Neidio i'r prif gynnwys
Josh Navidi

Josh Navidi of Wales looks to break away

Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled

Chwaraewyr cysylltiedig

Pedwar cais mewn deg prawf, tri mewn pedair gêm ym mhencapwriaeth y chwe gwlad. Mae’r asgellwr Josh Adams wedi trosglwyddo’i lwyddiant gyda Chaerwrangon yn syth i’r maes rhyngwladol.

Rhannu:

“Fe allwn i fod yn gweithio naw tan bump a chwarae rygbi i’r Hendy ond wrth lwc fe ges i gynnig gan Gaerwrangon a wedi dal ati a rhoi’r gwaith caled mewn rwy wedi cael fy ngwobr.”

Wrth i Gymru anelu am Gamp Lawn i ddod a chyfnod Warren Gatland i ben, rhywun ar ddechrau ei yrfa sydd wedi dal y llygad fwya eleni – yr asgellwr Josh Adams. Mae e wedi sgori cais mewn tair o’r pedair gem ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gan ddod a’i gyfanswm i bedwar cais mewn deg gêm brawf, a bydd yr un i goroni’r fuddugoliaeth dros Loegr yn aros yn hir yn y cof.

DFP – Leaderboard

“Roedd e’n foment sbesial – fy nghais cynta yn Stadiwm y Principality ac yn erbyn Lloegr hefyd i wneud yn siwr ein bod ni’n ennill y gêm – roedd hwnna hyd yn oed yn fwy arbennig. Roedd y dathliad yn arbennig hefyd er ei fod e i gyd bach yn niwlog ar y pryd. Roedd Sanj yn syth mewn yno a Foxy a rwy’n credu bod pawb wedi rhoi tap bach ar fy mhen i erbyn y diwedd!

Fe ddaeth fy nghais rhyngwladol cynta yn yr ail brawf yn Ariannin a roeddwn i’n falch iawn oherwydd wythnos ynghynt yn y prawf cynta roedd Chicken (Gareth Asncombe) wedi rhoi fi mewn bwlch ond nes i ddim cweit gorffen y symudiad. Roeddwn i’n cicio fy hyn ond gobeithio alla i fynd mlaen nawr i sgori lot mwy. Llynedd yn Uwch Gynghrair Lloegr fe orffennodd asgellwr Newcastle, Goneva a finnau ar frig rhestr y sgorwyr ceisiau gyda tri ar ddeg yr un. Yn bendant fe helpodd hynny i fi gael fy newis ar gyfer Pencamwriaeth y Chwe Gwlad llynedd.”

Ond fe allai pethau fod wedi bod yn dra gwahanol oherwydd ychydig dros flwyddyn ynghynt roedd Josh, oedd yn aelod o Academi’r Scarlets wedi cael gwybod na fyddai’n cael cynnig cytundeb fel chwaraewr proffesiynol. Roedd ei ddyfodol yn gwbwl ansicr nes i glwb Caerwrangon ddod i’r adwy.

“Mae’n rhyfedd fel mae pethau’n digwydd. Fe allwn i fod yn gweithio naw tan bump a chware rygbi i’r Hendy ond wrth lwc fe ges i’r cyfle gan Gaerwrangon , a wedi dal ati a rhoi’r gwaith caled mewn rwy wedi cael fy ngwobr. Doedd gen i ddim syniad bod gan Gaerwrangon ddiddordeb ynof i ond ar ôl cael neges gan fy asiant fe es i lan i Sixways a gweld bod eu adnoddau o’r radd flaenaf. Ges i air gyda rheolwr yr Academi, Mark Hewitt, sy bellach yn rheolwr y tîm cynta a roedd e’n benderfyniad hawdd i barhau i fod yn chwaraewr proffesiynol llawn amser. Ond roedd e’n newid byd llwyr ar ôl bod yn byw adre gyda fy rhieni. Doeddwn i byth wedi coginio na glanhau, roedd yn rhaid rheoli arian a bod yn gyfrifol am bopeth mewn gwirionedd. Doeddwn i ddim yn gallu beio unrhywun arall am fod yn hwyr neu beidio gwisgo’r cit cywir ond roedd cymryd y cyfrifoldeb hwnnw’n help mawr i fi dyfu lan yn gyflym.

Chwaraes i i dîm dan ugain Cymru am ddau dymor. Roeddwn i yn y tîm gurodd Lloegr am y tro cynta erioed ym Mae Colwyn oedd yn brofiad grêt a fe es i’r ddau Gwpan Byd yn Seland Newydd a’r Eidal lle sgories i bum cais mewn pum gem. Ond o bosib roedd safon fy chwarae gyda chlwb Llanelli ddim wedi helpu a doeddwn i ddim yn gweithio’n ddigon caled ar y pethau bychain yn fy ngêm. Ond fe ges i agoriad llygad yn hynny o beth yng Nghaerwrangon a sylweddoli nad oedd pethau just yn mynd i ddigwydd roedd rhaid gweithio’n galed i gyflawni. Bod yn chwaraewr proffesiynol oedd fy mreuddwyd erioed. Mae chwarae i Gymru ar lefel dan-16 a dan-18 yn eich rhoi chi ar y llwybr ond y gwir plaen yw mai dim ond canran fechan sy’n cael y cyfle i gyrraedd y brig.”

Er mai dim ond 23 oed yw Josh a dyma’i ail dymor yn unig gyda’r tîm rhyngwladol mae’n ymddangos ei fod wedi gwneud y cam i fyny o’r lefel clwb yn gyffyrddus iawn.

“Yn amwlg wrth ennill eich cap cynta mae na lu o emosiynau, pwysau a nerfau ond roedd Leigh Halfpenny yn y tri ôl a mae ganddo fe wledd o brofiad a roedd e’n siarad fi drwy bopeth. Diolch i Leigh, Sanj, George a’r hyfforddwyr Gats a Howlers mae nhw wedi helpu fi i setlo mewn a rhoi’r hyder i fi fynd mas a chwarae fy ngêm. Rwy’n credu mai rhan gryfa fy ngêm yw gyda’r bel yn fy nwylo yn ceisio curo amddiffynwyr felly rwy’n dod oddiar yr asgell gymaint a phosib i geisio bylchu a chreu cyfleon i fi neu rhywun arall. Mae’r hyder yn y garfan yn uchel ar y funud yn enwedig ar ôl torri’r record gyda’r fuddugoliaeth dros Loegr. Mae pawb o fewn y garfan yn cyd-dynnu, ni’n dod mlaen yn dda oddiar y cae a mae hynny’n cael ei adlewyrchu ar y cae hefyd.”

Ond os yw pethau’n hwylus ar y cae mae’n fwy cymhleth oddiarno ar lefel personol. Er ei fod wrth ei fodd yng Nghaerwrangon, gyda’i gytundeb presennol yn dod i ben ddiwedd y tymor os yw Josh am barhau i chwarae i Gymru rhaid iddo ddod nol i chwarae yng Nghymru.

“Dyna’r penderfyniad mawr nesa i wneud. Mae pethau wedi cael eu rhoi o’r neilltu yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a gyda beth bynnag arall sy’n digwydd yn rygbi Cymru ar y funud. Ond rwy wedi cael ambell sgwrs fach dros yr wythnosau dwetha ac unwaith bydd y Bencampwriaeth drosodd gobeithio daw popeth i fwcwl a daw’r dyfodol yn amlwg. Fe allai fod y flwyddyn orau erioed. Mae’r canolbwyntio i gyd nawr ar orffen y Chwe Gwlad gobeithio gyda Champ Lawn yna chwarae’n dda i Gaerwrangon a cheisio cadw nhw yn yr Uwch Gynghrair a wedyn gobeithio gwersyll ymarfer Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Ond dyw e ddim yn dilyn y cewch chi’ch dewis ar gyfer Cwpan y Byd oherwydd eich bod chi yng ngarhfan y Chwe Gwlad – nid felna mae pethau’n gweithio. Mae na lot o rygbi i’w chwarae dros y deufis nesa. Rhaid i fi’n gynta aros yn ffit ac edrych ar ôl fy nghorff ac yn ail parhau i chwarae’n dda i ddangos fy mod i’n haeddu cyfle.”

Gan Gareth Charles, gohebydd rygbi BBC Cymru

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Rhino Rugby
Sportseen
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled
Amber Energy
Opro
Adams: Ges i fy ngwobr trwy waith caled