Mae Prif Hyfforddwr Tîm o Dan 20 Cymru, Liza Burgess wedi enwi ei thîm ar gyfer eu gêm agoriadol yng Nghyfres Haf y Chwe Gwlad yn Ystrad Mynach ddydd Sadwrn y 5ed o Orffennaf am 3.30pm.
Bydd y capten, Branwen Metcalfe, sydd fel arfer yn chwarae yn safle’r wythwr yn dechrau fel blaen-asgellwr – gan bod Gwennan Hopkins, sydd eisoes wedi sgorio cais dros brif dîm Cymru, yn dechrau’n y crys rhif wyth. Lottie Buffery-Latham sy’n cwblhau’r rheng ôl yn safle’r blaen-asgellwr ochr agored.
Mae’r mewnwr Sian Jones wedi chwarae ar y llwyfan rhyngwladol llawn hefyd a’r îs-gapten Carys Hughes fydd yn bartner iddi fel maswr.
Mae pob un o’r pymtheg cychwynnol – oni bai am y capten Metcalfe – wedi cynrychioli naill ai Brython Thunder neu Gwalia Lightning – sy’n arwydd clir o bwysigrwydd Yr Her Geltaidd yn natblygiad doniau ifanc Menywod Cymru.
Bydd Cymru’n chwarae tair gêm ar eu tomen eu hunain yn Ystrad Mynach yn ystod Cyfres yr Haf. Yn dilyn eu gornest agoriadol yn erbyn y Gwyddelod – Yr Alban a’r Eidal fydd gwrthwynebwyr y Cymry wedi hynny.
Dywedodd Liza Burgess: “ Mae pob un o’r chwaraewyr yn ysu i ddechrau’n hymgyrch yn erbyn Iwerddon. Mae gennym garfan sy’n cynnwys cymysgedd dda o brofiad a ieuenctid.
“Mae ein paratoadau ar gyfer y Gyfres wedi mynd yn dda iawn – ac mae pob un o’r merched sydd wedi cael eu dewis – yn wirioneddol edrych ymlaen at gael y cyfle i ddangos eu doniau yn ein gornest gyntaf.”
Tîm Menywod D20 Cymru i wynebu Iwerddon yng Nghyfres Haf y Chwe Gwlad 7/7/25. 3.30pm
15.Hannah Lane (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Gogledd)
14.Seren Singleton (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Gorllewin)
13.Savannah Picton-Powell (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Dwyrain)
12.Freya Bell (Gwalia Lightning / Met Caerdydd / CDP y Dwyrain)
11.Nia Fajeyisan (Gwalia Lightning / Prifysgol Caerlŷr / CDP y Dwyrain)
10.Carys Hughes (Gwalia Lightning / Prifysgol Hartpury / CDP y Dwyrain) – Îs-gapten
9. Sian Jones (Gwalia Lightning / Hartpury Caerloyw)
Eilyddion.
- Rosie Carr (Brython Thunder / Bryste)
- Dali Hopkins (Gwalia Lightning / Cheltenham)
- Evie Hill (Coleg Gwent / CDP y Dwyrain)
- Chiara Pearce (Coleg Gwent / CDP y Dwyrain)
- Jorja Aiono (Coleg Hartpury / CDP y Gorllewin)
- Ffion Williams (Coleg Hartpury / CDP y Gogledd)
- Hanna Tudor (Ysgol Brynhyfryd / CDP y Gogledd)
- Mollie Wilkinson (Brython Thunder / Bryste)
Cyfres Haf y Chwe Gwlad – Ystrad Mynach
5/7/25 – Cymru v Iwerddon – 3.30pm
11/7/2025 – Cymru v Yr Alban – 6.00pm
17/7/25 – Cymru v Yr Eidal – 3.30pm
Bydd holl gemau’r gystadleuaeth yn cael eu ffrydio ar sianel You Tube Undeb Rygbi Cymru
https://www.youtube.com/@WRUOfficial/streams
Bydd mynediad i bob un o gemau Cyfres y Chwe Gwlad yn Ystrad Mynach am ddim.