Neidio i'r prif gynnwys
Bywyd yn y Lôn Gyflym

Rhys Carre ac Owen Lane.

Bywyd yn y Lôn Gyflym

Chwaraewyr cysylltiedig

Ar ôl dim ond dau dymor o rygbi proffesiynol mae asgellwr y Gleision, Owen Lane, yn gobeithio gwireddu dau freuddwyd – ennill ei gap cynta a chwarae yng Nghwpan y Byd

Rhannu:

Gyda charfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd i’w gyhoeddi fory mae’r tymheredd yn cynyddu. Ond bydd y chwaraewyr yn hen gyfarwydd a hynny ar ôl dwy gêm galed yn erbyn LLoegr a dau wersyll ymarfer – yn y Swisdir ddechrau’r hâf ac yng ngwres llethol Twrci wythnos dwetha. Ond er y gwres ym mhob ystyr un sydd wedi mwynhau’r profiad am ei fod yno am y tro cynta yw asgellwr un ar hugain oed y Gleision, Owen Lane.

“Roedd e’n ddwys iawn yn Nhwrci – ryw bedair sesiwn y dydd a roedd y gwres yn ffactor hefyd. Roedd e dros ddeugain gradd wrth ymarfer codi pwysau yn y bore ond doedd hi ddim cweit mor ddrwg erbyn y sesiynau tîm gyda mwy o ffocws ar rygbi yn hwyr yn y prynhawn. Rwy’n gwybod ‘mod i’n siarad dros nifer o’r chwaraewyr nid dim ond fi fy hun wrth ddweud ei fod e wedi bod yn eithriadol o galed ond nethon ni fwynhau hefyd a ni’n teimlo’n ffit ac yn edrych yn dda a gobeithio ein bod ni mewn lle da wrth fynd mewn i’r ddwy gêm ola ma.

DFP – Leaderboard

Roedd y Swisdir yn agoriad llygad anferth. Roedd y bechgyn oedd wedi bod yno o’r blaen wedi’n rhybuddio ni ond allai’ch sicrhau chi bod e llawn mor anodd ag oedden i’n disgwyl – a mwy! Ond chi’n medi’r canlyniadau a dwi’n teimlo’n ffitach nag erioed a’n ysu i geisio gweld y gwelliannau ar y cae rygbi. Yn y Swisdir roeddwn i’n rhannu gyda Hadleigh Parkes a Gareth Anscombe. Yn anffodus roedd yn rhaid i ni ffarwelio gydag Anscombe ond mae Parkesy wedi bod yn un da i rannu gydag e – mae’r hen ben wedi bod yn edrych ar fy ôl i. Fel mae’n digwydd, roeddwn i wedi cwrdd a fe ar benwythnos stag Gareth Anscombe felly fe geson ni gwpwl o ddyddiau i ddod i nabod ein gilydd ond ni’n nabod ein gilydd yn well nawr!”

Pan mae unrhyw garfan yn cael ei gyhoeddi mae pawb yn edrych yn syth i weld oes yna unrhyw enwau newydd neu annisgwyl. Roedd na ddau heb ennill cap yng ngharfan ymarfer Cymru – dau o’r Gleision ifenc, y prop Rhys Carre ac Owen Lane.

“Pan ddaeth y newyddion roeddwn i yn y car yn teithio i Ogledd Cymru gyda Rhys Carre a roedd e’n grêt i gael fy newis yn yr un carfan a Rhys. Ni’n ffrindiau da a mae e wedi bod yn byw ‘da fi yn ddiweddar. ‘R’on i’n meddwl byddwn i’n cael ei wared e gan ei fod e’n mynd i’r Saraceniaid ond nawr mae e yn yr un garfan a fi! Ni wedi bod yn chwarae yn yr un timau ers yn fechgyn ifenc iawn a phetae ni’n gallu chwarae i Gymru ‘run pryd byddai hwnna’n sbesial. Yn amlwg roeddwn i wrth fy modd pan ges i fy newis, roedd e’n eiliad wych ond yn fuan fe darodd e adre mai dyna pryd roedd y gwaith caled yn dechrau. Rwy’n hoffi meddwl ‘mod i wedi ymateb yn dda i’r gwaith ffitrwydd ac ymarfer a’n dod yn gyfarwydd a’r dwysder. Mae e wedi bod yn gam i fyny ond roeddwn i’n disgwyl hynny.”

Trydydd tro i Gymru oedd hi i Owen. Fe gollodd e mas ar daith hâf Cymru i Ariannin llynedd ar ôl torri’i arddwrn yn rownd derfynol Cwpan Her Ewrop yn erbyn Caerloyw yn Bilbao a fe gollodd e mas ar gyfres yr hydref ar ôl anafu llinyn y gar yn erbyn Lyon yng Nghwpan Ewrop.

“Fe fyddwn i’n dweud celwydd petawn i’n dweud nad oeddwn i’n siomedig iawn gydag amseru’r anafiadau. Dwi ddim yn dweud y byddwn i wedi cael fy newis ond roeddwn i wedi gwneud popeth i ddal llygad y dewiswyr. Roedd e’n amser arbennig o anodd i fi. Roeddwn i’n emosiynol iawn yn gadael y cae yn Bilbao a wedyn yn isel iawn fy ysbryd ar ôl anafu llinyn y gar yn erbyn Lyon. Ond rwy wedi dysgu llawer o’r profiadau. Mae anafiadau’n digwydd a dyna rhan anodda’r gêm, mae’n rhaid i chi aros yn gryf yn feddyliol ac ymddiried yn y prosesau a dod nôl yn gryfach a dyna wnes i.”

Dim ond dau dymor mae Owen wedi bod yn chwarae i’r Gleision ond mewn 35 gêm yn y Pro14 ac Ewrop mae e wedi sgori 17 cais.

“Rwy wedi bod yn reit ffodus fel mae pethau wedi mynd mor belled. Mae e wedi bod fel tipyn o gorwynt ers dechrau fy ngêm gynta i’r Gleision gyda chais yn erbyn Connacht. Rwy wedi bod yn ceisio mwynhau’r profiad a chymryd mewn gymaint byth a phosib. Mae’r chwaraewyr hyn yn dweud nad ydy chi’n gwerthfawrogi’r hyn i chi’n gwneud tan ei fod wedi mynd felly rwy’n ceisio mwynhau bob eiliad.”

A mae na ddau beth byddai Owen yn eu mwynhau’n arbennig – ennill ei gap cynta i Gymru a bod yn un o’r enwau pan mae 42 yn mynd lawr i 31 fory.

“I’r rhai ohonom ni sydd heb chwarae o gwbwl hyd yn hyn mae popeth wedi codi lefel. Rwy’n teimlo’n arbennig o dda ar ôl yr holl ymarfer ac yn edrych ymlaen i gael fy nghyfle i gynrhychioli fy ngwlad sy’n rhywbeth rwy wedi bod ishe gwneud ers yn fachgen saith oed yn chware’i gêm gynta i Rhiwbeina. Felly os ca i’r cyfle i chware’n erbyn Iwerddon dyna fydd eiliad mwya balch fy mywyd hyd yn hyn. Fe ddaw beth bynnag ddaw wedi hynny ond byddai’r garreg filltir gynta honno yn un go arbennig. Mae cystadleuaeth arbennig yn safle’r tri ôl a mae gan y lleill mwy o brofiad na fi ond o gael cyfle gobeithio alla i wneud digon i ennill fy lle yng ngharfan derfynol Cwpan y Byd – ond dyna uchelgais pawb! Cynrychioli’ch gwlad yng Nghwpan y Byd yw pinacl gyrfa unrhyw chwaraewr. Fe fyddai’n golygu popeth i fi a fe fyddai’n rhywbeth i’w drysori am weddill fy mywyd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Rhino Rugby
Sportseen
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Bywyd yn y Lôn Gyflym
Amber Energy
Opro