News

Gwalia a Brython i barhau i gystadlu'n Yr Her Geltaidd

Yr Her Geltaidd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd Brython Thunder a Gwalia Lightning yn parhau i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Yr Her Geltaidd y tymor nesaf.

Gwnaed y penderfyniad i gynnig sefydlogrwydd i’r timau, eu chwaraewyr a’u hyfforddwyr.

Canlyniad hynny yw y bydd y ddau dîm Cymreig yn parhau i herio dau dîm o’r Alban a dau dîm o Iwerddon am y trydydd tymor o’r bron.

Mae Undeb Rygbi Cymru’n parhau i gydweithio’n agos gyda’r ddwy wlad arall i ddatblygu’r Her Geltaidd ymhellach. Er bod proses o dendro wedi ei chynnig i’r clybiau proffesiynol a rhai prifysgolion ar gyfer cynnal un o’r ddau dîm Cymreig yn Yr Her Geltaidd – penderfynwyd oedi’r broses honno am y tro.

Dywedodd Belinda Moore, Pennaeth Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru: “Gan ei bod hi’n gyfnod trawsnewidiol yng nghamp y dynion yma yng Nghymru ar hyn o bryd – dyma’r ffordd orau a mwyaf ymarferol i ni allu sicrhau ein bod yn cynnig darpariaeth elît a phroffesiynol i’n chwaraewyr ar gyfer y tymor nesaf.

“Datblygiad y chwaraewyr yw’r ffactor pwysicaf yng nghyd-destun y penderfyniad yma – a ‘does dim amheuaeth bod rygbi Menywod ar fin dechrau cyfnod arbennig o gyffrous a ffynianus.

“Mae datblygu clybiau o’r safon uchaf – sydd wedi eu gosod ar seiliau ariannol a marchnata cadarn – yn greiddiol i’n strategaeth ‘Cymru’n Un’ – a byddwn yn ail-ystyried y sefyllfa bresennol yn y dyfodol.

“Mae hon yn flwyddyn allweddol i rygbi Menywod gan bo Cwpan y Byd yn digwydd dros y bont yn Lloegr yn ystod yr Hydref. Rydym yn sicrhau bod gan y garfan genedlaethol y gefnogaeth angenrheidiol sydd ei hangen arnynt i gystadlu ar lefel uchaf y gamp.”

Related Topics