Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod Ben Flower wedi ei benodi’n aelod o dîm hyfforddi Menywod Cymru ar gyfer eu hymarferion dros yr Haf a thrwy gydol ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd hefyd.
Bydd Flower – sy’n gyn-chwaraewr rhyngwladol Rygbi Tri ar Ddeg – yn ymuno â thîm hyfforddi Sean Lynn, cyn y ddwy gêm brawf ar y daith i Awstralia ac hefyd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2025 yn Lloegr.
Mae Flower wedi cael ei benodi’n Hyfforddwr Gwrthdrawiadau a bydd yn chwarae rhan allweddol yn ystod ymarferion y garfan.
Yn ogystal â chwarae rygbi rhyngwladol – fe gynrychiolodd glybiau Uwch Gynghrair y Crusaders yng Ngogledd Cymru a Wigan a Leigh yng Ngogledd Lloegr.
Enillodd y Cwpan Her, tri theitl ‘Super League’ a Chwpan Clwb y Byd gyda Wigan – ac enillodd gyfanswm o 17 cap i dîm rygbi cynghrair Cymru.
Bu Flower yn hyfforddi tîm rygbi Jets De Cymru ac ‘roedd yn aelod o dîm hyfforddi Menywod Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd y tro diwethaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal.
Dywedodd Ben Flower, Hyfforddwr Gwrthdrawiadau Menywod Cymru: “Mae cael y cyfle i gyfrannu a chwarae fy rhan dros Gymru bob amser yn fraint – ac mae’r cyfle yma’n amhosib i’w wrthod.
“Mae cael y cyfle i helpu’r chwaraewyr ar gyfer cystadlu ar y llwyfan mwyaf un yn anrhydedd ac rwy’n edrych ymlaen ymlaen yn fawr at ymuno gyda’r garfan a bwrw ‘mlaen gyda’r gwaith.”
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae Ben yn rhywun sydd wedi gweithio gyda’r garfan o’r blaen. Yn ystod ein hadolygiad o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad – amlygwyd bod yn rhaid i ni wella yng nghyd-destun ein gwrthdrawiadau – ac felly ‘rwy’n falch – ac yn ddiolchgar iawn – bod Ben wedi ateb yr alwad.”