Mae Prif Hyfforddwr Tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin wedi cadarnhau’r bechgyn fydd yn wynebu Ffrainc ddydd Gwener yma – yn ail rownd y gemau ym Mhencampwriaeth y Byd – yn Stadio Mario Battaglini, Rovigo (2.30 amser Cymru).
Mae Whiffin wedi gwneud tri newid i’r pymtheg ddechreuodd yn y golled greulon yn erbyn Ariannin yn eu gêm agoriadol yng Ngrŵp B yn Verona ddydd Sul.
Yn y pac mae Dan Gemine o’r Gweilch yn dechrau yn yr ail reng yn lle Nick Thomas tra bo Tom Bowen o Gaerdydd yn hawlio’i le ar yr asgell yn lle Aidan Boshoff – wedi iddo greu argraff o’r fainc yn erbyn Los Pumitas.
Harri Wilde yn hytrach na Harri Ford fydd yn dechrau’n safle’r maswr y tro hwn – ac mae clo Rygbi Gogledd Cymru, Tom Cottle a chanolwr Caerdydd Osian Darwin-Lewis wedi eu dewis ar y fainc ar gyfer yr ornest hon.
Dechreuodd Ffrainc eu hymgyrch gyda buddugoliaeth gyfforddus o 49-11 yn erbyn Sbaen ac mae Whiffin yn disgwyl brwydr galed arall yng ngwres canol prynhawn Rovigo.
“Mae ganddyn nhw bac corfforol mawr gyda llawer o redwyr pwerus ac wrth gwrs mae gan y Ffrancod wastad dalent wrth drin y bêl.
“Mae eu haneri’n rheoli’r chwarae’n ddeallus hefyd a does dim gwendid amlwg yn eu chwarae fel tîm. Bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau i wrthsefyll a herio grym a dawn y Ffrancwyr.
“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd iawn i bawb mewn gwirionedd. Bydd hi tua 35 gradd erbyn i ni fynd allan ar y cae – felly mae’r amodau’n mynd i fod yn heriol i’r ddau dîm.
“Bydd ein lefelau ffitrwydd yn allweddol ddydd Gwener a bydd angen i ni addasu’n chwarae i gyd-fynd â’r gwres. O ganlyniad i hynny bydd y fainc yn chwarae rhan hollbwysig yn y gêm.”
Wedi bod ar y blaen o 17 pwynt yn erbyn Ariannin – colli yn y munudau olaf fu hanes Richard Whiffin a’i garfan yn y gêm gyntaf – ond er y siom aruthrol o ildio’r cais allweddol yn hwyr yn y gêm – mae Richard Whiffin yn credu bod nifer o agweddau cadarnhaol i’w cymryd o’r perfformiad hwnnw: “Fe wnaethon ni lawer o bethau da gyda’r bêl ac wrth amddiffyn hefyd.
“Rwy’n credu mai’r undod a’r brawdgarwch ddangosodd y bois roddodd y mwyaf o bleser i mi – yn enwedig pan oedd Ariannin yn ein mygu ni gyda meddiant eu pac.
“Rydyn ni wedi adolygu’r gêm yn drylwyr ac rydym yn deall bod angen i ni wella yn erbyn Ffrainc. Er eu bod nhw’n dîm arbennig o dda – ein bwriad ni yw ymosod yn eu herbyn a gwneud hynny’n hyderus.”
Cymru dan 20 v Ffrainc dan 20, Gwe 4ydd Gorffennaf, Stadio Mario Battaglini, Rovigo, 2.30pm
15 Jack Woods (Caerfaddon, 3 chap)
14 Elijah Evans (Caerdydd, 8 cap)
13 Osian Roberts (Sale, 4 cap)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd, 11 cap)
11 Tom Bowen (Caerdydd, 6 chap)
10 Harri Wilde (Caerdydd, 18 cap)
9 Sion Davies (Caerdydd, 5 cap);
1 Ioan Emanuel (Caerfaddon, 9 cap)
2 Harry Thomas (Scarlets, 16 chap)
3 Sam Scott (Bryste, 16 chap)
4 Kenzie Jenkins (Bryste, 6 chap)
5 Dan Gemine (Gweilch, 5 cap)
6 Deian Gwynne (Caerloyw, 5 cap)
7 Harry Beddall (c) (Dreigiau, 12 cap)
8 Evan Minto (Dreigiau, 6 chap)
Eilyddion
16 Saul Hurley (Aberafan, 3 chap)
17 Louie Trevett (Bryste, 6 chap)
18 Owain James (Dreigiau, 4 cap)
19 Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru, 4 cap)
20 Caio James (Caerloyw, 4 cap)
21 Ellis Lewis (Castell Nedd, 1 cap)
22 Harri Ford (Dreigiau, 15 cap)
23 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd, heb gap eto)