Yng ngwres tanbaid Kitakyushu, fe wywodd Cymru’n yr ail hanner wrth i Japan ennill o 24-19.
Hon oedd ail fuddugoliaeth Japan yn eu hanes yn erbyn y Crysau Cochion – er iddyn nhw fod ar ei hôl hi o 12 pwynt ar yr egwyl.
O ganlyniad i’r golled boenus hon, mae’r Cymry wedi llithro i’r pedwerydd safle ar ddeg ymhlith detholion y byd.
Cyn y gic gyntaf – canwyd ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ gydag angerdd gan garfan Cymru a nifer o’r dorf hefyd gan bo’r awdurdodau lleol wedi rhannu geiriau’r anthem gyda’r cefnogwyr.
Cafodd gobeithion y Prif Hyfforddwr dros dro, Matt Sherratt ergyd gynnar wrth i glo Cymru Ben Carter dderbyn ergyd sylweddol i’w ben wedi 27 eiliad yn unig o chwarae – ac felly galwyd am wasanaeth James Ratti yn llawer cynt na’r disgwyl i ennill ei ail gap.
Ond fe ddangosodd y Cymry ddycnwch cymeriad wrth ganolbwyntio ar y dasg o’u blaenau – ac wedi rhediad nerthol Taulupe Faletau o gefn y lein – fe fanteisiodd Ben Thomas ar fylchiad a phas hyfryd yr wythwr – i dirio’r cyntaf o dri cais hanner cyntaf yr ymwelwyr. Wedi trosiad Sam Costelow – ‘roedd Cymru ar y blaen o 7-0 wedi dim ond 4 munud.
Dim ond am rhyw 10 munud y parhaodd mantais Dewi Lake a’i dîm – gan i’r cefnwr Takuro Matsunaga sgorio’n hyderus ar ymweliad pwrpasol cyntaf Japan i ddwy ar hugain y Cymry a gan i Seungsin Lee lwyddo â’r trosiad.
Anafwyd Matsunaga yn y broses o sgorio ac fe gamodd Ichigo Nakakusu i’r maes yn ei le i ennill ei gap cyntaf.
Funud yn unig wedi iddo ddod i’r maes, dyfarnwyd bod Nakukusu wedi taro’r bêl yn fwriadol allan o ddwylo Josh Adams. Cais cosb i Gymru a cherdyn melyn cyflym iawn i’r eilydd. Nid y dechreuad delfrydol i’w yrfa dros ei wlad.
Fe gymrodd yr ymwelwyr fantais o’r dyn ychwanegol ar unwaith – wrth i basio syml yng nghanol y cae ryddhau’r asgellwr Tom Rogers – i garlamu’n glir am drydydd cais ei dîm. Taro’r postyn wnaeth ymdrech Costelow wrth iddo geisio ychwanegu’r trosiad.
Wrth i 10 munud Nakukusu ar yr ystlys ddirwyn i ben ‘roedd Amato Fakatava yn credu ei fod wedi tirio’r bêl am ail gais ei wlad o’r prynhawn – ond penderfynodd yn Dyfarnwr Teledu Ian Tempest, bod Ben Thomas wedi atal yr wythwr rhag tirio.
Rhyddhad i Gymru – a byddai’r crysau cochion wedi gwerthfawrogi bod 20 munud o egwyl wedi ei ganiatáu o ganlyniad i wres a lleithder y prynhawn yng ngorllewin Japan.

Wedi troi – fe lwyddodd Japan i reoli’r meddiant a’r chwarae – ac fe fethodd y Cymry gofnodi pwynt yn yr ail gyfnod.
‘Roedd y clo Uluiviti’n credu ei fod wedi rhoi gwynt yn hwyliau Japan wyth munud wedi troi wrth iddo dirio o dan y pyst. Wedi i’r Dyfarnwr Teledu sylw fod y mewnwr Fujiwara wedi taro’r bêl ymlaen cyn i Uluiviti gael ei ryddhau – ni chaniatawyd y cais.
Parhau wnaeth partrwm herciog yr ail hanner a pharhau wnaeth prynhawn cofiadwy Ichigo Nakakusu hefyd.
Wrth i drydydd chwarter yr ornest ddirwyn i ben – fe sgoriodd Nakakusu am ei gais cyntaf erioed dros ei wlad yn y gornel. Golygodd ail drosiad ardderchog Lee bod y bwlch rhwng y timau’n bum pwynt yn unig gydag 20 munud ar ôl.
3 munud wedi hynny fe holltodd Lee’r pyst am y trydydd tro gyda’i gic gosb – ac ‘roedd y Cymry’n chwysu go iawn ar fwy nac un lefel.
Gyda 12 munud o’r ornest yn weddill – daeth Liam Belcher i’r cae yn lle Dewi Lake i ennill ei gap cyntaf dros ei wlad – ond gwta funud wedi hynny ‘roedd Cymru ar ei hôl hi am y tro cyntaf – wrth i sgarmes symudol o lein gyflwyno’r cyfle i’r eilydd Vailea sgorio cais allweddol yr ornest. Parhau wnaeth cicio cywir Lee i roi 5 pwynt o fantais i’r tîm cartref.
Deunawfed colled Cymru o’r bron ar y llwyfan rhyngwladol felly ond bydd gan Matt Sherratt a’i garfan gyfle i dalu’r pwyth am ganlyniad siomedig heddiw ymhen wythnos.
Cynhelir yr Ail Brawf yn Stadiwm Noevir yn Kobe ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf (y gic gyntaf am 6:50am), a bydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o 6:30am ymlaen.
Wedi’r chwiban olaf dywedodd Capten Cymru, Dewi Lake; “Fe gostiodd ein diffyg disgyblaeth yn ddrud i ni heddiw. Fe fethon ni â chymryd mantais o’n cyfleoedd ni ac wrth fethu sgorio unrhyw bwyntiau yn yr ail hanner – ‘roedd hi’n anodd i ni ennill y gêm.
“Fe adawon ni iddyn nhw chwarae’r gêm gyflym ‘roedden nhw eisiau ei chwarae yn yr ail hanner – ac felly mae’n rhaid i ni edrych ar ein perfformiad ni a chymryd cyfrifoldeb am hynny.”