Curo’r Eidal o 47-19 oedd hanes bechgyn o dan 20 Cymru yn eu gêm baratoadol olaf cyn teithio i’r Eidal ar gyfer Pencampwriaeth y Byd.
Wythnos ynghynt – fe ildiodd tîm Richard Whiffin 40 pwynt heb ymateb yn erbyn Lloegr ar Barc Pont-y-pŵl – ond heddiw ar Barc yr Arfau – fe osododd 5 cais hanner cyntaf y Cymry seiliau cadarn ar gyfer y fuddugoliaeth bwysig hon.
Erbyn yr egwyl ‘roedd y Crysau Cochion ar y blaen o 33-14 o ganlyniad i ddau gais gwych Aidan Boshoff, sgôr arall gan ei gyd-asgellwr Ioan Duggan, cais arall gan y prop Ioan Emanuel a chais cosb hefyd.
Fe lwyddodd Richard Whiffin i roi amser ar y maes i 29 o chwaraewyr heddiw – ac fe lwyddodd ei dîm i drechu’r Eidalwyr yn llawer mwy cyfforddus na’r gêm enillwyd o drwch blewyn yn y Chwe Gwlad yn gynharach eleni.
Fe roddodd Aidan Boshoff y dechrau delfrydol i’r tîm cartref wrth iddo garlamu at y llinell gais o 70 metr wedi 3 munud yn unig o chwarae. Llwyddodd Ford gyda’r cyntaf o’i dri throsiad ar y noson.
Taro’n ôl wnaeth yr Azzurrini wrth i’r clo Tommaso Redondi goroni gwaith caib a rhaw dros10 cymal o chwarae. Llwyddodd Roberto Fasti i wneud pethau’n gyfartal gyda’i drosiad.
Cafodd y Cymry ergyd o ran anaf wedi 11 munud o chwarae – a bydd yn rhaid i Richard Whiffin aros am ganlyniad y prawf meddygol ar fawd y mewnwr Logan Franklin cyn penderfynu’n derfynol os bydd ar yr awyren i’r Eidal neu beidio.
Manteisio i’r eithaf ar sgarmes symudol o lein wnaeth y prop Ioan Emanuel – ychydig eiliadau wedi i’r asgellwr Matteo Morel gael ei ddanfon i’r cell cosb – ac wedi i Bendi daro’r bêl yn fwriadol allan o law Osian Darwin-Lewis – ‘roedd y Crysau Cochion wedi hawlio tri chais ac ‘roedd eu gwrthwynebwyr i lawr i dri dyn ar ddeg am gyfnod.
Roedd Ioan Duggan yn un o dri’n unig ddechreuodd y ddwy gêm baratoadol – ac fe ddangosodd ei ddoniau ochr gamu wrth iddo groesi am y cyntaf o’i ddau gais ef ar y noson.
‘Roedd Harri Ford yn un arall o’r drindod gafodd ail gyfle gan Richard Whiffin hefyd ac fe roddodd ei drosiad fantais o 19 pwynt i’w dîm.
Ond wedi i gic yr eilydd o fewnwr Sion Jones gael ei tharo’i lawr yn ei ddwy ar hugain ei hun – lleihawyd y bwlch i 12 pwynt wedi cais y bachwr Alessio Caiolo-Serra ac ail drosiad Fasti.
Wedi i Aidan Boshoff gael y gair cyntaf o ran sgorio’r ornest, asgellwr Bryste gafodd air olaf y cyfnod cyntaf hefyd wrth i’w naid acrobataidd ei alluogi i dirio cais hynod gofiadwy yn y gornel. Llwyddodd Ford gyda’r trosiad hefyd i’w gwneud hi’n 33-14 wrth droi.
Gwnaeth y ddau dîm lu o newidiadau yn ystod yr ail hanner – a braf o beth oedd gweld Harri Wilde yn holliach eto wedi’r anaf i’w goes.
Wedi 7 cais cyffrous y cyfnod cyntaf – dim ond tri chais dystiwyd yn yr ail hanner a’r Cymry hawliodd ddau o’r rheiny.
Eiliadau wedi chwiban gyntaf yr ail-ddechrau croesodd Darwin-Lewis yng nghysgod y pyst cyn i Duggan redeg o’i 22 ei hun i groesi am ei ail gais o’r ornest. Troswyd y ddais gais gan Wilde.
Wrth i’r ornest ddirwyn i ben fe barchuswyd y sgôr rhywfaint pan groesodd yr eilydd o fachwr Sasha Mistrelli am gais cysur i’r ymwelwyr.
Oni bai am rywfaint o ofid am anaf Franklin, noson foddhaol iawn i Richard Whiffin a’i garfan – cyn iddyn nhw deithio i wynebu Ariannin, Ffrainc a Sbaen ym Mhencampwriaeth y Byd.
Sgorwyr: Cymru D20: Ceisiau: A Boshoff (3, 33), I Emmanuel (15), Cais Cosb (18), I Duggan (26, 64), O Darwin-Lewis (43); Tros: H Ford 3 (4, 27, 34), 2 H Wilde (44, 65).
Yr Eidal D20: Ceisiau: T Redondi (9), A Caiolo-Serra (28), S Mistrelli (80); Tros: R Fasti 2 (10, 29)
Cymru D20 v Yr Eidal D20, Gwener 13 Mehefin, Parc yr Arfau, 4.30pm
15 Jack Woods (Caerfaddon)
14 Ioan Duggan (Dreigiau)
13 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
10 Harri Ford (Dreigiau)
9 Logan Franklin (Dreigiau);
1 Ioan Emanuel (Caerfaddon)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Dan Gemine (Gweilch)
5 Luke Evans (Caerwysg)
6 Deian Gwynne (Caerloyw)
7 Harry Beddall (Dreigiau – Capt)
8 Evan Minto (Dreigiau)
Eilyddion
Sion Davies (Caerdydd) yn lle Franklin 11; Harri Wilde (Caerdydd) yn lle Ford 41; Tom Cottle (Caerdydd) yn lle Gemine 45; Lewis Edwards (Gweilch) yn lle Boshoff 49; Evan Wood (Pont-y-pŵl / Met Caerdydd) yn lle H Thomas 55; Louie Trevett (Bryste) yn lle I Emanuel 55; Jac Pritchard (Scarlets) yn lle Scott 55; Nick Thomas (Dreigiau) yn lle Evans 55; Ryan Jones (Dreigiau) yn lle Beddall 59; Caio James (Caerloyw) yn lle Gwynne 59; Keanu Evans (Scarlets) yn lle Minto 59; Elis Price (Scarlets) yn lle S Emanuel 59; Carwyn Legatt-Jones (Scarlets) yn lle Woods 62; Sion Jones (Scarlets) yn lle Darwin-Lewis 71
Yr Eidal D20: Gianmarco Pietramala; Matteo Morel, Riccardo Ioannucci, Alessio Pensieri; Roberto Fasti, Niccolo Beni; Christian Brasini, Alessio Caiolo-Serra, Bruno Vallesi, Simone Fardin, Tommaso Redondi, Nelson Casartelli, Francesco Garlet, Giacomo Milano (capten)
Eilyddion (defnyddiwyd pob un): Sascha Mistrulli, Enoch Opoku Gyamfi, Luca Trevisan, Nicolo Corvasce, Sergio Pelliccioli, Luca Rossi, Matteo Bellotto, Francesco Braga, Nocilai Varotto, Jules Ducros, Nicola Bolognini, Antony Miranda, Nicola Bolognini, Jules Ducros, Mattia Midena, Damien Mori
Dyfarnwr: Lucas Yendle (Cymru)