Yn eu gêm agoriadol yng Nghyfres Haf D20 y Chwe Gwlad colli o 29-10 oedd hanes tîm Menywod Cymru yn erbyn Iwerddon yn Ystrad Mynach y prynhawn yma.
Hon oedd gêm gyntaf Branwen Metcalfe fel capten ar y lefel yma – a hi’n unig o’r pymtheg cychwynnol sydd heb gynrychioli naill ai Gwalia Lightning neu Brython Thunder yn yr Her Geltaidd.
Y Cymry ifanc yn eu crysau amryliw reolodd y meddiant a’r tir am y chwarter awr agoriadol – ond y tro cyntaf i Iwerddon fentro i mewn i hanner y tîm cartref – dangoswyd cerdyn melyn i Freya Bell am dacl uchel ar Robyn O’Connor.
Tra bo’r canolwr yn y cell cosb – llwyddodd prop pen tynn y Gwyddelod, Sophie Barrett i agor y sgorio o sgarmes symudol ar ymweliad cyntaf ei thîm â dwy ar hugain y Cymry.
Erbyn i Bell ddychwelyd i faes y gad ‘roedd Iwerddon wedi dyblu eu mantais – gan i O’Connor gwblhau symudiad slic gan yr olwyr i groesi yn y gornel am ail gais ei gwlad.
Bu’n rhaid i wythwr rhyngwladol Cymru, Gwennan Hopkins adael y maes wedi bron i hanner awr o chwarae – a daeth Chiara Pearce i’r maes fel eilydd yn ei lle. Gyda’i chyffyrddiad cyntaf, fe lwyddodd Pearce i ryddhau Savannah Picton-Powell i garlamu’n glir at y llinell gais.
Wrth i’r cloc droi’n goch ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ‘roedd y Gwyddelod yn meddwl bod eu sgarmes symudol wedi creu cais i’r wythwr Jemima Adams Verling – ond penderfynodd y Dyfanwr Teledu bod y prop Ella Burns wedi troseddu yn y lein.
O ganlyniad dim ond mantais o bum pwynt oedd gan Iwerddon ar yr egwyl.
90 eiliad wedi troi – ‘roedd Adams Verling yn grediniol ei bod wedi hawlio’i chais o’r diwedd – ond am yr eildro – ni chaniatawyd y sgôr am drosedd yn y lein ynghynt yn y symudiad.
Wrth i’r glaw mân ddechrau disgyn yn Ystrad Mynach – parhau i bwyso wnaeth Iwerddon a sicrhawyd eu buddugoliaeth i bob pwrpas pan sgoriodd yr asgellwr Hannah Clarke drydydd cais ei thîm wedi cyfnod hir o bwyso gan y blaenwyr.
Fe roddodd cais cofiadwy Seren Singleton – wedi bron i awr o chwarae – rywfaint o obaith i garfan Liza Burgess -ond ‘roedd Jemima Adams Verling yn benderfynol o groesi’r gwyngalch heddiw.
Gyda chwarter awr yn weddill – fe gafodd yr wythwr ei haeddiant gan sicrhau pwynt bonws i’w thîm yn y broses ac fe lwyddodd y maswr Caitriona Finn gyda’r trosiad.
Gyda symudiad olaf y gêm, fe gasglodd yr eilydd Ellie O’Sullivan-Sexton, bêl rydd yn nwy ar hugain Cymru i gau pen y mwdwl ar yr ornest gystadleuol hon. Ychwanegwyd y trosiad gan Finn unwaith yn rhagor.
Fe arddangosodd y Cymry nifer o agweddau cryf i’w chwarae yn ystod y gêm hon – ond yn y pendraw, grym pac blaenwyr Iwerddon osododd y sylfaen i’w buddugoliaeth.
Canlyniad: Cymru 10 Iwerddon 29
Bydd ail gêm o dair y Cymry’n y Gyfres yn eu gweld yn wynebu’r Alban yn Ystrad Mynach ddydd Gwener yr 11eg am 6pm.
Wedi’r gêm ddod i ben, dywedodd Capten Cymru Branwen Metcalfe: “Mi rydan ni’n siomedig gyda’r canlyniad heddiw ond mae’n rhaid canmol Iwerddon ar eu buddugoliaeth. Mae ganddon ni dipyn o bethau bychain y gallwn ni wella arnyn nhw erbyn i ni herio’r Alban ddydd Gwener.”