Bydd ymgyrch Menywod Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 yn dechrau gyda dwy gêm gartref. Yr Alban fydd gwrthwynebwyr carfan Sean Lynn ar Sadwrn agoriadol y gystadleuaeth – sef yr 11eg o Ebrill – gyda’r gic gyntaf am 4.40pm. Wythnos wedi hynny, Ffrainc fydd yn derbyn croeso cynnes Cymreig.
Croesi’r bont i wynebu Lloegr fydd yn rhaid i’r Cymry ar drydydd penwythnos y cystadlu – ac yna wedi wythnos o saib – croesi Môr Iwerddon i herio’r Gwyddelod ar y 9fed o Fai fydd y Crysau Cochion.
Bydd ymgyrch Cymru’n dod i ben yn erbyn Yr Eidal wyth niwrnod yn ddiweddarach Ddydd Sul yr 17eg o Fai.
Mae Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod wedi hawlio lle penodol yn y calendr rygbi ers 2021 er mwyn sicrhau bod sylw’r holl fyd rygbi ar y gystadleuaeth – fydd yn ei dro’n tyfu’r gamp ledled y byd.
Yn 2026 bydd yr holl dimau’n chwarae pob rownd ar yr un dyddiau â’i gilydd gan sicrhau bod cefnogwyr yn gallu gwylio tair o gemau yn union wedi ei gilydd.
Gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026
Cymru v Yr Alban – Dydd Sadwrn 11 Ebrill 16.40
Cymru v Ffrainc – Dydd Sadwrn 18 Ebrill 15.35
Lloegr v Cymru – Dydd Sadwrn 25 Ebrill 14.15
Iwerddon v Cymru – Dydd Sadwrn 9 Mai 18.30
Cymru v Yr Eidal – Dydd Sul 17 Mai 12.15