News

Ymweliad ysbrydoledig Frankie Shaw â Charfan Menywod Cymru

Under 9’s rugby player Frankie visited the Wales Women’s team during a training session
Frankie gyda charfan Cymru

Yr wythnos ddiwethaf, fe ymwelodd Frankie Shaw – o dîm o Dan 9 Dinas Powys – â Charfan Menywod Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y daith i Awstralia.

Fe dreuliodd Frankie a’i thad Gareth, fore cyfan gyda’r garfan ar Barc yr Arfau’n y Brifddinas – yn dilyn marwolaeth hynod drist ei mam, Myfanwy.

Wedi i Myfanwy (neu Miffy fel yr oedd ei theulu a’i ffrindiau’n ei hadnabod) gwympo yn y tŷ – fe ffoniodd Frankie ei thad – ddychwelodd adref ar unwaith. Er iddo geisio ei chynorthwyo gyda’i hanadlu – erbyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd – ‘roedd hi mewn cyflwr difrifol. Yn anffodus, bu hi farw’n yr ysbyty’n ddiweddarach.

Wedi’r digwyddiad hynod drist hwn, fe gysylltodd Clwb Rygbi Dinas Powys ag Undeb Rygbi Cymru – a gwahoddwyd Frankie – sydd yn 9 oed – i ymuno gyda’i harwresau ar gyfer y sesiwn ymarfer ar Barc yr Arfau.

Treuliodd hi fore cyfan gyda’r garfan – ac wedi’r sesiwn, cyflwynwyd crys iddi oedd wedi ei arwyddo gan y garfan gyfan.

 

Related Topics