithio bod cyfle ‘da fi i fynd ond roedd cael yr alwad yn beth enfawr ac o’n i’n marw i gael y cap cynta. Fi’n credu mai ond rhyw funud chwaraes i’n erbyn Tonga ond o’n i’n ddigon hapus dim ond i fynd ar y cae! Roedd e’n neis i chwarae yn y ddwy gem a chael dwy fuddugoliaeth.

“Yr hydref wedyn ro’n i’n ddigon ffodus i chwarae’n erbyn Georgia, Seland Newydd a De Affrica a gyda’r teulu’n gallu dod i wylio roedd rheini’n gemau enfawr i fi. Ond roedd siom yn y chwe gwlad – ges i anaf yn erbyn Iwerddon pan roedd cyfle i ddechrau yn erbyn yr Eidal yr wythnos wedyn a roedd hynny’n amser rhwystredig iawn. Ac fe ddigwyddodd yr un peth yn yr haf – fe chwaraes i hanner yn erbyn De Affrica yn Washington a ges i fy newis i ddechrau yn erbyn Ariannin ond fe dynnes i gyhyr yn fy nghoes – ond felna mae’n mynd. Yn y pen draw ges i ddechrau yn erbyn Tonga yn hydref 2018 ac yn erbyn Iwerddon cyn Cwpan y Byd.

“Roedd ishe bach o amynedd ond ro’n i’n hapus yn y diwedd. Efallai mai’r peth mwyaf i fi yng Nghwpan y Byd oedd cael y crys rhif un gyda pawb yn ffit, nid bod fi wedi cael y crys achos bod tri neu bedwar wedi anafu a mai fi oedd yr unig un ar ôl! Roedd hwnnw’n rhoi bach o hyder bod y gwaith caled wedi talu ffordd. Fel prop mae e i gyd yn dechrau gyda’r safleoedd gosod, y peth cynta bydda i’n edrych arno yw’r sgrymio, y leiniau a’r sgarmesu; y gwaith dros y bel yw’r ail beth a wedyn gweddill y gem ond ar lefel rhyngwladol mae’n rhaid gwneud bach o bopeth – ‘sdim lle i guddio.”

Ac un peth arall does dim modd cuddio rhagddo yw’r llysenw annisgwyl gafodd Wyn chydig flynyddoedd nôl.

“’Dwi ddim yn ateb i Wyn bellach, ‘Sosej’ ydw i nawr – hyd yn oed i mam weithiau! Emyr Phillips ddechreuodd e. Roedd na grwtyn yn Llanymddyfri oedd yn cael ei alw’n Sosej a ro’n ni wedi bod yn siarad amdano fe ryw ddiwrnod gyda’r Scarlets pan ofynodd Stephen Jones beth oedd fy llysenw i. Atebodd Ems yn syth ‘Sosej’ ac yn y sesiwn ymarfer wedyn roedd Steve yn galw fi’n Sosej drwy’r amser a mae e wedi aros byth ers hynny!”

Nôl at yr anifeiliad bydd Sosej yn mynd yn y pen draw – ond nid yn y dyfodol agos gan ei fod e’n mwynhau’r rygbi a’i sialensau.

“Gyda Rob Evs, Rhys Carre, Nicky Smith i gyd yno mae na ddyfnder ar y pen rhydd yng Nghymru a mae’r pwysau arnai i berfformio i gadw’r crys. Ni wedi gosod targedau uchel i’n hunain a mae’n rhaid i ni weithio tuag atyn nhw. Dyna’r peth mawr i fi ynghyd a mwynhau bob eiliad.

“Fi’n lwcus iawn – mam a dad sy’n rhedeg y ffarm nol yng Nghil y Cwm. Fi’n trial helpu mas ar ddiwrnodau bant ond mae nhw ishe i fi gael y gorffwys ddylwn i. Mae nhw wedi bod yn dda iawn a dweud mai’r rygbi sydd i ddod gynta a mae hynny’n gwneud pethau’n rhwydd i fi. Rygbi sy’n dod gynta nawr ond mae’n yrfa fer iawn – bydd digon o amser i ffarmo ar ol hynny.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cil y Cwm i Kumamoto
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cil y Cwm i Kumamoto
Cil y Cwm i Kumamoto
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cil y Cwm i Kumamoto
Rhino Rugby
Sportseen
Cil y Cwm i Kumamoto
Cil y Cwm i Kumamoto
Cil y Cwm i Kumamoto
Cil y Cwm i Kumamoto
Cil y Cwm i Kumamoto
Cil y Cwm i Kumamoto
Amber Energy
Opro
Cil y Cwm i Kumamoto