Mae un o wythwyr chwedlonol Cymru, Taulupe Faletau wedi ymestyn ei gytundeb gyda chlwb Caerdydd.
Gyda’i gytundeb yn dod i ben ddiwedd y mis – ‘roedd nifer o ffyddloniaid Parc yr Arfau’n ofni y byddai Faletau’n symud dramor – ond mae’r wythwr bellach wedi ymrwymo i aros yn y Brifddinas am ddwy flynedd arall.
Fe ymunodd Taulupe Faletau â Chaerdydd yn 2022 wedi iddo ddychwelyd ‘adref’ wedi cyfnod yng Nghaerfaddon. O ganlyniad i anafiadau – dim ond 23 o weithiau y mae wedi llwyddo i gynrychioli Caerdydd ers hynny – ond wedi iddo ddychwelyd i’r tîm yn gwbl holliach cyn y Nadolig – mae ei berfformiadau wedi bod yn gryf ac amlwg iawn.
Dywedodd Taulupe Faletau: “Dwi’n hapus iawn fy mod yn aros gyda Chaerdydd fel fy mod yn gallu parhau i fwynhau chwarae fy rygbi gartref fel petai. Mae bod yn aelod o’r garfan yma’n brofiad gwych ac ‘ry’n ni wedi creu awyrgylch arbennig gyda’n gilydd – ar y cae – ac oddi arno.
“Mae chwarae ar Barc yr Arfau’n brofiad a hanner hefyd a ‘dwi wastad yn ddiolchgar am y gefnogaeth angerddol yr ydym yn ei chael gan ein cefnogwyr.
“Dwi’n mwynhau gweithio gyda Matt Sherratt yn fawr ac mae ei weledigaeth a’i anogaeth i wella’n ddyddiol wedi fy herio ac fy ngwella fel chwaraewr.
“Dwi’n ddiolchar am y cyfle i aros yng Nghaerdydd am ddwy flynedd arall ac yn hyderus y bydd yn gyfnod cyffrous iawn i’r clwb.”
Yn ogystal â sicrhau gwasanaeth Taulupe Faletau am ddau dymor arall – mae Matt Sherratt hefyd wedi llwyddo i gadw’r amryddawn Rory Jennings gyda’r clwb ac mae’r Prif Hyfforddwr hefyd wedi arwyddo dau brop rhyngwladol – sef Javan Sebastian – sydd wedi ennill 11 cap dros Yr Alban a’r prop pen tynn o Gymro, Sam Wainwright. Mae Wainwright wedi cynrychioli Cymru bedair gwaith ac mae’n symud i’r Brifddinas o Barc y Scarlets.
Dywedodd Matt Sherratt: “Mae pawb yn y clwb wrth ein boddau bod Taulupe am aros gyda ni – ac mae sicrhau gwasanaeth Javan a Sam yn hwb pellach hefyd. Mae Taulupe’n un o’r chwaraewyr prin hynny sydd â gwir safon yn perthyn i bob agwedd o’i gêm. Ef yw un o’r goreuon erioed i wisgo crys enwog Caerdydd – ac ‘ry’n ni mor falch ei fod am aros yma’n y Brifddinas.”