Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi bod David ‘Dai’ Rees wedi ei benodi i’r Cyngor Cenedlaethol.
Mae ganddo fwy na 25 mlynedd o brofiad o’r gêm gymunedol, llwybrau datblygu yn ogystal â rygbi proffesiynol a rhyngwladol.
Mae wedi ennill parch am ei waith wrth gynllunio ac arwain systemau rygbi effeithiol – yn enwedig felly’n ystod ei gyfnod yn Hong Kong. Bu’n Brif Swyddog Gweithredoed Rygbi yno rhwng 2016 a 2020 ac fe ddyfeisiodd a chyflwynodd system glir ac effeithiol i’w holl llwybrau ddatblygu yno.
Yn ystod ei gyfnod yn Hong Kong, enillwyd medal aur a dwy arian yng Ngemau Asia – ac fe lwyddodd tîm y Menywod i hawlio’u lle yng Nghwpan y Byd yn 2017. Yn ogystal, llwyddwyd i gyrraedd Tlws Dan 20 World Rugby chwe gwaith o’r bron.
Dros y blynyddoedd mae ei waith a’i weithredoedd wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy’n cymryd rhan yn y gamp ac mae hefyd wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar ddatblygiad a pherfformiad elît.
Mae’n bwysig cofio hefyd bod Dai Rees wedi bod yn hyfforddwr cenedlaethol gydag Undeb Rygbi Cymru ar sawl lefel wahanol.
Wrth siarad am y penodiad, dywedodd David Rees ei hun:
“Mae’n anrhydedd ymuno â Chyngor Undeb Rygbi Cymru ar adeg mor allweddol i’r gêm yn ein gwlad. Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweld sut mae gwir gynnydd yn digwydd, drwy wneud yn siwr bod pob lefel o’r gamp yn cydweithio gyda’i gilydd, ac rwy’n edrych ymlaen at wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu rygbi Cymru i ffynnu.
“Mae gennym rywbeth arbennig yma yng Nghymru. Camp genedlaethol sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn ein cymunedau lleol. Ein dyletswydd ni yw sicrhau bod clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi i dyfu’r gamp a’r niferoedd sy’n cymryd rhan ynddi ledled Cymru, fel y gallwn yn y pendraw greu system ddatblygu iach a chynaliadwy.”
Ar hyn o bryd mae Dai Rees yn Bennaeth Rygbi gyda Chlwb Trefynwy ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Rygbi ac yn Ymddiriedolwr ar Fwrdd Crawshays Cymru.
Gyda’i ddealltwriaeth angerddol o’r gêm gymunedol, mae Dai’n awyddus iawn i sicrhau bod y gêm yn agored i bawb:
“Mae gwneud y gêm yn gynhwysol i bawb wrth wraidd fy mhendefyniadau dyddiol. Mae’n bwysig bod rygbi ar gael i bawb a bod croeso cynnes yn cael ei estyn i bobl sy’n newydd i’r gamp. Wrth wneud hynny byddwn yn parhau i ddatblygu a chryfhau rygbi ar bob lefel o’r gêm.”
Croesawodd Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Terry Cobner, y penodiad, gan ychwanegu:
“Mae Dai yn dod â chyfoeth enfawr o wybodaeth am rygbi Cymru a dealltwriaeth o’r gamp ledled y byd gydag ef hefyd.
“Bydd yn ychwanegiad gwerthfawr at y Cyngor wrth i ni barhau i siapio dyfodol rygbi Cymru.”
Bydd David Rees yn cymryd lle Anthony Buchanan ar y Cyngor, wedi iddo ymddiswyddodd o’i rôl yn gynharach eleni. Bydd tymor tair blynedd Dai Rees yn dechrau ar unwaith ac yn para tan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn 2029.
