Mae’r Llewod wedi cadarnhau bod taith Tomos Williams ar ben wedi iddo anafu ei goes yn y fuddugoliaeth yn erbyn Western Force yn Perth ddydd Sadwrn.
Ben White – mewnwr Toulon a’r Alban sydd wedi ei alw i’r garfan yn lle Williams.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Llewod Andy Farrell: “ Yn anffodus mae anaf Tomos yn golygu na all chwarae unrhyw ran pellach yn y daith. Mae Ben White yn Seland Newydd gyda charfan Yr Alban ar hyn o bryd a bydd yn hedfan yma i Brisbane atom ar unwaith.”
Ychwanegodd Ieuan Evans, Rheolwr y Daith: “Mae hyn yn newyddion trist iawn i Tomos ac mae pawb ohonom yn gobeithio y bydd yn gwella’n fuan ac yn llwyr o’i anaf.
“Mae ymddygiad Tomos ar y daith wedi dangos ei fod yn deall yn union beth mae bod yn un o’r Llewod yn ei olygu.
“Roedd yn aelod pwysig o’r garfan yn ystod ei gyfnod byr gyda ni gan bod ei bersonoliaeth a’i ddawn yn amlwg i bawb.
“Roedd yn llawn haeddu ei le ar y daith wedi iddo gael ei enwi’n Chwaraewr y Tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.”