Er bod Cymru ar y blaen ar yr egwyl, colli o 47-14 fu hanes tîm Richard Whiffin yn erbyn Lloegr – wrth i garfan o Dan 20 Cymru baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi’r Byd 2025 yn Yr Eidal ddiwedd y mis.
Hon oedd y gyntaf o ddwy gêm baratoadol y tîm o fewn wythnos – a’r cyfle olaf i rai o’r bechgyn i hawlio’u lle yng ngharfan derfynol y Prif Hyfforddwr ar gyfer y gystadleuaeth.
Ar Barc Pont-y-pŵl y prynhawn yma fe dystiodd y dorf swmpus hanner cyntaf welodd y tîm cartref ar y blaen o 14-7 – wedi i geisiau Elijah Evans a Caio James gael eu trosi gan Harri Ford. Reggie Hammick diriodd unig gais Lloegr yn ystod y cyfnod agoriadol.
Wedi i gais George Timmins ac ail drosiad Josh Bellamy o’r prynhawn wneud pethau’n gyfartal yn fuan wedi troi – fe gostiodd diffyg disgyblaeth y Cymry’n ddrud iddyn nhw – a bu’n rhaid i Luke Evans a Jac Pritchard dreulio cyfnod yn y cell cosb o’r herwydd.
Aeth Pencampwyr y Chwe Gwlad ymlaen i sgorio 33 o bwyntiau pellach heb ymateb gan y tîm cartref – oedd yn cynnwys cais cosb, ail gais i Hammick, rhyng-gipiad o 70 metr gan Tyler Offiah a cheisiau pellach gan Jonny Weimann a Nic Allison.
Llwyddodd yr eilydd Ben Coen o Gaerwysg i drosi tri o’r ceisiau hynny i roi sglein pellach ar y canlyniad i’r ymwelwyr.
Bydd gan Richard Whiffin dipyn o grafu pen i’w wneud cyn y bydd yn dewis y garfan derfynol o 30 i deithio i’r Eidal ar gyfer y Bencampwriaeth, sy’n cael ei chynnal rhwng 29 Mehefin ac 19 Gorffennaf.
Bydd y cyhoeddiad hwnnw’n cael ei wneud cyn yr ornest baratoadol olaf yn erbyn Yr Eidal nos Wener nesaf.
Dydd Gwener 13 Mehefin: Cymru v Yr Eidal
Parc yr Arfau Caerdydd
17.00h
Pris tocynnau ar y giât yn £5 i oedolion gyda mynediad am ddim i rai o dan 16 oed.
Cymru D20 v Lloegr D20, Gwener 6 Mehefin, Parc Pont-y-pŵl, 3.30.
15 Lewis Edwards (Gweilch)
14 Ioan Duggan (Dreigiau)
13 Elijah Evans (Caerdydd)
12 Elis Price (Scarlets)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
10 Harri Ford (Dreigiau)
9 Sion Davies (Caerdydd);
1 Cam Tyler-Grocott (Caerdydd)
2 Saul Hurley (Aberafan)
3 Owain James (Dreigiau)
4 Dan Gemine (Gweilch)
5 Kenzie Jenkins (Bryste)
6 Ryan Jones (Dreigiau)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Evan Minto (Dreigiau – Capt)
Eilyddion
16 Evan Wood (Pont-y-pŵl /Met Caerdydd)
17 Louie Trevett (Bryste)
18 Jac Pritchard (Scarlets)
19 Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru)
20 Luke Evans (Caerwysg)
21 Deian Gwynne (Caerloyw)
22 Harry Beddall (Dreigiau)
23 Logan Franklin (Dreigiau)
24 Lloyd Lucas (Caerdydd)
25 Dylan Scott (Met Caerdydd)
26 Steffan Emanuel (Caerdydd)
27 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
28 Jack Woods (Caerfaddon)
29 Dylan Alford (Scarlets)