Mae’r Prif Hyfforddwr Richard Whiffin wedi cadarnhau ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi o Dan 20 y Byd fydd yn cael ei chynnal yn Yr Eidal rhwng Mehefin 29 a Gorffennaf 19.
Gyda gemau yn cael eu cynnal mewn pedair dinas ar draws rhanbarthau Lombardia a Veneto, mae Whiffin wedi enwi carfan brofiadol o 30 o chwaraewyr. Mewnwr Castell Nedd, Ellis Lewis yw’r unig chwaraewr sydd eto i ennill cap sydd wedi ei enwi’n y garfan.
Doedd mewnwr y Dreigiau, Logan Franklin, ddim ar gael i’w ddewis ar ôl anafu ei fraich yn y gêm baratoadol yn erbyn Yr Eidal ddydd Gwener diwethaf.
Dywedodd Richard Whiffin: “Rwy’n credu ei bod hi’n garfan gytbwys iawn gyda phrofiad a dawn yn dychwelyd o’r llynedd a nifer o fechgyn sydd wedi perfformio’n dda yn ystod y Chwe Gwlad yn cael eu cyfle hefyd.
“Mae gennym garfan ry’n ni’n teimlo y gall gystadlu’n wirioneddol yng Nghwpan y Byd. Ein gobaith yw cael goruchafiaeth yn y chwarae gosod ac fel tîm ry’n ni’n hyderus iawn yn ein patrwm chwarae. Mae gennym ddawn a chryfder hefyd ymhlith ein holwyr fydd yn gallu sicrhau meddiant i ni a hefyd greu cur pen i amddiffyn ein gwrthwynebwyr pan fydd gennym ni’r bêl.
“Mae digon o dystiolaeth o’n gemau yn y Chwe Gwlad a’n dwy gornest baratoadol – bod ein holwyr yn gallu ein gosod yn y mannau cywir o’r maes. Mae’n holwyr hefyd wedi dangos eu doniau a’u greddf ymosodol yn y gemau hynny – sy’n gyfuniad cyffrous.”
Defnyddiodd Whiffin fwy na 40 o chwaraewyr yn y ddwy gêm baratoadol yn erbyn Pencampwyr y Byd, Lloegr a’r Eidal – cyn dewis ei garfan derfynol ar gyfer Pencampwriaeth y Byd. Yn cadw cwmni i’r Cymry yng Nghrŵp B fydd Ariannin, Ffrainc a Sbaen.
Ychwanegodd Richard Whiffin: Roedd y ddwy gêm ddiweddaraf wedi ein caniatáu i ni herio ein hunain mewn gwahanol agweddau o’n chwarae. ‘Roedd gêm Lloegr ym Mhont-y-pŵl wastad am fod yn anodd – yn enwedig wedi i ni brofi wythnos heriol iawn o ran ein hymarfer. Wedi dweud hynny, ‘roedd rhoi o’n gorau yn erbyn Pencampwyr y Byd yn brofiad gwych.
“Roedd hi’n gyfartal wedi awr o chwarae cyn i Loegr fynd â hi’n y pendraw. Fe osododd hynny seiliau cadarn i’n perfformiad arbennig yn erbyn Yr Eidal ac ‘roedd y ffaith ein bod wedi gweld dros 40 o chwaraewyr ar y cae yn ystod y ddwy gêm wedi gwneud hi’n haws i ni ddewis y garfan derfynol ar gyfer y Bencampwriaeth.
“Hoffwn ddiolch o galon i’r bechgyn sydd heb lwyddo i hawlio’u lle y tro hwn. Fe weithiodd pob un ohonyn nhw’n ddi-flino. Maen nhw wedi sicrhau bod gwir ddyfnder o dalent yn datblygu ar y lefel yma – ac ‘roedd pob aelod o’r tîm hyfforddi yn gwerthfawrogi eu hymdrechion.
“Mae’n bwisg cofio efallai byddwn yn galw ar ambell un os oes aelod o’r garfan yn dioddef anaf wrth ymarfer neu chwarae.
“Rydyn ni’n gyffrous am y gystadleuaeth – ond mae gennym wythnos galed o ymarfer o’n blaenau cyn i ni fynd ar yr awyren i’r Eidal.”
Mae Lloegr ac Iwerddon wedi eu dethol ar gyfer y Bencampwriaeth ond mae’r ffaith i Gymru guro’r ddau ohonyn nhw yn ystod y Chwe Gwlad yn rhoi hyder gwirioneddol i Richard Whiffin: “Mae’n braf bod y bois yn hyderus – gan eu bod nhw’n gwybod eu bod yn gallu cystadlu gyda’r timau gorau yn y gystadleuaeth. Does dim ofn o gwbl arnyn nhw.
“Ein bwriad yw cyrraedd y brif rownd gynderfynol – a gweld beth ddaw wedi hynny. Fe allai unrhywbeth ddigwydd!
“Er mwyn gwneud hynny bydd angen i ni berfformio’n dda a gwneud hynny’n gyson. Fe aethon ni’n agos at wneud hynny y llynedd – ond eleni y gobaith yw ennill y gemau agos hynny a gweld beth ddaw.”
Carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth o Dan 20 y Byd.
Blaenwyr (17)
Ioan Emanuel (Caerfaddon)
Louie Trevett (Bryste)
Harry Thomas (Scarlets)
Saul Hurley (Aberafan)
Evan Wood (Pont-y-pŵl)
Sam Scott (Bryste)
Owain James (Dreigiau)
Jac Pritchard (Scarlets)
Luke Evans (Caerwysg)
Kenzie Jenkins (Bryste)
Nick Thomas (Dreigiau)
Tom Cottle (Caerdydd)
Dan Gemine (RGC)
Deian Gwynne (Caerloyw)
Harry Beddall (Dreigiau – Capt)
Caio James (Caerloyw)
Evan Minto (Dreigiau)
Olwyr (13)
Sion Davies (Caerdydd)
Ellis Lewis (Castell Nedd)
Harri Wilde (Caerdydd)
Harri Ford (Dreigiau)
Steffan Emanuel (Caerdydd)
Elis Price (Scarlets)
Elijah Evans (Caerdydd)
Osian Roberts (Sale)
Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
Aidan Boshoff (Bryste)
Lewis Edwards (Gweilch)
Jack Woods (Caerfaddon)
Tom Bowen (Caerdydd)
