Mae Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr Tîm o Dan 20 Cymru wedi enwi ei dîm i wynebu Ariannin yng ngêm agoriadol Grŵp B o Bencampwriaeth y Byd – fydd yn cael ei chynnal yn Verona ddydd Sul. (7.30pm amser Cymru).
Mae Whiffin wedi gwneud pedwar newid i’r tîm lwyddodd i atal gobeithion Lloegr o ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae Jack Woods wedi ei ddewis yn gefnwr sy’n golygu y bydd Tom Bowen yn dechrau ar y fainc. Gan bod anaf i’r asgellwr Harry Rees-Weldon wedi ei atal rhag teithio gyda’r garfan – bydd y canolwr arferol, Elijah Evans yn symud i’r asgell.
Harri Ford yn hytrach na Harri Wilde fydd yn dechrau’n safle’r maswr ac wedi iddo fethu mwyafrif y Chwe Gwlad gydag anaf – bydd clo’r Dreigiau Nick Thomas yn dychwelyd i’r tîm gyda Dan Gemine yn symud i’r fainc o’r herwydd.
Dywedodd Richard Whiffin: “Mae Nick wedi gweithio’n arbennig o galed i wella’n llwyr o’i anaf. ‘Rwy’n falch iawn i’w gael e’n nôl gyda ni, gan y bydd ei brofiad yn bwysig iawn yn erbyn pac hynod rymus yr Archentwyr.
“Elijah yw un o’n chwaraewyr cyflymaf ni’n y garfan ac mae’n dda o dan y bêl uchel hefyd. ‘Rwy’n credu y bydd chwarae ar yr asgell yn gweddu i’w gêm.”
Mae Richard Whiffin wedi cyfaddef bod dewis y garfan o 23 ar gyfer y gêm gyntaf yn eu hymgyrch wedi bod yn galed – ond mae pob un o’r chwaraewyr yn gwybod y byddant yn cael eu cyfle yn ystod y gemau grŵp.
“Roedd hi’n ddigon anodd torri’r garfan i lawr i 30 yr wythnos ddiwethaf – ac yn anoddach fyth dewis y 23 ar gyfer wynebu’r Ariannin.
“Rwyf wedi dweud wrth y bois y bydd pob un ohonynt yn cael eu cyfle i chwarae yn ystod cyfnod y gemau grŵp – ac fy mod yn disgwyl iddynt fod yn barod i greu argraff.
“Bydd gan y saith fydd ddim yn chwarae ddydd Sul, ran allweddol i’w chwarae yn ein hymgyrch. Y penwythnos yma – eu rôl fydd dangos eu bod yn gefnogol i’r bechgyn sydd wedi cael eu dewis y tro yma. Mae’n rhaid i mi eu canmol am eu hymateb pan dderbynion nhw’r newyddion – ond fe ddaw eu cyfle nhw’n fuan iawn – a’u cyfrifoldeb nhw fydd cymryd y cyfle hwnnw wrth gwrs.”
Mae Richard Whiffin yn gwybod y bydd Ariannin yn cynnig her gwirioneddol i Gymru a bydd yn cadw llygad barcud ar y cefnwr Pascal Senillosa – sef yr unig chwaraewr i redeg dros 200 metr gyda’r bêl yn ei feddiant yn y Bencampwriaeth o Dan 20 ddiweddar yn erbyn Seland Newydd, Awstralia a De Affrica.
Ychwanegodd Richard Whiffin: “Fe wnaeth Ariannin yn dda yn eu Pencampwriaeth gan i’w pac cryf nhw lwyddo i osod sylfaen gadarn i ryddhau nifer o’u holwyr dawnus a chyflym. Mae eu maswr a’u cefnwr yn gallu rheoli’r chwarae’n dda – ac felly bydd angen i ni roi tipyn o bwysau arnyn nhw er mwyn gweld sut y maen nhw’n ymdopi gyda hynny.
“Bydd yn rhaid i ni fod yn synhwyrol wrth reoli’n hegni yng ngwres Yr Eidal hefyd – ac er y bydd hynny’n dipyn o her – mae gennyf ffydd mawr yn undod a gallu’r garfan yma.”
Cymru D20 v Ariannin D20, SuL 29 Mehefin, Canolfan Payanini, Verona, 7.30pm
15 Jack Woods (Caerfaddon, 2 gap)
14 Elijah Evans (Caerdydd, 7 cap)
13 Osian Roberts (Sale, 3 chap)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd, 10 cap)
11 Aidan Boshoff (Bryste, 11 cap)
10 Harri Ford (Dreigiau, 14 cap)
9 Sion Davies (Caerdydd, 4 caps)
1 Ioan Emanuel (Caerfaddon, 8 cap)
2 Harry Thomas (Scarlets, 15 cap)
3 Sam Scott (Bryste, 15 cap)
4 Kenzie Jenkins (Bryste, 5 cap)
5 Nick Thomas (Dreigiau, 11 cap)
6 Deian Gwynne (Caerloyw, 4 cap)
7 Harry Beddall (c) (Dreigiau, 11 cap)
8 Evan Minto (Dreigiau, 5 cap)
Eilyddion:
16 Saul Hurley (Aberafan, 2 gap)
17 Louie Trevett (Bryste, 5 cap)
18 Owain James (Dreigiau, 3 chap)
19 Dan Gemine (Gweilch, 4 cap)
20 Caio James (Caerloyw, 3 chap)
21. Ellis Lewis (Castell Nedd, heb gap eto)
22 Harri Wilde (Caerdydd, 17 cap)
23 Tom Bowen (Caerdydd, 5 cap)