News

Undeb Rygbi Cymru yn lansio model ariannu arloesol newydd ar gyfer Clybiau Cymunedol

Bydd y dull ariannu newydd ar waith ar gyfer tymor 2026/27

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn lansio model ariannu trawsnewidiol newydd ar gyfer rygbi ar lawr gwlad. Nod y dull cyllido newydd yw:

· Helpu clybiau cymunedol i fod yn barod ac yn drefnus o safbwynt delio gyda chyllid – trwy osod meini prawf achredu URC fydd yn datgloi £2.84 miliwn o gyllid blynyddol

· Creu clybiau mwy cadarn, gwydn, cynaliadwy a ffyniannus sydd wrth galon ein gêm, trwy gydnabod llwyddiant ar y cae ac oddi ar y cae

· Ymgysylltu a chynorthwyo’r clybiau gyda thempledi digidol ac adnoddau ar-lein hawdd eu cael – a’u defnyddio i sicrhau bod pob clwb yn cyrraedd y safonau gweithredu gofynnol.

Mae’r garreg filltir bwysig hon yn dilyn cwblhau proses ymgynghori helaeth dros gyfnod o 12 mis gyda’r clybiau sy’n aelodau o’r Undeb – i ystyried sut mae grantiau craidd y gêm gymunedol yn cael eu dosbarthu rhwng y 274 o glybiau sy’n gysylltiedig ag URC.

Roedd yr adolygiad, dan arweiniad Cyfarwyddwr Cymunedol URC, Geraint John a Phennaeth Lleoedd URC, Angharad Collins, yn sail i ymweliadau â phob un o naw Ardal Undeb Rygbi Cymru. Yn ystod y nosweithiau hynny – cyflwynwyd gweledigaeth yr Undeb a chasglwyd adborth gan y clybiau.

Cafodd y cynnig, a ddatblygwyd i roi’r gamp ar lawr gwlad ymhellach wrth galon rygbi Cymru, ei gwblhau gyda chyfraniadau gan gynrychiolwyr clybiau a rhanddeiliaid allanol – ac mae bellach wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan Bwyllgor Datblygu Clybiau URC a’i gadarnhau gan Fwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd John Manders, Cadeirydd Bwrdd y Gêm Gymunedol: “Rydym yn gyffrous i gadarnhau a chyflwyno strwythur cyllido newydd a blaengar ar gyfer y gêm gymunedol. Rydyn ni’n credu y bydd yn arwain at welliant trawsnewidiol fydd yn rhoi’r cyfle i glybiau wneud cais am fwy o gyllid.

“Mae’r model hwn yn ganlyniad misoedd o gydweithio ac ymgynghori â’n clybiau, ac mae wedi’i gynllunio i sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy ac atebol i rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru.”

Mae’r cyllid newydd a’r ffocws cynyddol ar rygbi Clwb Cymunedol yn un o bileri creiddiol y strategaeth newydd ‘Cymru’n Un’ a lansiwyd ym mis Mehefin 2024. Mae’r model cyllido newydd yn sefydlu tri tharged perfformiad allweddol i glybiau eu cyflawni erbyn 2030:

· Bydd gan 95% o glybiau Gynllun Datblygu Clwb

· Bydd gan 95% o glybiau Gynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

· Bydd 100% o glybiau yn cynnal rhaglen hunanasesu barhaus

Er y bydd cyfanswm y cyllid blynyddol yn parhau i fod yn £2.84m – mae’r system newydd yn gosod meini prawf newydd a system bwyntiau ddiwygiedig – er mwyn gwneud yn siwr bod y buddsoddiad yn cael yr effaith mwyaf cadarnhaol ac effeithiol – a hynny mewn modd tryloyw a theg sy’n unol â nodau strategol Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru: “Mae’r model newydd yn adlewyrchu’r realiti bod yn rhaid i’n clybiau cymunedol ganolbwyntio gymaint ar ddiwylliant, cynhwysiant a llywodraethiant ag y mae’n nhw’n eu gwneud ar berfformiad yn y byd modern.

“Am y tro cyntaf o safbwynt y gamp ar lawr gwlad – ‘ry’n ni am wobrwyo’r rhai sy’n effeithiol wrth ddatblygu mwy o gysylltiadau gyda phobl ifanc a’u cymunedau’n gyffredinol. Bydd y clybiau unigol hynny hefyd yn ymrwymo i wneud yn siwr bod eu bod yn cynnig awyrgylch cynnes a chroesawgar i bawb – a’u bod yn cael eu rhedeg yn effeithiol hefyd er mwyn sicrhau dyfodol y clwb.”

Bydd fframwaith achredu pum haen – fydd yn canolbwyntio ar weithgareddau oddi-ar y cae yn cael ei weithredu, gan gysylltu cymorth ariannol yn uniongyrchol â chynnydd a datblygiad clwb. Y meysydd o dan sylw yn y cyd-destun hwn fydd diogelu, cynhwysiant, datblygu’r gweithlu, a rheoli cyfleusterau.

Bydd tîm Lleoedd URC yn parhau i gefnogi clybiau i fodloni’r meini prawf newydd a gwella eu safonau gweithredol. Yn ogystal bydd swydd ‘Cydlynydd Gwirfoddolwyr’ newydd yn cael ei chreu i gefnogi clybiau gyda recriwtio, cadw chwaraewyr a gwobrwyo a chydnabod gwaith allweddol gwirfoddolwyr yn eu cymunedau lleol.

Ychwanegodd Geraint John :”Ein clybiau cymunedol yw calon rygbi Cymru. ‘Ry’n ni’n credu bod y model ariannu hwn yn rhoi’r gallu, y cymorth a’r cymhelliant i’n clybiau ffynnu – ar y cae ac oddi arno hefyd. Mae dyfodol y gêm yn dibynnu ar ein gallu i addasu a chryfhau – a gyda chefnogaeth ein clybiau, ‘ry’n ni’n barod i symud ymlaen gyda’n gilydd.”

Related Topics