Bydd Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, yn enwi capten newydd ar gyfer y daith Haf i Awstralia a Chwpan y Byd 2025. Penodwyd Lynn, a enillodd wobr Prif Hyfforddwr Rygbi Uwch Gynghrair Lloegr 2025, i arwain carfan genedlaethol Menywod Cymru – wedi i’w glwb Hartpury/Caerloyw ennill tair Pencampwriaeth o’r bron. Cymrodd Lynn, a anwyd yn […]
Bydd Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, yn enwi capten newydd ar gyfer y daith Haf i Awstralia a Chwpan y Byd 2025.
Penodwyd Lynn, a enillodd wobr Prif Hyfforddwr Rygbi Uwch Gynghrair Lloegr 2025, i arwain carfan genedlaethol Menywod Cymru – wedi i’w glwb Hartpury/Caerloyw ennill tair Pencampwriaeth o’r bron.
Cymrodd Lynn, a anwyd yn Abertawe, yr awenau gyda’i wlad lai nag wythnos cyn Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni – ac mae’r penderfyniad i newid ei gapten yn tanlinellu ei fwriad clir i gryfhau’r diwylliant cadarn o fewn y garfan ymhellach ac i arwain y tîm at lwyddiant.
Penodwyd y canolwr Hannah Jones, sydd wedi cynrychioli ei gwlad 65 o weithiau, yn gapten cenedlaethol ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2023 a bydd hi’n dal i chwarae rôl arweinyddol allweddol o fewn y garfan.
Enwodd Lynn garfan ymarfer o 45 o chwaraewyr ar gyfer yr haf – sy’n cynnwys llu o wynebau newydd o’r timau o dan 18, o dan 20 a chlybiau Cymru’n yr Her Geltaidd – er mwyn datblygu dyfnder pellach ac arwain y broses o newid a gwelliant yn y garfan genedlaethol.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae hon yn bennod newydd yn ein hanes, ac rwy’n benderfynol o arwain y newid sydd ei angen arnom fel carfan, hyfforddwyr a staff – fel ein bod ni’n gosod seiliau cadarn – fydd yn ein harwain at lwyddiant go iawn.
“Mae penodi capten newydd i Gymru yn rhan o’r broses hon. Mae gennym nifer o olynwyr posib i Hannah, ond mae angen i’r chwaraewyr hynny brofi bod ganddyn nhw’r rhinweddau sydd eu hangen i arwain y tîm cenedlaethol.
“Mae Hannah Jones wedi gwneud gwaith arbennig o broffesiynol o dan amodau heriol iawn yn ddiweddar – ond mae angen llais newydd arnom ac ‘ry’n ni’n cymryd y cam bwriadol yma i dyfu’r arweinyddiaeth o fewn y garfan ymhellach.
“Mae Hannah’n dal i fod yn aelod gwerthfawr a phrofiadol o’r garfan. Ry’n ni wedi mwynhau llwyddiant mawr gyda’n gilydd ar lefel clwb ac rydw i eisiau i ni wneud yr un peth ar lefel ryngwladol hefyd.
“Fe ddywedais yn glir pan gefais fy mhenodi gan Undeb Rygbi Cymru – mai dyma’r swydd yr oeddwn yn dyheu amdani – a bod angen y rhyddid a’r gefnogaeth arnaf i newid diwylliant y garfan, gwella safonau a herio hyfforddwyr, chwaraewyr a staff i adeiladu tîm fydd yn gwneud y genedl yn falch.
“Mae hynny’n rhywbeth ry’n ni i gyd yn bwriadu ei wneud wrth gydweithio’n galed gyda’n gilydd – ac mae datblygu mwy o arweinwyr yn gam cyntaf pwysig ar y daith honno.”
Mae Hannah Jones yn chwaraewr allweddol yng ngharfan Cymru, ac mae hi’n parhau i fod dan gytundeb proffesiynol gydag Undeb Rygbi Cymru.
Gwnaeth Jones ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Yr Alban yn 2015 – a hithau ond yn 16 oed – a thros y tair blynedd ddiwethaf – mae hi wedi ennil tair Pencampwriaeth dros y bont gyda Sean Lynn a Hartpury/Caerloyw.
Bu’n gapten ar Gymru pan ddaeth y Crysau Cochion yn drydydd ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2023 ac arweiniodd y tîm i’r WXV1 yn Seland Newydd yr un flwyddyn.
‘Roedd Hannah Jones yn un o’r dwsin o fenywod cyntaf erioed i dderbyn cynnig o gytundeb llawn amser a phroffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru yn 2022 – ac mae hi wedi bod yn aelod parhaol o’r garfan lawn ryngwladol ers hynny.