Bydd olwr Cymru Leigh Halfpenny’n ymuno â thîm hyfforddi Cymru ar gyfer y daith i Japan fis Gorffennaf – pan fydd y Cymry’n wynebu’r tîm cartref mewn dwy gêm brawf.
Yn ystod ei yrfa lewyrchus, fe enillodd Halfpenny 101 o gapiau dros Gymru, gan gynnwys dwy Gamp Lawn. Fe sgoriodd gyfanswm o 801 o bwyntiau dros ei wlad – sy’n ei osod yn drydydd yn llyfrau hanes ar hyn o bryd.
Gwaith Leigh Halfpenny ar y daith fydd hyfforddi sgiliau’r chwaraewyr – fel y gwnaeth gyda thîm o dan 20 Cymru yn 2022.
Bydd Halfpenny’n cydweithio gyda’r Prif Hyfforddwr Matt Sherratt, Gethin Jenkins sy’n gyfrifol am yr amddiffyn, yr ymgynghorydd sgrymio Adam Jones, hyfforddwr y blaenwyr Danny Wilson a’i gynorthwydd T. Rhys Thomas.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Matt Sherratt: “Mae’n wych bod Leigh am ymuno gyda ni ac ‘rwy’n hapus iawn gyda fy nhîm hyfforddi ar gyfer yr haf. Bydd gwybodaeth, profiad a doniau Leigh yn werthfawr iawn i’n holwyr ifanc ni.
“Mae gennym dair wythnos cyn ein bod yn cyrraedd Japan – ac mae pethau’n gyffrous o fewn y garfan wrth i ni wneud y mwyaf o’r amser paratoi sydd gennym gyda’n gilydd.”
Ychwanegodd Leigh Halfpenny: “Rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod wedi cael y cyfle hwn i weithio gyda’r garfan genedlaethol.
“Fe gefais bleser mawr yn gwneud yr un math o waith gyda’r garfan o dan 20 rai blynyddoedd yn ôl a bydd y daith dros yr haf yn gam pwysig pellach yn fy natblygiad yn y maes hyfforddi.
“Mae Neil Jenkins wedi bod yn ddylanwadol iawn arnaf trwy gydol fy ngyrfa – ac un o’r goreuon yn ei faes. Mae hi wedi bod yn fraint dysgu gan rywun o’i safon ef ac ‘rwy’n bwriadu ceisio rhannu’r hyn yr wyf wedi ei ddysgu ganddo gyda’r garfan cyn – ac yn ystod y daith.
“Tydw i ddim yn bendant beth fydd fy nghynlluniau wedi’r haf – ond yn y cyfamser, ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio gyda Matt, gweddill y tîm hyfforddi a’r garfan gyfan yr wythnos nesaf.”