News

Perfformiad ail hanner Tîm D20 Ffrainc yn rhy gryf i Gymru

Tom Bowen yn sgorio'i gais yn Rovigo.

Colli o 35-21 yn erbyn Ffrainc fu hanes Tîm D20 Cymru yng ngwres canol prynhawn Rovigo ym Mhencampwriaeth y Byd heddiw a hynny wedi i’r Crysau Cochion fod ar y blaen wrth droi.

Hon oedd ail golled carfan Richard Whiffin o’r gystadleuaeth eleni – ac wedi iddyn nhw ildio mantais o 17 pwynt yn erbyn Los Pumitas yn eu gêm agoriadol – ildiwyd 28 o bwyntiau’n yr ail hanner yn y Stadio Mario Battaglini heddiw – a hynny heb ymateb.

Cyn gêm y prynhawn yma, ‘roedd y Ffrancod wedi ennill eu 7 gêm ddiwethaf yn erbyn y Cymry ifanc ar y lefel hon – gyda mantais o 31 o bwyntiau ar gyfartaledd ym mhob un o’r gornestau hynny.

‘Roedd talcen caled yn wynebu Harry Beddall a’r bechgyn felly ac fe ddechreuodd y Ffrancod ar garlam wrth i’r mewnwr Baptiste Tilloles groesi am gais cyntaf yr ornest wedi 3 munud yn unig. Trosodd Diego Juro’n rhwydd.

Serch hynny’r Cymry reolodd y chwarae am weddill y cyfnod cyntaf ac fe sgoriodd Sam Scott, Tom Bowen a Jack Woods geisiau cofiadwy. O ganlyniad i gicio cywir Harri Wilde – ‘roedd bechgyn Harry Beddall ar y blaen o 21-7 wrth droi.

Er i geisiau’r prop Edouard Njoche a’r canolwr Simeli Daunivucu lusgo Ffrainc yn ôl i mewn i’r gêm – ‘roedd hi’n gyfartal 21-21 pan ddigwyddodd eiliad allweddol yr ornest.

Dangoswyd cerdyn melyn i’r eilydd o brop Louie Trevett am dacl beryglus – ac uwchraddiwyd y cerdyn hwnnw’n goch wedi adolygiad. Yn anffodus dioddefodd y prop Noa Traversier anaf difrifol i’w benglin yn y digwyddiad.

Trödd y llanw’n bendant o blaid Ffrainc wedi hynny – ac fe groeson nhw am ddau gais pellach – gan sicrhau’r fuddugoliaeth a phwynt bonws hefyd am yr ail gêm o’r bron. Yr asgellwr Xan Mousques a’r eilydd o wythwr Bobby Bisu diriodd y ddau gais hynny.

Bydd gêm olaf carfan Richard Whiffin yng Ngrŵp B yn erbyn Sbaen yn Verona ddydd Mercher gyda’r gic gyntaf am 2.30pm amser Cymru. Os y gwnaiff Cymru ennill y gêm honno – mae’n debygol y byddant yn anelu at orffen y Bencampwriaeth yn y pumed safle.

Cymru D20: Jack Woods; Elijah Evans, Osian Roberts, Steff Emanuel, Tom Bowen; Harri Wilde, Sion Davies; Ioan Emanuel, Harry Thomas, Sam Scott, Kenzie Jenkins, Dan Gemine, Deian Gwynne, Harry Beddall (captain), Evan Minto
Eilyddion: Saul Hurley, Louie Trevett, Owain James, Tom Cottle, Caio James, Ellis Lewis, Harri Ford, Osian Darwin-Lewis

Ffrainc D20: Jon Echegaray; Xan Mousques, Robin Taccola, Simeli Daunivucu, Tom Leveque; Diego Jurd, Baptiste Tilloles; Samuel Jean-Christophe, Lyam Akrab, Mohamed Megherbi, Bartholome Sanson, Corentin Mezou, Antoine Deliance (capten), Noa Traversier, Elyjah Ibsaiene
Eilyddion: Gabin Garault, Edouard Jabea Njocke, Lenny Alifanety, Remy Lanen, Bobby Bissu, Simon Daroque, Luka Keletaona, Kalvin Gourgues

Related Topics