Wedi i dîm o Dan 20 Cymru fod ar y blaen o 17 pwynt ar un cyfnod – colli’n hwyr o 27-34 yn erbyn Ariannin fu hanes tîm Richard Whiffin yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Byd yn Verona heddiw.
Cyn y gêm heno dim ond un o’u chwe chyfarfyddiad diwethaf yn y Bencampwriaeth hon yr oedd Los Pumitas wedi curo’r Cymry ifanc. ‘Roedd hynny ar fin newid yng ngwres Yr Eidal – ond Harry Beddall a’i dîm gafodd y dechreuad perffaith i’r ornest yn erbyn yr Archentwyr heddiw.
Wedi dim ond 2 funud o chwarae – dangoswyd cerdyn melyn i’r cefnwr Pascal Senillosa am atal cais i’r Cymry’n anghyfreithlon – ac fe benderfynodd Griffin Colby o Dde Affrica ddyfarnu cais cosb o’r herwydd hefyd.
O fewn munud i Senillosa ddychwelyd i faes y gad – ‘roedd ei dîm yn gyfartal wrth i Tadeo Ledesma Arocena – hyrddio ei hun yn gorfforol at y llinell gais. ‘Roedd ei dad Mario – gynrychiolodd y Pumas 84 o weithiau – wrth ei fodd yn gwylio’n yr eisteddle – ac wedi trosiad syml Rafael Benedit – ‘roedd hi’n gwbl gyfartal.
Wrth i’r chwarter agoriadol ddirwyn i ben – ‘roedd y Cymry’n ôl ar y blaen wedi i Agustín Garcia Campos Fiszman – wythwr Ariannin – orfod treulio 10 munud yn y cell cosb am dacl sinicaidd. Derbyn y cynnig syml am driphwynt wnaeth Harri Ford – ac fe lwyddodd bechgyn Richard Whiffin i sgorio cyfanswm o 17 o bwyntiau tra bo Campos yn dal i eistedd ar yr ystlys.
Wedi 23 o funudau fe sgoriodd Steffan Emanuel gais hyfryd i Gymru. Manteisiodd yr ieuengaf o’r ddau frawd ddechreuodd y gêm yn Verona – ar weledigaeth Harri Ford a rhediad cryf Osian Roberts – i hawlio ail gais y Crysau Cochion. Yn dilyn trosiad campus Ford ‘roedd y Cymry ar y blaen o 10 pwynt.
Ac ‘roedd hyd yn oed gwell i ddilyn bedwar munud wedi hynny pan garlamodd yr wythwr Evan Minto fel canolwr cyflym, cydnerth o dan y pyst o 40 metr. Wedi trosiad Ford ‘roedd 17 o bwyntiau’n gwahanu’r timau.
Ond Los Pumitas reolodd weddill yr hanner cyntaf gan iddyn nhw sgorio dau gais mewn 2 funud.
Wedi i’r prop Tomas Rapetti fanteisio ar sgarmes symudol effeithiol ei dîm i dirio ail gais yr Archentwyr – o fewn munud ‘roedd yr asgellwr Timoteo Silva wedi sgorio’n syth o ail-ddechrau Harri Ford.
Fe sylweddolodd Silva bod cic Ford wedi croesi’r ystlys ar ei phen ac fe basiodd yn gyflym i’w flaen-asgellwr Santiago Neyra – cyn debyn y bêl yn ôl ganddo – a charlamu’n chwim a chryf at y llinell gais yn orfoleddus.Wedi i Benedit drosi am yr eildro – dim ond 5 pwynt oedd yn gwahanu’r timau wrth droi.
Parhau wnaeth momentwn Ariannin ar ddechrau’r ail gyfnod – a dim ond 2 funud wedi troi fe roedden nhw’n gyfartal wrth i brop Toulouse, Tomas Rapetti, gofnodi ei ail gais corfforol o’r noson. Dylai Benedit fod wedi rhoi ei dîm ar y blaen am y tro cyntaf ar y noson – ond fe darodd ei ymdrech y postyn.
Wedi i Ford a Benedit gyfnewid ciciau cosb – fe gafodd Ariannin ail gyfle i achub y blaen ar Gymru – ond yn hytrach na chymryd triphwynt hawdd o flaen y pyst – fe gafodd eu sgrym, oedd yn llwyr reoli’r chwarae ar y pryd, eu cosbi am drosodd dechnegol – dihangfa arall i Harry Beddall a’i fechgyn.
Ar ymweliad prin iawn i diriogaeth Ariannin yn ystod yr ail hanner – fe gafodd yr eilydd o faswr Harri Wilde y cyfle i roi ei dîm ar y blaen gyda 10 munud ar ôl – ond doedd ei anel ddim yn gywir wrth gymryd ei gic gosb.
Gydag 8 munud yn weddill ‘roedd yr eilydd o brop Louie Trevett yn meddwl ei fod wedi ennill y gêm i Gymru – ond wedi i’r dyfarnwr teledu ddwyn sylw at dacl anghyfreithlon Deian Gwynne yn y sgarmes – parhau’n gyfartal wnaeth y sgorfwrdd.
Bum munud yn ddiweddarach – fe brofodd y Cymry dorcalon pellach wrth i rym pac Ariannin amlygu ei hun unwaith yn rhagor. Yn y pendraw y capten Garcia Campos groesodd i hawlio’r cais, y pwynt bonws a’r fuddugoliaeth i Los Pumitas. Halen ar friwiau’r Cymry oedd trosiad Benedit.
Canlyniad Cymru 27 Ariannin 34
Bydd bechgyn Richard Whiffin yn wynebu Ffrainc yn Rovigo ddydd Gwener a bydd tipyn o dasg yn wynebu’r Cymry. Fe enillodd Ffrainc o 63-19 yn erbyn y Crysau Cochion ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ac fe drechon nhw Sbaen o 49-11 yn yn eu gêm gyntaf nhw ym Mhencampwriaeth y Byd yn Verona ynghynt yn y dydd.
Wedi’r chwiban olaf dywedodd capten Cymru Harry Beddall: “Fe newidiodd eu dau gais hwyr nhw ar ddiwedd yr hanner cyntaf holl fomentwn y gêm – ac ‘ry’n ni’n siomedig iawn gyda’r canlyniad. Bydd Ffrainc yn cynnig sialens hynod gorfforol ac anodd i ni – ac wedi i ni golli heno, ‘ry’n ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ennill ddydd Gwener.”