News

Branwen yn barod i arwain y garfan D20

Branwen Metcalfe

Er mai deunaw oed yw Branwen Metcalfe, mae Prif Hyfforddwr Tîm o Dan 20 Menywod Cymru, Liza Burgess wedi dewis yr wythwr o ardal Llanrwst i fod yn gapten ar gyfer Cyfres Haf y Chwe Gwlad, fydd yn cael ei chynnal yn Ystrad Mynach.

Mae Branwen Metcalfe newydd orffen ei arholiadau Lefel A yng Ngholeg Hartpury yng Nghaerloyw ac mae’r ferch fferm o bentref Llanrhychwyn yn gobeithio astudio Gwyddoniaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Hartpury ym mis Medi.

Mae Branwen yn chwaer iau i gefnwr prif dîm Cymru, Nel – ac mae’r ffaith bod ei chwaer fawr yn byw yng Nghaerloyw’n gymorth mawr i Branwen: “Dwi wedi bod yn byw ar gampws y coleg – tra bo Nel wedi bod yn byw yn y dref – ac felly mae hi wedi bod yn braf iawn gallu cyfarfod ein gilydd a siarad Cymraeg hefyd.

“Mae nifer o genod o Gymru yng Nghaerloyw – gan gynnwys Gwennan Hopkins, Hanna Marshall, Sian Jones ac Alaw Pyrs ac mae hynny wedi fy helpu i deimlo’n gartrefol yno hefyd.”

Bu Branwen Metcalfe yn gapten ar dîm o dan 18 Cymru’n erbyn Yr Eidal yn 2024 – ond o ganlyniad i anaf difrifol i’w phen-glin wrth gynrychioli Rygbi Gogledd Cymru – fe fethodd hi â chwarae am gyfnod o 10 mis y llynedd: “Mi rydw i’n berson penderfynol – ac ar ôl cael anaf gwael – mi rydw i am werthfawrogi pob cyfle dwi’n ei gael hyd yn oed y fwy.

“Dwi’n hynod o falch mod i wedi cael fy newis yn y garfan – ond pan ofynodd Liza i mi fod yn gapten wedi’n sesiwn ymarfer ni ddydd Sadwrn – ‘doedd dim yn rhaid iddi aros yn hir am fy ateb! Dwi wrth fy modd – ac yn teimlo braint a chyfrifoldeb mawr o fod yn gapten.”

Branwen Metcalfe

Dechrau yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy wnaeth gwir ddiddordeb Branwen Metcalfe mewn rygbi gan bod ei dau frawd mawr, Penri a Siencyn yn chwarae dros y clwb. Wedi i Nel gymryd at y gamp hefyd, ‘roedd yn gam cwbl naturiol i Branwen ymuno â’r clwb hefyd: “Fe chwaraeodd Nel a fi gyda’n gilydd ambell dro dros ‘Nant’ ond tydan ni heb chwarae efo’n gilydd ers hynny. Gobeithio wir y bydd hynny’n newid yn y dyfodol. Mae Leusa fy chwaer fach eisoes yn chwarae i Hwb Ceirw Nant ac mae Morus yr ieuengaf yn cynrychioli’r clwb hefyd. Mae’r clwb yn hynod o bwysig i ni fel teulu.

“Mae ‘chydig bach yn anodd cyfaddef hyn – ond mae Nel wedi bod yn wir ysbrydoliaeth i mi – yn enwedig y ffaith ei bod wedi gallu cynrychioli’r prif dîm mor ifanc. Mae’r llwybr datblygu chwaraewyr yn gwneud hyn yn bosib ac yn dangos i’r merched ifanc bod modd gwireddu breuddwydion.

“Mae’r Canolfannau Datblygu Chwaraewyr wedi bod yn allweddol i fy natblygiad personol i – ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair. Er bod prif dîm Lloegr yn arbennig o gryf ar hyn o bryd – fe gafodd ein merched o dan 18 gêm gyfartal efo nhw’n y Chwe Gwlad eleni – ac felly mae’r bwlch yn cau – ac mae’r dyfodol yn edrych yn addawol i ni.”

Ddydd Sadwrn, bydd Tîm Menywod o Dan 20 Cymru’n herio Iwerddon yn Ystrad Mynach yn y gyntaf o’u tair gêm yng Nghyfres Haf y Chwe Gwlad. Yr Alban a’r Eidal fydd y gwrthwynebwyr eraill ar yr 11eg a’r 17eg o’r mis.

Yn naturiol, mae capten newydd y garfan yn edrych ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth: “Mae Iwerddon yn dîm cryf iawn ac felly bydd y gêm gyntaf honno’n rhoi syniad da i ni o ble ‘rydan ni arni. Mae’r garfan i gyd yn gyffrous am y ffaith ein bod yn chwarae ‘adra’ – a gan bod mynediad i’r gemau am ddim – mi rydan ni’n gobeithio’n fawr y bydd ‘na lawer o bobl yn dod i’n cefnogi ni.”

Related Topics