Mae Prif Hyfforddwr dros dro Cymru, Matt Sherratt, wedi dewis ei dîm i wynebu Japan yn y Prawf Cyntaf yn Stadiwm Mikuni World, Kitakyushu ddydd Sadwrn y 5ed o Orffennaf.
Mae pob tocyn ar gyfer y gêm wedi ei werthu a bydd yr ornest yn cael ei dangos yn fyw ar BBC Cymru Wales ac iPlayer – gyda’r darllediad yn dechrau am 5.45 y bore amser Cymru. (Cic gyntaf am 6am).
Y bachwr Dewi Lake fydd yn arwain y tîm – a bydd y blaen-asgellwr ochr agored Josh Macleod yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad ers Cyfres yr Hydref yn 2022.
Alex Mann a’r wythwr Taulupe Faletau fydd yn cadw cwmni iddo’n y rheng ôl.
Nid oedd Sam Costelow a Ben Carter ar gael ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 o ganlyniad i anafiadau – ac mae’r maswr a’r ail reng yn ôl yn y pymtheg cychwynnol. Teddy Williams fydd cyd-glo Carter.
Am y tro cyntaf eleni – Kieran Hardy sydd wedi ei ddewis i ddechrau’n safle’r mewnwr.
Yn ystod Cwpan y Byd 2023 y gwisgodd Johnny Williams grys coch Cymru ddiwethaf – ac mae ef yn cael ei gyfle i bartneru Ben Williams yn y canol.
Yn ôl y disgwyl, y bachwr Dewi Lake fydd yn arwain y tîm – gyda Nicky Smith yn dechrau’n safle’r prop pen tynn a Keiron Assiratti’n brop pen rhydd.
Josh Adams a Tom Rogers fydd y ddau asgellwr gyda Blair Murray yn cwblhau’r tri ôl.
Mae Matt Sherratt wedi dewis chwech o flaenwyr a dau olwr ar y fainc.
Os y caiff bachwr Caerdydd, Liam Belcher ei alw oddi ar y fainc – bydd yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru. Wedi iddo fethu â chwarae unrhyw ran yn y Chwe Gwlad eleni o ganlyniad i anaf – mae’r prop Archie Griffin wedi ei ddewis ymhlith yr eilyddion. Gareth Thomas yw’r opsiwn i’w alw o’r fainc fel prop pen tynn.
James Ratti, Aaron Wainwright a Tommy Reffell yw’r tri blaenwr arall ymhlith y garfan ar gyfer y Prawf Cyntaf. Rhodri Williams a Joe Roberts yw’r ddau olwr sy’n dechrau ar y fainc.
Dywedodd Matt Sherratt:
“Ry’n ni wedi ymarfer yn dda ac wedi ceisio rhoi cyfle teg i bob un o’r chwaraewyr godi eu llaw i gael eu dewis.
“Bydd y 23 sydd wedi eu cynnwys yng ngharfan y Prawf Cyntaf yn chwarae rhan allweddol yn ein perfformiad. Dyna pam ‘ry’n ni wedi dewis nifer o eilyddion profiadol.
“Perfformiad cyflawn a chorfforol am yr 80 munud cyfan yw’r nod i ni – gan sicrhau bod yr awch sydd wedi bod yn amlwg wrth ymarfer i’w weld yn y gêm ei hun.
“Does dim amheuaeth y bydd hi’n llethol o boeth yn ystod y gêm a gan bod Japan yn draddodiadol yn hoffi chwarae gêm gyflym ac agored bydd yn rhaid i ni chwarae’n ddeallus gan ystyried yr amodau.
“Ry’n ni wedi mwynhau’r wythnos ddiwethaf yn Kitakyushu ac mae’n amlwg bod cysylltiad cryf rhwng trigolion y ddinas a’r tîm. Mae pob tocyn wedi ei werthu ac felly bydd yn dipyn o achlysur ddydd Sadwrn.”
Wrth gyfeirio at Josh Macleod a Liam Belcher, ychwanegodd Matt Sherratt: “Mae Josh wedi gweithio’n arbennig o galed i geisio ad-ennill ei le’n y garfan genedlaethol. Mae wedi dioddef nifer o anafiadau ers iddo wisgo’r crys coch y tro diwethaf – ac felly mae’r ffaith ei fod yn dechrau ddydd Sadwrn yn glod mawr iddo.
“Roedd ymateb yr holl garfan pan gyhoeddwyd bod Liam Belcher yn dechrau ar y fainc yn adrodd cyfrolau. Mae wedi chwarae rygbi rhanbarthol ers degawd bellach ac mae’n haeddu ei gyfle.”
Tîm Cymru v Japan
15. Blair Murray (Scarlets – 8 cap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 9 cap)
13. Johnny Williams (Scarlets – 7 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 12 cap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 61 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 18 cap)
9. Kieran Hardy (Gweilch – 23 chap)
1. Nicky Smith (Caerlŷr – 54 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 20 cap) – capten
3. Keiron Assiratti (Caerdydd – 14 cap)
4. Ben Carter (Dreigiau – 12 cap)
5. Teddy Williams (Caerdydd – 6 chap)
6. Alex Mann (Caerdydd – 5 cap)
7. Josh Macleod (Scarlets – 2 cap)
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 108 cap)
Eilyddion
16. Liam Belcher (Caerdydd – heb gap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 40 cap)
18. Archie Griffin (Caerfaddon – 6 chap)
19. James Ratti (Gweilch – 1 cap)
20. Aaron Wainwright (Dreigiau – 57 cap)
21. Tommy Reffell (Caerlŷr – 27 cap)
22. Rhodri Williams (Dreigiau – 9 cap)
23. Joe Roberts (Scarlets – 5 cap)