News

Cyhoeddi carfan estynedig o 45 ar gyfer gwersyll ymarfer menywod Cymru

Wales Women's head coach Sean Lynn
Prif hyfforddwr Merched Cymru, Sean Lynn

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Sean Lynn, wedi enwi carfan estynedig o 45 o chwaraewyr ar gyfer sesiynau ymarfer yr haf – er mwyn paratoi ar gyfer y daith i Awstralia a Chwpan y Byd yn Lloegr.

Bydd Cymru’n herio’r ‘Wallaroos’ mewn dwy Gêm Brawf’ yn ystod yr un cyfnod â Thaith y Llewod ym misoedd Gorffennaf ac Awst – cyn iddynt ddechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd yn erbyn Yr Alban ddiwedd mis Awst.

Mae’r prop Sisilia Tuipulotu yn dychwelyd i’r garfan wedi iddi golli’r holl ymgyrch Chwe Gwlad eleni o ganlyniad i anaf i’w choes.

Bydd y garfan derfynol ar gyfer y daith i Awstralia’n cael ei chwtogi i 30 – cyn i’r garfan ar gyfer Cwpan y Byd gael ei dewis wedi’r ddwy Gêm Brawf yno.

Mae’r mwyafrif o’r chwaraewyr sydd wedi eu dewis ar gyfer y garfan ymarfer estynedig hon eisoes o dan gytundeb gydag Underb Rygbi Cymru – ac mae nifer o wynebau newydd – sydd wedi creu argraff dros dimau o dan 18 ac 20 Cymru, a’r ddau dîm Cymreig yn yr Her Geltaidd – yn cael eu cyfle i ymuno gyda’r garfan hefyd.

Yn eu plith mae Lucy Isaac (blaen-asgellwr), Katherine Baverstock (prop), Stella Orin (prop), Tilly Vucaj (clo), Savannah Picton-Powell (canolwr), Seren Lockwood (mewnwr), Chiara Pearce (rheng ôl), Isla McMullen (canolwr) a Jorja Aiona (rheng ôl).

Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’n paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd 2025 yn dechrau nawr ac ‘ry’n ni gyd yn gyffrous am ddod yn ôl at ein gilydd i osod sylfeini cadarn cyn y gystadleuaeth fwyaf erioed yn hanes rygbi menywod.

“Ry’n ni wedi dewis rhai chwaraewyr addawol sydd wedi haeddu eu cyfle’n dilyn eu perfformiadau dros y timau rhyngwladol iau ac yn yr Her Geltaidd hefyd. Maen nhw’n rhan bwysig iawn o’n dyfodol a bydd y sesiynau ymarfer yma’n gyfle arbennig iddyn nhw ddysgu beth sydd ei angen ar lefel uchaf y gamp.

“Mae gan y chwaraewyr yma’r cyfle i gael eu dewis ar gyfer y daith i Awstralia a Chwpan y Byd hefyd – ond mae’n rhaid iddyn nhw gymryd eu cyfle a dangos eu bod yn barod am y gwir heriau sydd o’n blaenau.

“Mae’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff wedi cael amser i asesu’r hyn ddigwyddodd i ni yn ystod ein hymgyrch siomedig yn ystod y Chwe Gwlad. Mae’n rhaid i ni sianelu’r siom hwnnw er mwyn sicrhau gwelliant ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.

“Mae gan bob un ohonom bwynt i’w brofi – ond mae’n rhaid i ni wneud y gwaith caib a rhaw ar y maes ymarfer i ddechrau er mwyn rhoi pob cyfle i ni wella.

“Bydd y sesiynau dros yr haf yn ddigyfaddawd – ac fel ‘na mae’n rhaid i bethau fod er mwyn sicrhau gwelliant pellach. Bydd y gwaith caled hwnnw’n paratoi’r chwaraewyr ar gyfer y fraint o gynrychioli eu gwlad.

“Mae pob un ohonyn nhw’n gwybod beth sydd o’u blaenau a beth sydd yn y fantol hefyd.”

Gall Undeb Rygbi Cymru gadarnhau na chafodd Ffion Lewis, Carys Williams-Morris, Meg Webb na Niamh Terry eu dewis ar gyfer y garfan hon gan bod eu cytundebau gyda’r Undeb wedi dod i ben. Hoffai Undeb Rygbi Cymru ddymuno’r gorau iddynt ar bennod nesaf eu gyrfaoedd rygbi.

Carfan Estynedig Menywod Cymru.

Blaenwyr: Abbey Constable, Abbie Fleming, Alaw Pyrs, Alex Callender, Bethan Lewis, Bryonie King, Chiara Pearce, Carys Phillips, Donna Rose, Georgia Evans, Gwen Crabb, Gwenllian Pyrs, Gwennan Hopkins, Jenni Scoble, Jorja Aiona, Katherine Baverstock, Kate Williams, Kelsey Jones, Lucy Isaac, Maisie Davies, Molly Reardon, Natalia John, Rosie Carr, Sisilia Tuipulotu, Stella Orrin, Tilly Vucaj

Olwyr: Carys Cox, Catherine Richards, Courtney Keight, Hannah Bluck, Hannah Jones, Isla McMullen, Jasmine Joyce, Jenny Hesketh, Kayleigh Powell, Keira Bevan, Kerin Lake, Lisa Neumann, Lleucu George, Meg Davies, Nel Metcalfe, Robyn Wilkins, Savannah Picton-Powell, Seren Lockwood, Sian Jones.

Taith Haf Cymru i Awstralia

Sadwrn, Gorffennaf 26ain: Wallaroos v Cymru – Stadiwm Ballymore, Brisbane (2pm AEST)
Gwener, Awst 1af: Wallaroos v Cymru – North Sydney Oval, Sydney (7pm AEST)

 

Related Topics