Mae Cyn Lywydd Undeb Rygbi Cymru, Des Barnett wedi marw yn 91 oed.
Bu Des Barnett, oedd o Dreherbert, yn cynrychioli’r Ardal Ganol am dros 20 mlynedd – cyn iddo gael ei ethol yn Llywydd ar yr Undeb ym 1986.
Bu’n aelod ffyddlon o Bwyllgor Hyfforddi Undeb Rygbi Cymru ac ef oedd Llywydd ieuengaf yr Undeb ac ynta’n 52 oed.
Yn ystod ei flwyddyn wrth y llyw – digwyddodd dwy eiliad hanesyddol yn ystod y cyfnod hwnnw – wrth i Fenywod Cymru chwarae eu gêm ryngwladol gyntaf erioed ar Barc Pont-y-pŵl ac wrth i gystadleuaeth gyntaf Cwpan y Byd gael ei chynnal yn Seland Newydd ac Awstralia.
Wedi iddo wylio Liza Burgess a’i thîm yn herio Lloegr – wedi i’r menywod wneud yr holl drefniadau eu hunain – fe ddywedodd Des Barnett: “Hyd yma maen nhw wedi dibynu ar eu brwdfrydedd – ond fel Undeb rydym yn barod i wrando ar eu ceisiadau am gymorth. O ystyried llwyddiant y digwyddiad ar Barc Pont-y-pŵl – rwy’n siwr y cawn nhw ymateb cadarnhaol gan yr Undeb.”
Bellach mae rygbi Menywod yn rhan allweddol o Undeb Rygbi Cymru gyda charfan broffesiynol wrthi’n paratoi ar gyfer Cwpan y Byd ddiwedd yr haf.
Fe olynodd Carey Powell fel cynrychiolydd Ardal C ar ddechrau tymor 1965-66 ac awgrymodd ei gyd-gynghorydd, Glyn Morgan na ddylai holi cwestiwn mewn Pwyllgor “am o leiaf ddwy flynedd.”
Gwnaeth Des Barnett gyfraniad ymarferol a gwerthfawr yn dilyn streic yr athrawon yn yr 80au wrth iddo awgrymu y dylai nifer o brif chwaraewyr y garfan genedlaethol gynnig sesiynau ymarfer i nifer o chwaraewyr ifanc oedd wedi colli rhywfaint o ddiddordeb yn y gêm.
Dywedodd: “Mae gan fechgyn ifanc arwyr – a bydd dylanwad ein prif chwaraewyr yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar ein bechgyn ifanc.”
“Mae hyn yn digwydd yn Seland Newydd yn barod… a dychmygwch ymateb chwaraewyr ifanc Castell Nedd neu Gaerdydd pe byddai Jonathan Davies neu Mark Ring yn mynychu eu sesiwn ymarfer.”
Wedi iddo gael ei ddewis yn Llywydd fe geisiodd Des Barnett “gadw gwleidyddiaeth allan o’r gamp” ond fe ddywedodd hefyd y byddai’r Undeb yn “ymrwymo i gael gwared â phob math o wahaniaethu a hiliaeth o fewn rygbi Cymru.”
Bu Des Barnett hefyd yn Llywydd ar Gynghrair Criced Canol Wythnos y Rhondda ac hefyd yn aelod o Bwyllgor Marchnata a Nawdd Clwb Rygbi Pontypridd.
Bu’n ymwelydd cyson â Stadiwm Principality hyd ei ddyddiau olaf tan iddo fawr ddydd Llun y 9fed o Fehefin 2025.
Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn pob cydymdeimlad i Elaine – ei wraig ers bron i 60 mlynedd – eu dwy ferch – a gwellidd eu teulu a’u ffrindiau.